Don’t Pay UK – Meddwl am beidiotalu eich bil ynni? Darllenwch hwn yn
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
11 Awst 2022
Os ydych wedi bod ar gyfryngau cymdeithasol, gwylio teledu, neu heb fod o dan garreg am y sawl wythnos diwethaf, mae’n debyg eich bod wedi clywed am ymgyrch Don’t Pay UK.
Mae’n galw ar filiynau o bobl i gytuno i beidio talu eu biliau ynni ym mis Hydref fel protest yn erbyn costau ynni cynyddol. Os ydych yn meddwl ymuno gyda’r protest neu yn methu fforddio talu eich biliau ynni ac yn meddwl gall peidio talu bod yn opsiwn, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r risgiau i gyd cyn i chi stopio unrhyw daliadau.
Beth ywymgyrch Don’t Pay UK?
Mae Don’t Pay UK yn ymgyrch sy’n annog pobl i wrthod talu eu bil ynni, neu ond talu beth allent fforddio. Ei gobaith yw cael cwmnïau ynni i roi terfyn ar brisiau cynyddol gan ddefnyddio gweithred uniongyrchol i orfodi biliau i lawr.
Mae llawer o bobl yn flin oherwydd cynnydd serth mewn prisiau ynni yn Ebrill, disgwylir i’r cap prisiau gynyddu eto yn Hydref 2022, gyda dadansoddwyr yn dweud gall bil arferol aelwyd neidio i dros £3,500 y flwyddyn gyda photensial i gynyddu’n bellach yn Ionawr yn ystod y misoedd oeraf – sydd yn rhagolwg brawychus iawn.
Beth yw’r gwaethaf all ddigwydd os nad wyf yn talu fy milynni?
Mae’n bwysig cofio eich bod yn delio gyda chwmnïau ynni preifat ac wedi llofnodi cytundeb cyfreithiol sy’n eich clymu i dalu’r hyn sy’n ddyledus. Mae biliau ynni a nwy yn cael eu hadnabod fel ‘biliau blaenoriaeth’, felly gall canlyniadau peidio eu talu fod yn ddifrifol.
Os ydych yn penderfynu eich bod am gymryd rhan yn y brotest hon, byddwch yn ymwybodol ni fydd gwrthod talu yn meddwl bydd y cwmni ynni yn dileu eich bil a gall eich gadael gyda hyd yn oed mwy i dalu mewn ffioedd a thaliadau hwyr.
Os ydych yn stopio talu, bydd eich darparwr yn adrodd unrhyw daliadau coll i asiantaethau gwirio credyd, a fydd yn gostwng eich sgôr credyd ac yn debygol o effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.
Nid oes neb yn gwybod beth fydd cwmnïau ynni yn gwneud os ydynt yn wynebu protestiadau, ond mae ganddynt sawl llwybr gallent gymryd i geisio cael yr arian sy’n ddyledus. Mae hyn yn golygu y gallent (ac maent yn cael):
- eich gorfodi i fynd ar fesurydd rhagdaledig
- pasio eich dyled ymlaen i asiantaeth casglu dyled
- gwneud cais i’r llys i gymryd yr arian allan o’ch tâl neu’ch budd-daliadau
- cymryd gweithred gorfodaeth arall fel danfon beili (swyddog siryf yn yr Alban) i’ch cartref
- stopio darparu ynni i chi fel dewis olaf.
Os ydych ar fesurydd rhagdaledig
Mae’n debyg bydd eich costau ynni hyd yn oed yn ddrytach os yw’r cwmni ynni yn cael gwarant llys i gael mynediad i’ch cartref i osod mesurydd cerdyn rhagdaledig. Os yw’r cyflenwad ynni y tu allan i’ch cartref, nid oes angen gwarant arnynt o gwbl.
Bydd unrhyw arian sy’n ddyledus yn cael ei ychwanegu i’r mesurydd hwn a bydd swm penodedig yn cael ei dynnu pob wythnos. Os na fyddwch yn talu’r swm wythnosol hwn, gall eich cyflenwad cael ei stopio - sydd yn brin iawn - ond yn bosibilrwydd a fydd yn arbennig o erchyll yn ystod y misoedd gaeaf.
Ond ni allaf fforddio fy mil – beth ddylwn ei wneud?
Efallai eich bod yn darllen hwn ac yn meddwl nad oes opsiwn arall gennych, ond dydych chi ddim am wneud eich sefyllfa ariannol yn waeth.
Yn gyntaf sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth sydd gennych hawl iddo, gan gynnwys y cymorth ychwanegol mae’r llywodraeth wedi darparu i gefnogi biliau ynni uwch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Mae hefyd pethau gallwch ei wneud er mwyn lleihau’r pwysau, ond mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’ch darparwr ynni, nid yn eu herbyn.
Y peth pwysicaf gallwch wneud yw ffonio eich darparwr a rhoi gwybod iddynt na allwch fforddio’r bil. Mae dyletswydd arnynt i’ch helpu a chreu cynllun sy’n gweithio i’r ddau ohonoch.
Hefyd, yn dibynnu ar eich darparwr, mae sawl grant a chynllun i helpu pobl sydd angen help ariannol ychwanegol – felly gofynnwch iddynt beth sydd ar gael i chi.
Edrychwch ar ein canllaw Siarad â’ch credydwr
Gallwn eich helpu i weithio allan beth fyddwch yn dweud wrthynt, eich cynorthwyo wrth weithio allan pa opsiynau gallent gynnig i chi, yn ogystal â dweud wrthych beth i wneud os nad ydych yn hoffi’r canlyniad.
Os ydych yn poeni, y peth gwaethaf gallwch wneud i’ch waled a’ch iechyd meddwl yw aros nes bod y sefyllfa yn wael iawn. Gweithredwch nawr, ac ewch i’n dudalen Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr a fydd yn eich cymryd cam wrth gam trwy beth sydd angen gwneud i wella’ch sefyllfa.
Os ydych wedi methu mwy nag un taliad ar eich bil ynni, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion.