Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Hafan blog
  3. Blogiau arian bob dydd
Hafan blog Blogiau arian bob dydd

Sut i ddefnyddio llai o danwydd a lleihau costau gyrru

Dyn yn gyrru car

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:

10 Awst 2026

A yw gormod o'ch cyllideb yn cael ei wario ar betrol neu ddiesel? Dysgwch sut i ddefnyddio llai o danwydd, cadw'ch car i redeg mor economaidd â phosibl a dod o hyd i'r lle rhataf pan fydd angen i chi lenwi'r tanc.

Y ffyrdd cyflymaf o wario llai ar danwydd

Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth i'ch costau tanwydd ac i'r amgylchedd.

I ddefnyddio llai o danwydd:

  • gyrrwch yn esmwyth ac osgoi brecio'n sydyn
  • gostyngwch eich cyflymder
  • gwiriwch bwysedd eich teiars yn rheolaidd
  • tynnwch bwysau diangen o'ch cerbyd
  • cyfunwch sawl dasg mewn llai o deithiau
  • cymharwch brisiau tanwydd cyn llenwi'r tanc.

Dewch o hyd i betrol a diesel rhatach yn eich ardal – heb yrru yn rhy bell

Gall prisiau tanwydd amrywio'n sylweddol, hyd yn oed rhwng gorsafoedd petrol sydd ond ychydig filltiroedd ar wahân. Os oes angen ychwanegu tanwydd at y tanc, edrychwch ar y prisiau cyn cychwyn er mwyn osgoi talu mwy nag sydd angen.

Canfyddwr prisiau petrol

Dewch o hyd i'r prisiau petrol a diesel gorau yn eich ardal chi o ddata llywodraeth fyw. 

Ond peidiwch â gwastraffu tanwydd wrth fynd ar ôl bargen; dim ond os yw’r arbediad yn werth y milltiroedd ychwanegol y dylech wyro oddi ar eich taith. Fel arfer, mae hyn yn golygu y dylech osgoi gyrru mwy na 2 filltir (taith gron) am bob 1c y litr a arbedir. I wirio'r cyfrifiad ar gyfer taith go iawn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell milltiroedd yr RACYn agor mewn ffenestr newydd

Mae gorsafoedd petrol archfarchnadoedd yn aml yn rhatach na gwasanaethau traffordd, a all godi pris uwch am fod llai o ddewisiadau eraill gerllaw. Mae gan rai gorsafoedd lleol bach brisiau da a chwsmeriaid ffyddlon hefyd. Oni bai bod gennych gar perfformiad uchel, mae'n iawn defnyddio tanwydd safonol.

Os ydych yn gyrru cerbyd trydan, defnyddiwch apiau fel Zapmap i ddod o hyd i leoedd gwefruYn agor mewn ffenestr newydd Ystyriwch newid i dariff ynni penodol ar gyfer cerbydau trydan, gan fod y rhain fel arfer yn cynnig cyfraddau rhad am sawl awr y dydd. Yna, cynlluniwch i wefru'ch car gartref yn ystod yr amseroedd hynny. Gall hyn fod hyd at 90% yn rhatach na chyfraddau gwefru cyhoeddus.

Gyrrwch yn fwy effeithlon i ddefnyddio llai o danwydd

Gall gyrru'n esmwyth eich helpu i ddefnyddio llai o danwydd a lleihau traul ar eich cerbyd.

Ceisiwch:

  • gyflymu'n araf i gyrraedd y cyflymder cywir ar gyfer cyflwr y ffordd
  • gadael bwlch rhyngoch chi a'r car o'ch blaen
  • ragweld beth allai fod o'ch blaen neu rownd y gornel er mwyn osgoi gorfod brecio'n galed ar y funud olaf.

Os ydych yn gyrru car â gêr â llaw, gall symud i gêr uwch pan fo'n briodol helpu i ddefnyddio llai o danwydd. Mae gyrru ar chwyldroadau uchel yn defnyddio mwy o danwydd, felly newidiwch gêr yn gynnar er mwyn gwneud y newid yn fwy esmwyth.

