Cyhoeddwyd ar:
07 Chwefror 2023
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
12 Gorffennaf 2023
Mae prisiau tai yn gostwng, a allai ei gwneud yn amser da i brynu cartref. Ond gyda chyfraddau morgais uwch, gallai'r swm y gallwch ei fforddio fod yn is. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Mae cartref yn werth yr hyn y bydd rhywun arall yn ei dalu. Ac, wrth i gyfraddau morgais godi, mae'r swm y gall pobl fforddio ei fenthyg wedi gostwng.
Mae hyn yn golygu bod prisiau tai hefyd yn dechrau gostwng. Mae gwefan eiddo Zoopla yn rhagweld y gallent fod 2-3% yn isYn agor mewn ffenestr newydd erbyn diwedd y flwyddyn, o'i gymharu â mis Ionawr 2023.
Mae cyfraddau morgais fel arfer yn seiliedig ar gyfradd sylfaenol Banc Lloegr, sydd wedi codi bum gwaith eleni. Mae hyn yn golygu bod morgeisi newydd, neu'r rhai lle nad yw'r gyfradd llog yn sefydlog, wedi cynyddu hefyd.
Ar gyfer morgais o £200,000, byddwch fel arfer yn talu £400 yn fwy bob mis o'i gymharu â mis Tachwedd 2021. Gweler sut mae cyfraddau llog yn effeithio ar eich morgais am fwy o wybodaeth.
Ecwiti negyddol yw pan fydd eich morgais yn uwch na gwerth eich cartref. Mae hyn yn digwydd os yw gwerth eich tŷ yn is na'r swm a dalwyd gennych fel blaendal.
Er enghraifft, os ydych yn prynu fflat am £150,000 gyda blaendal o £15,000 a morgais o £135,000. Mae prisiau tai yn gostwng ac mae eich fflat nawr yn werth £130,000 yn unig, ond mae £135,000 yn ddyledus gennych i'ch benthyciwr morgais o hyd.
Os oeddech chi wedyn eisiau gwerthu'ch cartref, byddai angen i chi gael arian i ad-dalu’ch morgais sy'n weddill, ynghyd â digon ar gyfer blaendal newydd a chostau symud.
Mae p'un a yw'n syniad da prynu nawr yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Os bydd prisiau tai yn parhau i ostwng efallai na fydd angen morgais neu flaendal mor fawr arnoch.
Ond os ydych chi'n hyderus y byddwch chi'n gallu parhau i dalu'r ad-daliadau morgais, hyd yn oed pe bai cyfraddau llog yn codi ymhellach, gallai prynu nawr wneud synnwyr. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi'n bwriadu byw yn yr eiddo hwnnw am beth amser, yn hytrach na'i ailwerthu yn fuan wedyn.
Os yw'n eiddo buddsoddi, bydd angen i chi fod yn barod i werth eich cartref leihau o bosibl. Efallai y bydd yn cymryd peth amser i'w werth gynyddu eto.
Os ydych chi wedi penderfynu bod yr amser yn iawn i brynu, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael y cytundeb gorau. Yn gyffredinol, bydd cynilo blaendal mwy yn cynyddu eich opsiynau morgais.
Gall ein cyfrifiannell Morgais eich helpu i gyfrifo'r hyn y byddant yn ei gostio i chi. Gallwch hefyd siarad ag ymgynghorydd morgais.
Bydd angen i chi ystyried cost treth pan fyddwch yn prynu eiddo neu dir. Bydd ein cyfrifianellau yn dangos faint y bydd angen i chi ei dalu, yn dibynnu ar ble rydych chi'n prynu: