Dod o hyd i gynghorydd ymddeoliad
Gallwch ddarganfod cynghorwyr ariannol wedi eu rheoleiddio gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) sydd yn arbenigo mewn cynllunio ymddeoliad yn ein Cyfeirlyfr Cynghorwyr Ymddeoliad
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
09 Gorffennaf 2024
Mae sgamiau pensiwn yn ymddangos ym mhob siâp a maint, ond maen nhw i gyd yn cael yr un effaith – rydych chi’n colli’ch cynilion bywyd. Ar gyfartaledd, collodd dioddefwyr sgamiau pensiwn dros £50,000 yr un, yn ôl adroddiad gan Action Fraud yn 2021. Peidiwch â gadael i eraill fwynhau eich ymddeoliad – dyma sut i adnabod ac osgoi sgamiau pensiwn, yn ogystal â’r hyn y gallwch ei wneud os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef.
Mae twyllwyr pensiwn yn defnyddio llawer o wahanol ffyrdd i geisio cael gafael ar eich arian.
Yn aml, bydd twyllwr yn cysylltu â chi yn annisgwyl. Mae hyn oherwydd y byddan nhw'n ceisio’u lwc gyda pha bynnag wybodaeth maen nhw wedi llwyddo i’w chasglu amdanoch chi, i geisio’ch perswadio i roi’r cyfan neu rywfaint o’ch cynilion pensiwn i ffwrdd.
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi am eich pensiwn ac nid oeddech wedi gofyn i gael eich cysylltu, dyma’r rhybudd i roi’r gorau i gyfathrebu a pheidiwch â derbyn eu cynigion.
Ffordd gyflym o wirio a yw galwr yn dod o gwmni dilys ai peidio yw gofyn iddynt a allwch eu ffonio yn ôl yn nes ymlaen. Os maent yn dweud na allwch eu ffonio, mae’n debygol mai twyllwr ydyw. Bydd ymgynghorydd pensiwn rheoledig bob amser yn gadael i chi gysylltu ar amser mwy cyfleus ac i drafod unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Weithiau bydd twyllwyr yn rhoi manylion i chi i’w ffonio yn ôl, ond nid yw hynny’n golygu eu bod yn sefydliad dilys. Os mai rhif ffôn symudol yw’r rhif ffôn, neu os yw’r cyfeiriad dosbarthu yn Flwch Post, dylai hwn fod yn arwydd o rybudd.
Y peth gorau i chi ei wneud yw ymchwilio’r cwmni ar gofrestr yr FCA (Opens in a new window) heb unrhyw fewnbwn gan y twyllwr posib. Os ydyn nhw ar y gofrestr, ffoniwch nhw yn ôl drwy ddefnyddio’r rhif hwnnw. Os nad ydyn nhw ar y gofrestr peidiwch â chysylltu â nhw ymhellach.
Gyda’r un hon, mae’r rheolau’n syml iawn. Bydd yn rhaid i’r mwyafrif o bobl sy’n tynnu arian o bensiwn cyn 55 oed dalu treth o 55% ar yr arian a dynnwyd allan a ffi enfawr i’r cwmni a’i trefnodd ar eich cyfer.
Yr unig amser y gallwch gael hyd at eich pensiwn yn gynnar yw os oes gennych gyflwr iechyd difrifol neu os oes gennych yr hyn a elwir yn ‘ddyddiad ymddeol gwarchodedig’ – a bu’n rhaid caniatáu hyn cyn Ebrill 2006.
Efallai y bydd rhai twyllwyr yn cyfeirio at gael eich pensiwn yn gynnar fel ‘rhyddhad pensiwn’ a ‘benthyciadau pensiwn’ neu ‘werthu’ch pensiwn’. Mae’r cyfan yn golygu’r un peth a bydd yn rhaid i chi dalu bil treth enfawr os gwnewch hynny.
Mae rhoi pwysau yn dechneg a ddefnyddir mewn sawl math o dwyll, ac nid yw’n wahanol i bensiynau. Efallai y bydd pwysau arnoch i wneud penderfyniadau am eich arian, gofynnir i chi drosglwyddo symiau mawr dros y ffôn neu anfon gwaith papur drwy ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu cyflym.
Mae penderfynu beth rydych chi'n ei wneud â’ch cynilion bywyd a sut rydych chi eisiau i’ch pensiwn gael ei sefydlu yn benderfyniadau mawr sy’n newid bywyd. Os yw rhywun eisiau i chi symud yn gyflym, nid ydynt yn meddwl am yr hyn sydd orau i chi. Cadwch draw.
