Yn ystyried faint y byddai'n ei gostio i gael cyngor ariannol proffesiynol? Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar nifer o bethau, gan gynnwys eich anghenion penodol, y math o gyngor sydd ei angen arnoch a'r cwmni rydych yn penderfynu ei gyflogi.
Faint mae ymgynghorydd ariannol yn ei godi?
Mae llawer o ymgynghorwyr ariannol yn cynnig cyfarfod cychwynnol yn rhad ac am ddim. Nid yw hyn wedi'i gynllunio i roi cyngor penodol i chi am eich sefyllfa. Mae'n gyfle i weld sut maent yn gweithio, faint maent yn ei godi ac i gael syniad a ydych yn teimlo'n gyffyrddus â hwy.
Mae ffioedd ymgynghorydd ariannol yn amrywio gan ddibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys yr hyn y mae'n codi tâl arnoch amdano a sut rydych yn talu.
Mae rhai ymgynghorwyr yn cynnig gwahanol ffyrdd y gallwch dalu am gyngor.
Os oes opsiwn penodol sy'n well gennych, gofynnwch i'r ymgynghorydd gan y gallent fod yn hapus i drafod. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cyfradd yr awr – bydd hyn yn amrywio o £75 yr awr i £350, er bod cyfradd gyfartalog y DU tua £150 yr awr.
- Ffi benodol am ddarn o waith – gallai hyn fod yn gannoedd neu sawl mil o bunnoedd. Bydd hyn yn cael ei bennu i raddau helaeth gan gymhlethdod y gwaith a'r amser y mae'n ei gymryd (h.y. bydd trosglwyddiad pensiwn yn costio mwy mewn ffioedd cyngor na threfnu ISA yn unig).
- Ffi fisol – gallai hyn fod yn ffi unffurf neu'n ganran o'r arian rydych am ei fuddsoddi.
- Ffi barhaus – dim ond yn gyfnewid am ddarparu gwasanaeth parhaus y gall ymgynghorydd godi ffi barhaus, oni bai eich bod yn talu tâl cychwynnol dros amser trwy gynnyrch talu rheolaidd.
Yn aml, bydd ymgynghorwyr yn defnyddio mwy nag un math o dâl. Er enghraifft, efallai y bydd ffi sefydlu sefydlog ac yna tâl parhaus yn seiliedig ar ganran yr asedau. Mae hefyd yn bwysig cofio na fydd y ffioedd cyngor yn cynnwys cost y buddsoddiadau sylfaenol. Mae llawer o gwmnïau cynghori hefyd yn defnyddio gwasanaethau fel llwyfannau buddsoddi, y mae eu costau weithiau'n cael eu trosglwyddo i'r cwsmer.
Sicrhewch ei fod yn gweithio i chi
Mae'n syniad da darganfod a allwch ddewis gwahanol ffyrdd o dalu am wahanol wasanaethau.
Er enghraifft, talu cyfradd yr awr am gyngor am eich pensiwn, ond canran am gyngor am eich buddsoddiadau.
Ceisiwch ddod o hyd i system sy'n addas i chi. Bydd y mwyafrif o ymgynghorwyr yn cynnig ymgynghoriad rhagarweiniol am ddim, fel y gallwch ofyn cwestiynau am y gwasanaeth a sicrhau eich bod am weithio gyda'ch gilydd cyn mynd ymhellach.
Mae rhaid i'ch ymgynghorydd roi copi o'u strwythur codi tâl i chi cyn darparu unrhyw wasanaethau i chi. Er y bydd hyn yn helpu i roi syniad i chi o'r costau tebygol, nid yw'n dweud wrthych faint yn union y gallwch ddisgwyl ei dalu.
Mae'n bwysig sicrhau eu bod yn dweud wrthych faint fydd cost y gwasanaeth sydd ei angen arnoch, neu o leiaf yn rhoi amcangyfrif i chi.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Cwestiynau allweddol i'w gofyn i'ch ymgynghorydd ariannol
Beth all effeithio ar ffioedd ymgynghorydd ariannol?
Mae'r ffioedd y mae ymgynghorwyr ariannol yn eu codi yn amrywio.
Mae sawl ffactor a allai effeithio ar faint mae ymgynghorydd yn ei godi:
- Lleoliad – gallai rhai ymgynghorwyr fod wedi'u lleoli mewn rhan ddrytach o'r DU, sy'n golygu y bydd eu costau swyddfa yn llawer uwch.
- Sut mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu – mae rhai cwmnïau bellach yn cynnig cyngor dros y ffôn neu hyd yn oed ar-lein, a all olygu bod cost y cyngor yn rhatach yn nodweddiadol gan fod ganddynt nhw orbenion is. Ond os ydych yn derbyn cyngor fel hyn, gwnewch yn siŵr ei fod yn dod ag argymhelliad sy'n benodol i chi fel eich bod wedi'ch diogelu;’ llawn.
