Ar ôl eich apwyntiad gallwch edrych ar grynodeb o’r opsiynau pensiwn a drafodwyd yn eich apwyntiad Pension Wise ac argraffu neu lawrlwytho’r crynodeb.
Cyn i chi ddechrau
Dylech fod wedi cael apwyntiad gydag arbenigwr arweiniad Pension Wise.
Efallai na fydd rhywfaint o’r wybodaeth yn y crynodeb yn berthnasol os byddwn yn darganfod yn ystod eich apwyntiad:
- bod gennych gytundeb Adran 32 – efallai na fyddwch yn gallu trosglwyddo eich pensiwn
- rydych eisioes yn cymryd incwm addasiadwy (yn derbyn incwm o gronfa bensiwn tynnu i lawr)
- rydych wedi etifeddu eich cronfa bensiwn – bydd y swm o dreth a dalwch yn wahanol
- bod gennych flwydd-dal cyfnod penodol ac mae swm aeddfedu’n daladwy.