Ydych chi wedi methu taliad?
Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Medi 2023
O dan reolau newydd pwysig, mae'n rhaid i gwmnïau gwasanaethau ariannol sicrhau 'canlyniadau da'. Mae hyn yn golygu y dylent fod yn hawdd i ddelio â nhw, rhaid iddynt helpu i ddatrys problemau ac, yn y pen draw, ni allant gymryd mantais ohonoch chi. Dyma beth ddylech chi ei ddisgwyl, a beth i'w wneud os nad yw'ch darparwr yn cyrraedd y nod.
Dylen ni i gyd fod â disgwyliadau uchel o gwmnïau ariannol - wedi'r cyfan, nhw fel arfer yw'r rhai sy'n gofalu am ein harian. Fodd bynnag, gyda'r atgofion nid-rhy-bell o'r chwalfa ariannol a sgandalau cam-werthu enfawr, mae lefelau ymddiriedaeth yn cael eu hadfer o hyd.
I helpu, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA, rheoleiddiwr y diwydiant) wedi cyhoeddi rheolau newydd i ddarparwyr gwasanaethau ariannol eu dilyn - o'r enw Dyletswydd at Ddefnyddwyr. Mae hyn yn golygu y dylai cwmnïau bob amser eich helpu i wneud penderfyniadau ariannol da, a noda’r Awdurdod fod:
Cyhyd â bod y cyfrif, y cynnyrch neu'r gwasanaeth sydd gennych yn dal ar gael i gwsmeriaid newydd, mae'r rheolau hyn yn berthnasol. Fodd bynnag, hyd yn oed os oes gennych gynnyrch hŷn nad yw ar werth o hyd, dylai cwmnïau barhau i'ch trin yn deg – felly dylech gael disgwyliadau tebyg.
P'un ai ydych chi'n athrylith ariannol yn monitro'ch cyfrifon bob dydd, neu fod y syniad o reoli arian yn eich anfon i gysgu, rydyn ni i gyd eisiau i'n buddiannau pennaf gael eu gofalu amdanynt. Eto i gyd, yn y gorffennol mae tactegau gwerthu rhai cwmnïau wedi manteisio ar y rhai sydd â diffyg gwybodaeth o bryd i'w gilydd, yn enwedig os nad ydyn nhw'n gwybod sut i’w newid.
Er enghraifft, mae'r cyfraddau cynilo uchaf wedi bod yn cynyddu'n raddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf – gyda rhai wedi cynyddu ddengwaith cymaint. Eto i gyd, byddai angen i chi fod yn gynilwr brwd i fanteisio, gan symud eich arian yn rhagweithiol i gyfrifon gwahanol, gan fod llawer o fanciau yn gadael cwsmeriaid ar gyfraddau isel.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r Ddyletswydd at Ddefnyddwyr wedi'i chynllunio i sicrhau bod cwmnïau'n gwerthu'r cynhyrchion cywir i'r bobl gywir, ac yn gwirio'n rheolaidd eu bod yn dal yn addas.
Mae ei rheol gwerth teg eisoes wedi'i defnyddio i ddal darparwyr cynilion yn atebol am beidio â throsglwyddo cyfraddau uwch i gwsmeriaid. Fel rhan o hyn, rhaid i gwmnïau esbonio sut mae pob cyfrif yn cynrychioli gwerth da i gwsmeriaid.
Nid yw'r rheol 'gwerth teg' yn golygu bod yn rhaid i'r cynnyrch neu'r gwasanaeth fod y gorau ar y farchnad, mae’n golygu na all cwmni gynnig gwerth gwael. Felly, er y dylai hyn olygu eich bod yn cael cynnig pris teg, byddwch yn dal yn well eich byd o gymharu bargeinion gan wahanol ddarparwyr.
Gweler ein canllaw ar ddefnyddio gwefannau cymharu am help llawn.
Y peth cyntaf i'w wneud os ydych chi'n poeni am wneud ad-daliadau, fel eich bil cerdyn credyd, yw cysylltu â'ch darparwr i osgoi mynd i ddyled.
O dan y Ddyletswydd at Ddefnyddwyr, dylent ddarparu cymorth defnyddiol a hygyrch i ddefnyddwyr a byddant yn cymryd amser i ddeall eich sefyllfa a dod o hyd i ffyrdd y gallant eich helpu. Mae gennym help llawn yn ein canllaw Siarad â'ch Credydwr.
Fodd bynnag, os ydych eisoes wedi methu taliad am fil blaenoriaeth fel eich morgais, treth gyngor neu eraill, efallai y byddwch yn elwa o gyngor dyled proffesiynol.
O dan y Ddyletswydd at Ddefnyddwyr, dylai cwmnïau fod yn hawdd i’w cysylltu â nhw, gyda chymorth i gwsmeriaid defnyddiol. Felly os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich siomi gan eich darparwr, peidiwch ag aros yn dawel. Yn hytrach, dilynwch y camau hyn:
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw llawn ar sut i wneud cwyn.