- Y math o wasanaeth cynghori – mae rhai ymgynghorwyr yn cael eu dosbarthu fel rhai cyfyngedig, sy'n golygu y gallent fod naill ai wedi'u cyfyngu yn y math o gynhyrchion y maent yn eu cynnig, neu nifer y darparwyr y maent yn dewis ohonynt, neu'r ddau. Mae eraill yn cael eu hystyried yn annibynnol, sy'n golygu y gallant argymell pob math o gynhyrchion buddsoddi manwerthu a chynhyrchion pensiwn gan gwmnïau ar draws y farchnad heb gyfyngiad. Efallai y bydd eu statws yn cael rhywfaint o effaith ar y swm maent yn ei godi.
- Pwy sy'n gwneud y gwaith – bydd rhai cwmnïau cyngor ariannol yn defnyddio ymgynghorydd cymwys iawn ar gyfer yr holl waith, ond gallai eraill ddefnyddio staff cymorth i wneud rhywfaint o'r gwaith (wedi'i lofnodi gan ymgynghorydd), a allai gostio llai i chi.
- Pa mor gymwys yw ymgynghorydd ariannol – po fwyaf o gymwysterau a phrofiad sydd gan ymgynghorydd, po uchaf y gallai eu ffioedd fod. Yn dibynnu ar y math o gyngor rydych yn chwilio amdano, efallai y byddech yn teimlo ei bod yn werth talu am ymgynghorydd sy'n gymwys iawn.
- Pa mor gymhleth yw'ch sefyllfa – os oes llawer o drefnu i'w wneud, gall hyn gymryd amser ac amser yw arian. Gallwch helpu trwy fod yn glir iawn ynglŷn â'r math o gyngor sydd ei angen arnoch a sicrhau bod eich papurau mewn trefn dda. Unrhyw ddatrysiad y gallwch ei wneud yn eich amser eich hun does dim rhaid i chi dalu amdano. Defnyddiwch eich ymgynghorydd i wneud y pethau na allwch eu gwneud eich hun ac i ddarparu'r cyngor arbenigol yn unig.
- Y dull y mae'r cwmni'n ei gymryd – er enghraifft, gallai'r cwmni sy'n defnyddio buddsoddiadau ‘goddefol’ cost isel yn bennaf a/neu yn rheoli buddsoddiad ar gontract allanol i arbenigwyr godi llai nag un sy'n rheoli'r buddsoddiadau yn fewnol.
Am fwy am wahanol fathau o ymgynghorwyr, gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Help â thalu am gyngor ariannol
Os nad ydych yn siŵr a allwch reoli cost lawn cyngor proffesiynol, efallai y bydd ffordd i'w wneud yn fwy hylaw.
Er enghraifft:
- Y lwfans cyngor pensiynau – mae hyn yn caniatáu i bobl mewn cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio (DC) dynnu hyd at £500 yn rhydd o dreth o'u cronfa bensiwn i dalu am gyngor ymddeol. Mae'r lwfans £500 fesul blwyddyn dreth, ond gallwch ei wneud am hyd at dair blynedd dreth ar wahân. Gwiriwch y bydd eich darparwr pensiwn yn caniatáu i chi ddefnyddio'r lwfans, gan nad yw pob un ohonynt yn gwneud hynny..
- Cymorth i gyflogwyr - er na chaniateir i gwmnïau gynnig cyngor ariannol i weithwyr, mae rhai yn cynnig mynediad at gyngor fel rhan o'u pecynnau buddion gweithwyr, weithiau am gost is.
Ffioedd ymgynghorwyr ariannol yn erbyn comisiwn
Ni ellir talu comisiwn i ymgynghorwyr os ydynt yn rhoi cyngor i chi am:
- pensiynau,
- buddsoddiadau, neu
- cynhyrchion incwm ymddeol fel blwydd-daliadau.
Yn lle hynny mae rhaid iddynt godi ffi arnoch am y cyngor.
Ond os ydych yn cael cyngor ar: morgeisi, rhyddhau ecwiti, yswiriant cyffredinol (fel yswiriant teithio neu gartref) neu yswiriant diogelu, fel yswiriant bywyd, gellir talu comisiwn i ymgynghorwyr o hyd.
Ar ddiwedd y dydd, yn y ddau achos rydych i bob pwrpas yn talu am gyngor, naill ai trwy dalu ffi, neu trwy brynu cynnyrch mwy costus sy'n rhoi comisiwn i'r ymgynghorydd ariannol.