Ydych chi wedi sylwi bod eich sgôr credyd wedi gostwng?
Mae yna lawer o resymau pam y gallai hynny fod wedi digwydd.
Nid methu taliadau neu ddiffygdaliad ar fenthyciad yw'r unig reswm y gall eich sgôr credyd ostwng.
Gall fod oherwydd eich bod wedi gwneud llawer o geisiadau mewn cyfnod byr, eich bod wedi cau cyfrif neu oherwydd eich bod yn defnyddio mwy o'r credyd sydd ar gael i chi.
Os ydych chi wedi symud, wedi newid eich enw, gall hynny hefyd gael effaith tymor byr.
Mae'n bwysig gwirio'r ffeil am unrhyw wallau. Cysylltwch â'r credydwr os oes unrhyw fenthyciad ar eich cyfrif na wnaethoch gais amdano.
Gweler gwiriad credyd HelpwrArian.