POV: Rydych chi ar eich ffordd i'r maes awyr ac yn darganfod bod eich hediad wedi'i ganslo.
Cyn i chi boeni, dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Os yw’ch hediad wedi’i ganslo, mae’n rhaid i’ch cwmni hediad gynnig un o dri pheth i chi:
- ad-daliad llawn mewn arian parod. Nid oes rhaid i chi dderbyn taleb
- hediad amgen mor fuan â phosibl
- hediad diweddarach sy’n addas i chi.
Ac os yw eich hediad yn cyrraedd fwy na thair awr yn hwyr? Gallai fod hawl gennych i iawndal o hyd at £520 y teithiwr.
Os ydych chi'n gorfod aros, gall cwmnïau awyr hefyd dalu costau bwyd, diodydd a hyd yn oed arhosiad gwesty o dan yr hyn a elwir yn "hawl i ofal".
Un peth i'w gofio: os oedd yr oedi wedi'i achosi gan rywbeth tu fas i reolaeth y cwmni awyr, fel tywydd eithafol, rhyfel neu streic rheolaeth traffig awyr, mae'n debyg na fyddwch chi'n cael iawndal, ond efallai y bydd gennych hawl i gymorth o hyd.
Os ydych chi wedi trefnu gwyliau pecyn ac mae’n cael ei ganslo, fel arfer mae gennych hawl i ad-daliad arian parod llawn o fewn 14 diwrnod.
A chofiwch i gadw neu dynnu llun o'ch derbynebau bob amser. Os oes angen i chi dalu am fwyd, trafnidiaeth, neu westy, bydd angen tystiolaeth arnoch i hawlio'r arian yn ôl.
Gweler HelpwrArian am ddolenni a mwy o awgrymiadau am pan fydd gwyliau’n cael eu dinistrio.