Oes gennych chi dasgau sy'n gysylltiedig ag arian ar eich rhestr i'w gwneud nad ydych chi byth yn llwyddo eu cwblhau? Efallai y bydd angen i chi ddarganfod mwy o wybodaeth i fynd i'r afael â nhw, neu eich bod yn poeni y byddant yn cymryd mwy o amser nag y gallwch ei sbario ar hyn o bryd.
Os yw hyn yn swnio fel chi, rydych chi mewn cwmni da. Gofynnwch i ffrindiau neu aelodau o'r teulu ac mae'n debyg y gwelwch fod gan y rhan fwyaf o bobl un neu ddau o'r tasgau hyn. Beth bynnag sy'n digwydd mewn bywyd, gallai ap CThEF eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth.
Mae'n Wythnos Siarad Arian, ac rydym yn annog pawb i fod yn agored a dechrau sgyrsiau am arian. Unwaith eto, rydym yn annog pawb i 'Wneud Un Peth' yn ystod Wythnos Siarad Arian i helpu i wella eich lles ariannol.
Felly, os nad ydych wedi lawrlwytho ap CThEF eto, beth am wneud hynny fel eich un peth? Mae'n hawdd i'w gosod a dechrau arni, ac yn hollol am ddim.