Beth yw taliad caledi a phwy sydd â hawl iddo?

Cyhoeddwyd ar:

Wedi'i ddiweddaru diwethaf:

Wedi cael eich sancsiynu? Os ydych yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd cyn rydych yn derbyn eich budd-daliadau’n ôl, gallwch fod yn gymwys am daliad caledi.

Beth yw taliad caledi o’r Ganolfan Gwaith?

Telir taliadau caledi yn bennaf i bobl sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol, y mae eu budd-daliadau wedi’u hatal ac sydd angen arian i fforddio hanfodion sylfaenol fel bwyd neu wres, neu sy’n agored i niwed neu sy’n gofalu am bobl a fyddai mewn perygl.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cais am daliadau caledi os ydy ei fudd-daliadau wedi cael eu atal oherwydd maent wedi cael ei sancsiynu am beidio â chadw telerau eu hymrwymiadau hawlydd neu fethu cyfweliadau neu apwyntiadau pwysig.

Gall taliadau caledi hefyd gael eu talu os ydych yn aros am daliad budd-dal, os oes gennych angen difrifol ac nid oes modd i chi hawlio taliad ymlaen llaw neu daliad budd-dal tymor byr ymlaen llaw.

Fel arfer ni allwch gael taliad caledi os ydych yn fyr o arian neu angen talu am gost brys. 

A allaf gael taliadau caledi ar Gredyd Cynhwysol?

Gallwch ond gwneud cais am daliad caledi os ydych yn cael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Credyd Cynhwysol (UC)

A allaf gael taliad caledi ar ESA neu JSA?

Os ydych yn cael ESA yn seiliedig ar incwm neu JSA yn seiliedig ar incwm gan fod incwm eich cartref a’ch cynilion yn isel iawn, efallai y byddwch yn gymwys am daliad caledi os gallwch ddangos bod gennych angen difrifol.

Os ydych yn cael JSA neu ESA dull newydd neu gyfrannol, bydd incwm a chynilion eich cartref yn cael prawf modd.  Os yw’r naill yn rhy uchel ac nad ydych yn cwrdd ag amodau am gael ESA yn seiliedig ar incwm neu JSA yn seiliedig ar incwm, ni fyddwch yn cael taliad caledi.

A allaf gael taliad caledi?

Er mwyn bod yn gymwys am daliad caledi rhaid eich bod yn methu talu am hanfodion, a rhaid bod 100% o’ch lwfans personol JSA neu ESA, neu eich lwfans safonol Credyd Cynhwysol i gyd, wedi cael ei leihau.

Fel arfer mae taliadau ond yn cael eu rhoi i bobl sydd 18 oed neu’n hŷn, ond gall fod pobl 16 neu 17 oed fod yn gymwys mewn amgylchiadau penodol.

Bydd angen i chi brofi’r rheswm pam fod angen taliad caledi arnoch a dangos nad oes gennych fynediad at arian neu gynilion eraill, methu benthyg o deulu neu ffrindiau ac rydych wedi ceisio cael cymorth arall yn gyntaf, fel help gan eich cyngor lleol neu elusen. Bydd angen i chi fod yn barod i ddarparu cymaint o dystiolaeth ategol ag y gallwch i ddangos y byddwch mewn angen difrifol. 

Ydy taliad caledi yn fenthyciad? A oes rhaid i mi ei dalu’n ôl?

Ar hyn o bryd, os ydych yn hawlio ESA neu JSA nid oes angen ad-dalu taliadau caledi.

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, bydd gofyn i chi dalu’r arian yn ôl.

Ar ôl i’ch sancsiwn dod i ddiwedd, fel arfer mae arian yn cael ei gymryd o’ch Credyd Cynhwysol nes eich bod wedi ad-dalu’r taliad caledi llawn. Os yw hwn yn debygol o’ch rhoi mewn dyled, dylech ofyn i’ch anogwr gwaith wneud yr ad-daliadau yn fforddiadwy. Gallwch ofyn cynghorydd dyled am help i wneud hwn. 

Faint ydych chi’n ei gael am daliad caledi?

Telir taliadau caledi ESA a JSA ar 60% o’r ESA yn seiliedig ar incwm neu JSA yn seiliedig ar incwm. Mae’r rhain yn fudd-daliadau prawf modd a dim ond ar gael os yw incwm a chynilion y cartref yn isel.

