Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal

Os oes angen i chi ariannu’ch gofal hirdymor a’ch bod eisoes wedi talu eich morgais i gyd, neu ar fin gwneud hynny, mae cynllun rhyddhau ecwiti yn ddewis i chi ei ystyried. Ond, nid yw rhyddhau ecwiti yn addas i bawb, felly defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu penderfynu.

Beth yw rhyddhau ecwiti?

Mae rhyddhau ecwiti yn ffordd o elwa o werth eich cartref a chael ychydig o’r arian hwnnw heb orfod symud allan.

Nid yw cynlluniau rhyddhau ecwiti yn cael eu defnyddio i ariannu gofal hirdymor yn unig.

Ond gan eu bod wedi eu datblygu i greu incwm ychwanegol neu gyfandaliad, mae’n bosib eu bod yn addas i’r pwrpas hwn.

Mae yna dau brif fath o gynllun:

  • trefniadau morgais gydol oes
  • cynlluniau ôl-feddiannu cartref (ble mae rhan neu’r cyfan o’r eiddo yn cael ei werthu).

Sut mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn gweithio?

Morgeisi gydol oes

Gyda morgais gydol oes, rydych yn cymryd benthyciad a ddiogelir ar eich cartref, nad oes angen ei ad-dalu hyd nes diwedd tymor y morgais (pan fydd y benthyciwr yn gwerthu’r eiddo, yn marw neu’n symud yn barhaol i gartref gofal).

Mae dau brif fath o forgais gydol oes.

  • Morgais cronni llog. Byddwch yn cael cyfandaliad neu bydd swm rheolaidd o arian yn cael ei dalu i chi, a chodir llog sy’n cael ei ychwanegu at y benthyciad. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi wneud unrhyw daliadau rheolaidd. Mae’r swm yr ydych chi wedi’i fenthyca, gan gynnwys y llog wedi’i gronni, yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd cyfnod eich morgais pan fydd eich cartref yn cael ei werthu.
  • Morgais gyda thâl llog. Byddwch yn cael cyfandaliad a naill ai’n gwneud taliadau misol neu ar hap. Mae hyn yn lleihau, neu’n stopio, effaith cronni llog. Mae rhai cynlluniau hefyd yn caniatáu i chi dalu’r cyfalaf i ffwrdd, pe dymunwch. Bydd y swm y gwnaethoch ei fenthyg yn cael ei ad-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu ar ddiwedd tymor eich morgais.

Cynlluniau ôl-feddiannu cartref

Gyda chynllun ôl-feddiannu cartref, rydych yn gwerthu’r cyfan neu ran o’ch cartref am lai na’i werth farchnad a’i gyfnewid am swm o arian.

Yna rydych yn aros yn eich cartref fel tenant, heb dalu rhent.

Yn aml gallwch werthu rhannau neu’r cyfan o’ch cartref gydag amser. Er enghraifft, 25% yn awr gyda 25% arall i ddilyn ymhen rhai blynyddoedd.

Nid oes ymyrraeth o ddydd i ddydd a dim cyfyngiadau o ran trin y tŷ yn union fel o’r blaen - fel cartref preifat i fyw ynddo fel y mynnwch.

Cynlluniau gwerthu-a-rhentu’n-ôl

Mewn cynllun gwerthu-a-rhentu’n-ôl, rydych chi’n gwerthu’ch cartref am bris rhatach na’i werth. Yn gyfnewid am hynny, cewch aros yn eich cartref fel tenant sy’n talu rhent am gyfnod penodol o amser.

Y Cyngor Rhyddhau Ecwiti

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr rhyddhau ecwiti yn aelodau o’r Cyngor Rhyddhau Ecwiti (elwid gynt yn Safe Home Income Plans SHIP) ac yn darparu’r hyn a elwir yn sicrwydd o ddim ecwiti negyddol – ynghyd ag ystod o safonau eraill.

Gyda morgais gydol oes felly, golyga hyn na fydd eich cyfanswm dyled fyth yn uwch na gwerth eich eiddo ac ni fydd yn cael ei basio ymlaen i’ch teulu.