Gwrandewch ar eich car: po gyflymaf y mae'r injan yn troi, y mwyaf o danwydd y mae'n ei ddefnyddio.

Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn datgan y gallwch ddefnyddio 15% yn llai o danwydd drwy yrru ar 50 milltir yr awr (mph) yn hytrach na 70 mph. Gall yr arbediad fod ddwywaith cymaint os ydych yn gyrru cerbyd trydan. Cofiwch ystyried gostwng eich cyflymder dim ond pan fo'n ddiogel ac yn gyfreithlon gwneud hynny.

Ceisiwch osgoi teithio lle mae'n rhaid stopio a chychwyn yn aml drwy ragweld traffig, cyffyrdd a goleuadau traffig, lle bo modd. Mae cynnal cyflymder cyson, er enghraifft ar draffyrdd neu ffyrdd A, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Bydd rheolydd mordeithio yn helpu i leihau'r defnydd o betrol neu ddiesel ar arwyneb gwastad a chyson fel traffordd, gan ei fod yn osgoi cyflymu'n ddiangen. Fodd bynnag, nid dyma'r ateb ar ffyrdd bryniog nac wrth yrru mewn ardaloedd trefol.

Sut i osgoi gwastraffu tanwydd

Os oes rhaid i chi aros, er enghraifft wrth gasglu plant o'r ysgol neu wrth aros i ddamwain gael ei chlirio, a oes wir angen cadw'r injan i redeg? Ar gyfer teithiau byr iawn, a allech gerdded, beicio neu fynd ar y bws yn lle hynny? Byddwch hefyd yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwella ansawdd yr aer.

Gall aerdymheru gynyddu'r defnydd o danwydd, felly ystyriwch a oes ei angen arnoch drwy gydol y daith. Os yw'n boeth, mae agor y ffenestri'n fwy effeithlon – nes bod y sŵn y tu allan yn amharu arnoch gormod. Mewn car modern, mae defnyddio'r seddi wedi'u gwresogi'n well na cheisio cynhesu'r cerbyd cyfan.

Cynlluniwch deithiau i ddefnyddio llai o danwydd (ac arbed amser hefyd)

Wedi rhedeg allan o laeth ac angen mynd yn ôl i'r siopau? Ceisiwch gynllunio teithiau fel eich bod yn cyflawni cymaint o dasgau â phosibl mewn un daith. Mae hyn yn well i'ch injan gan ei fod yn golygu llai o gychwyniadau oer. Mae injan gynnes yn defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon.

Os gallwch, dewiswch lwybrau sy'n osgoi tagfeydd a llawer o yrru lle mae’n rhaid stopio a chychwyn yn aml. Gall eich system llywio â lloeren helpu, neu rhowch gynnig ar declyn cynllunio yr AA, Yn agor mewn ffenestr newydd yr RAC Yn agor mewn ffenestr newydd, Google Maps a WazeYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes gennych rywfaint o hyblygrwydd o ran amser, teithiwch y tu allan i'r oriau prysur er mwyn osgoi cael eich dal mewn traffig. Efallai y gallwch hefyd rannu car neu rannu lifftiau.

Gwiriadau syml ar eich car a all eich helpu i gael mwy o filltiroedd o bob galwyn o danwydd (MPG)

Bydd dod i'r arfer o roi sylw rheolaidd i'ch car, fan neu feic yn helpu i gadw'ch costau i lawr.

Ceisiwch:

  • Wirio'ch teiars o leiaf unwaith y mis a chyn teithiau hir.
  • Gadw at waith gwasanaethu a chynnal a chadw rheolaidd, gan gynnwys olew, hidlyddion a hylifau.
  •  Ymdrin ag unrhyw oleuadau rhybudd a phroblemau mecanyddol yn gynnar er mwyn osgoi problemau mwy yn ddiweddarach.