Os ydych yn cael JSA neu ESA cyfrannol neu ddull newydd, bydd incwm a chynilion eich cartref yn cael prawf modd i wirio a ydych yn cwrdd â’r amodau am gael ESA yn seiliedig ar incwm neu JSA yn seiliedig ar incwm. Os yw’ch incwm a chynilion yn rhy uchel, ni fyddwch yn cael taliad caledi.

Telir taliadau caledi Credyd Cynhwysol ar 60% o’ch taliad UC arferol.

Os yw’ch rheswm am wneud cais am daliad caledi yn ddifrifol iawn, gallwch gael hyd at 80% o’ch taliadau arferol.

Gallai’r amgylchiadau lle gallech gael taliad uwch fod oherwydd eich bod chi neu’ch partner yn feichiog neu’n ddifrifol wael.

Os yw’ch cais yn llwyddiannus, gallwch dderbyn taliadau caledi am gyfnod eich sancsiwn. Os ydych yn cael eich sancsiynu eto bydd angen ail-geisio am daliad caledi arall.

Sut i wneud cais am daliad caledi

Os ydych ar JSA neu ESA dylech naill ai gofyn am daliadau caledi mewn person yn swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith, neu ffonio canolfan gyswllt y DWP ar 0800 1690310.

Dylid trefnu apwyntiad i chi ar yr un diwrnod neu'r diwrnod wedyn. Byddwch yn cael ffurflen JSA/ESA10JP i’w llenwi cyn eich cyfweliad gyda swyddog caledi. Os byddwch yn trefnu apwyntiad dros y ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd 10 munud yn gynnar i lenwi’r ffurflen ar ddiwrnod eich cyfarfod.

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol gofynnwch eich anogwr gwaith neu ddefnyddiwch eich dyddlyfr ar-lein i ofyn am daliad caledi.

Efallai gall y llinell gymorth UC hefyd eich cyfeirio i’r cyfeiriad cywir:

Ffôn: 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Ffôn (Saesneg): 0800 328 5644

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm.

Bydd gofyn i chi hefyd fynychu apwyntiad yn y Ganolfan Byd Gwaith i esbonio’r amgylchiadau sy’n meddwl bod angen taliad caledi arnoch. 

Pa dystiolaeth sydd angen arnaf i wneud cais am daliad caledi?

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth pan rydych yn gwneud cais am daliad caledi.

Gall hwn cynnwys:

  • tystysgrif geni ar gyfer unrhyw ddibenion
  • ·tystiolaeth am anableddau neu broblemau iechyd sydd gennych chi neu’ch dibenion
  • profi eich bod wedi archwilio ffyrdd eraill i gael yr arian rydych yn gofyn amdano - fel gofyn ffrindiau, teulu neu elusennau am help ariannol
  • gwneud ymdrech i leihau eich costau anhanfodol - e.e. canslo tanysgrifiadau neu dorri’n ôl ar siopa
  • efallai byddant yn gofyn am ddatganiad banc i weld ar beth rydych yn gwario eich arian neu gopi o’ch cyllideb
  • gall eich datganiad banc hefyd brofi a oes gennych incwm neu gynilion eraill y gellid eu defnyddio yn lle taliad caledi.

Pa mor hir yw’n ei gymryd i gael taliad caledi?

Os ydych yn gymwys am daliad caledi, dylai'r arian gael ei dalu i mewn i'ch cyfrif banc ar unwaith neu ar y dyddiad y mae eich taliad budd-dal nesaf yn ddyledus.

Beth yw cronfa galedi myfyrwyr?

Os ydych mewn addysg bellach, a bod eich amgylchiadau’n golygu na allwch dalu costau hanfodol fel bwyd neu rent, efallai y bydd eich prifysgol yn cynnig arian i chi o’i chronfa galedi.

Mae hyn ar wahân i daliadau caledi sy'n gysylltiedig â budd-daliadau a gallwch wneud cais amdano drwy'ch prifysgol neu goleg. Fel arfer daw fel grant nad oes angen ei dalu’n ôl, er y bydd hyn yn dibynnu ar eich sefydliad.

Os byddwch yn cysylltu â'r adran gwasanaethau myfyrwyr yn eich man dysgu, dylent allu dweud wrthych â phwy y mae angen i chi siarad am gael mynediad i'r gronfa caledi myfyrwyr.

Beth yw’r Gronfa Galedi?

Serch yr enw tebyg, nid yw'r Gronfa Galedi'r un peth â thaliadau caledi sy'n gysylltiedig â budd-daliadau.

Mae'r Gronfa Galedi yn arian sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr i weithwyr ar gyflog isel sydd wedi dioddef trosedd dreisgar.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.