Byddwch yn clywed am y math hwn o addewid mewn llawer o fathau eraill o dwyll arian, ac mae bob amser yn arwydd o rybudd nad yw rhywbeth yn gyfreithlon. Os cynigir enillion uchel iawn i chi, mae risg sylweddol bob amser, ond yn yr achos hwn, dim ond celwydd ydyw i’ch cael chi i drosglwyddo llawer o’ch cynilion.
Mae’r rhain yn addewidion ffug i’ch cael chi i rannu’ch arian. Mae cynilo i mewn i bensiwn eisoes yn effeithlon o ran treth, felly nid yw unrhyw gynilion treth ychwanegol yn gymwys i gael mwy fyth o gynilion treth.
Efallai y byddwch yn gweld cwmnïau’n defnyddio geiriau ac ymadroddion penodol yn eu henw neu fel rhan o’u parabl marchnata, gyda’r effaith o’u gwneud i swnio’n swyddogol, neu hyd yn oed yn cael eu cefnogi gan y llywodraeth.
Efallai y bydd rhai o’r sefydliadau y byddan nhw’n ceisio cysylltu eu hunain gydag yw Pension Wise, neu’n HelpwrArian. Ni fyddwn ni nac unrhyw un o’r sefydliadau hyn byth yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Yn aml, bydd cwmnïau sy’n ceisio cael gafael ar eich arian pensiwn yn defnyddio detholiad o eiriau sy’n swnio’n drawiadol, ond yn golygu ychydig iawn ac yn arwydd clir bod y cynnig yn ffug. Dyma rai i fod yn wyliadwrus ohonynt:
Neu fuddsoddiad sydd wedi’i ddisgrifio fel:
Unwaith y byddwch chi’n gwybod yr hyn i edrych amdano, mae yna ychydig o gamau y gallwch chi eu cymryd i’ch helpu i osgoi cael eich twyllo.
Peidiwch â chymryd galwadau, ymateb i e-byst neu negeseuon testun, na siarad â phobl sy’n curo ar eich drws nad ydych chi'n eu disgwyl.
Peidiwch â cheisio cael eich pensiwn cyn i chi droi’n 55 oed, oni bai eich bod yn ddifrifol o sâl.
Ystyriwch addewidion o enillion uchel a seibiant rhag talu treth fel arwyddion sicr o dwyllwyr.
Gwnewch ychydig o ymchwil ar unrhyw gwmnïau rydych chi’n ystyried gweithio gyda nhw i hybu’ch pensiwn. Y peth cyntaf i’w wneud yw mynd i gofrestr yr FCA i weld a yw’r cwmni’n cael ei reoleiddio, ac yna ewch i restr rybuddion yr FCA i weld a oes gan y cwmni hanes blaenorol o ddelio amheus.
Os credwch y gallai sgamiwr pensiwn fod wedi’ch targedu, dylech roi gwybod amdano cyn gynted â phosibl. Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i adennill eich arian o bosib neu hyd yn oed atal eraill rhag dioddef.
Os oedd y sgam yn ddiweddar, cysylltwch â’ch darparwr pensiwn. Efallai y gallant ymyrryd â’r trosglwyddiad ac atal y twyllwr rhag hawlio’ch pensiwn. Gallwch hefyd ffonio’r Uned Troseddau a Sgamiau Ariannol ar 0800 015 4402 i weld pa gymorth arall sydd ar gael.
Dywedwch wrth Action Fraud beth ddigwyddodd ar 0300 123 2040 neu drwy riportio’r sgam ar ei wefan (Opens in a new window) Mae’n bwysig gwneud hyn, hyd yn oed os oedd y sgam amser hir yn ôl.
Mae HelpwrArian yn cynnig apwyntiadau Colli Pensiwn am ddim gyda'n harbenigwyr. Ffoniwch ni ar 0800 015 4402 neu cwblhewch ein hymholiad PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd i drefnu sesiwn.
Unwaith y byddwn yn gwybod beth ddigwyddodd i'ch pensiwn, gallwn ddweud wrthych a allech hawlio iawndal. Os na chawsoch eich sgamio'n ddiweddar, mae’n annhebygol y byddwch yn cael eich holl arian yn ôl, ond os gallwch hawlio rhywbeth, mae’n werth ei wneud.
Gallwch ffonio'r Uned Troseddau Ariannol a Sgamiau ar 0800 015 4402 i gael gwybod sut y gallech ailadeiladu eich cronfeydd pensiwn, cael y gorau o'ch Pensiwn y Wladwriaeth a gweld a ellir gwella unrhyw un o'ch pensiynau. Byddwn hefyd yn dweud wrthych sut i olrhain hen bensiynau y gallech fod wedi colli mynediad atynt.