Lleihau gwrthiant a phwysau

Dyma ffordd hawdd o arbed y mae llawer ohonom yn ei methu. Efallai y bydd yn dipyn o drafferth am ychydig funudau i dynnu raciau neu flychau to pan nad ydych yn eu defnyddio, ond mae llai o wrthiant yn golygu mwy o arian yn eich poced.

Cofiwch leihau'r llwyth drwy dynnu eitemau trwm allan o'r gist hefyd.

Os yw costau tanwydd yn dal yn rhy uchel, beth arall allwch chi ei wneud?

Edrychwch eto ar eich cyllideb i weld a allwch ryddhau rhywfaint o arian. Edrychwch ar ein hwb costau byw am declynnau, syniadau ymarferol a chymorth os yw'ch incwm dan bwysau, neu darllenwch ein canllaw ar gostau rhedeg car.

Yn olaf, gwiriwch a oes iawndal yn ddyledus i chi am gyllid car a gafodd ei gamwerthu.

Cwestiynau cyffredin

Beth yw'r peth cyflymaf y gallaf ei wneud heddiw i ddefnyddio llai o danwydd?

Dewiswch unrhyw un o'r rhain: gyrru'n esmwyth, gostwng eich cyflymder, gwirio'ch teiars, tynnu pwysau ychwanegol, cynllunio'ch teithiau a chymharu prisiau tanwydd.

A yw'n werth gyrru ymhellach i gael tanwydd rhatach?

Dim ond os yw’r arbediad yn werth y milltiroedd ychwanegol y dylech wyro oddi ar eich taith. Ceisiwch osgoi gyrru mwy na 2 filltir (taith gron) am bob 1c y litr a arbedir.

A yw pwysedd teiars wir yn gwneud gwahaniaeth i effeithlonrwydd tanwydd?

Ydy. Mae teiars sydd heb ddigon o aer ynddynt yn creu mwy o wrthiant wrth rolio, yn gwneud i’r injan weithio’n galetach ac yn defnyddio mwy o danwydd. Gallant fod yn beryglus hefyd.

Pan fo’r pwysedd yn isel, mae ymylon allanol y teiars yn treulio’n gynt; pan fo gormod o aer ynddynt, y canol sy’n treulio’n gynt. Mae traul anwastad ar y gwadn yn lleihau oes eich teiars, ac nid ydynt yn rhad i’w newid.

A yw gyrru'n arafach bob amser yn lleihau'r defnydd o danwydd?

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ydy. Ond nid os ydych yn gyrru yn y gêr anghywir neu os nad ydych yn addasu eich gyrru i’r amodau.

Mae gostwng eich cyflymder yn lleihau gwrthiant y gwynt ac yn arbed tanwydd, ond bydd gyrru lle mae’n rhaid stopio a chychwyn yn aml yn gwastraffu petrol neu ddiesel. Ar ffordd A agored, anelwch fel arfer at gyflymder o 50 i 60 milltir yr awr. Ar draffordd, o ystyried effeithlonrwydd tanwydd a’r terfyn cyflymder, gallwch fynd hyd at 70 milltir yr awr yn aml.

Beth os na allaf yrru llai?

Os ydych yn byw mewn ardal wledig neu os oes angen cerbyd arnoch ar gyfer eich gwaith, gall gyrru fod yn hanfodol.

Ceisiwch yrru mor effeithlon â phosibl, dewiswch y car cywir ar gyfer eich ardal a chadwch wirio prisiau petrol. Cadwch lygad am gynigion archfarchnadoedd a chynlluniau teyrngarwch hefyd.

Awdur Lucy Lamble
Nol i’r brig
Rhannwch y post hwn
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Tagiau
Ceir Pob postiadau blog

Swyddi diweddaraf

Gall credyd weithio o blaid eich cyllid

31 Gorffennaf 2026

Sut i ddiogelu eich cyllid yn ystod cyfnodau ansicr

31 Gorffennaf 2026

Tariffau cymdeithasol: sut i gael band eang, ffôn a dŵr rhatach os ydych chi ar fudd-daliadau

20 Gorffennaf 2026

Mwy o bostiadau blog
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012