Mae holl ddarparwyr y Cyngor Rhyddhau Ecwiti wedi'u rhwymo gan god ymarfer llym, a ddylai gynnig y gwarantau hyn i chi.

  • Gall pob cwsmer aros yn ei eiddo tan ddiwedd tymor y morgais (pan fydd y benthyciwr sy’n goroesi yn marw neu’n symud i gartref gofal tymor hir). Rhaid mai dyma yw eu prif fan preswylio a rhaid iddynt gydymffurfio ag amodau a thelerau’r contract.
  • Rhaid i fuddion, amrywiaethau, cyfyngiadau a goblygiadau’r cynllun gael eu hegluro’n glir.
  • Rhaid i bob benthyciwr gael cyfreithiwr annibynnol y maent yn ei weld wyneb yn wyneb. Yna bydd y cyfreithiwr yn arwyddo tystysgrif sydd yn cadarnhau bod y cynllun wedi ei egluro’n glir i’r cwsmer ac wedi ei ddeall.
  • Rhaid i dystysgrif y cyfreithiwr fanylu ar effaith y benthyciad ar yr eiddo, er enghraifft, beth fydd yn digwydd wedi i’r eiddo gael ei werthu.
  • Ar gyfer morgeisi gydol oes (yn benodol morgeisi cronni llogau), rhaid bod cyfraddau llog yn sefydlog. Os ydynt yn amrywiol, rhaid cael 'cap' (terfyn uchaf) sy’n sefydlog ar gyfer cyfnod llawn y benthyciad.
  • Rhaid bod gan y cynnyrch 'warant dim ecwiti negyddol' . Mae hyn yn golygu pan fydd eich eiddo’n cael ei werthu, ac wedi talu ffioedd asiantau a chyfreithwyr, hyd yn oed os nad yw’r swm sy’n weddill yn ddigon i ad-dalu’r benthyciad sy’n weddill, ni fydd y cwsmer na’r ystâd yn atebol i dalu’r gwahaniaeth.
  • Mae gennych yr hawl i symud eich cynllun i eiddo addas arall heb gael eich cosbi’n ariannol. Mae hyn yn amodol i’r eiddo newydd fod yn dderbyniol i ddarparwr y cynnyrch fel sicrwydd parhaus ar gyfer y benthyciad rhyddhau ecwiti.

Mesurau diogelu pwysig

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol y DU, yn rheoleiddio cynlluniau rhyddhau ecwiti. 

Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau sydd yn cynghori ar y cynnyrch yma neu’n eu gwerthu yn gorfod cwrdd â safonau penodol a darparu gweithdrefnau cwyno ac iawndal eglur.

Mae'n bwysig bob amser cael cyngor ariannol annibynnol cyn ymrwymo i gynllun rhyddhau ecwiti. Mae angen asesu eich amgylchiadau unigol a dyma pam mae cyngor ariannol yn hanfodol yn y broses ac yn ofyniad rheoliadol. Bydd cynghorydd yn egluro beth sydd dan sylw, yn trafod yr opsiynau a'r dewisiadau amgen sydd ar gael i chi ac unrhyw oblygiadau o ran budd-daliadau’r wladwriaeth, cefnogaeth gan  awdurdod lleol a rhwymedigaethau treth.

Allai cynllun rhyddhau ecwiti fod yn addas ar eich cyfer chi?

Pan edrychwn ar gynllunio ar gyfer gofal hirdymor, gall cynlluniau rhyddhau ecwiti fod yn ddefnyddiol, ond dim ond os ydych yn bwriadu ariannu gofal yn eich cartref eich hun ac nad ydych yn gymwys i gael cymorth gan yr awdurdod lleol.

Fodd bynnag, os ydych yn meddwl y bydd yn rhaid i chi symud allan a chael gofal preswyl yn fuan, mae’n debyg na fydd y cynllun rhyddhau ecwiti yn addas.

Y rheswm am hyn yw bod trefniadau rhyddhau ecwiti yn gofyn i chi werthu’r eiddo ac ad-dalu’r benthyciad yn llawn os ydych yn symud i mewn i gartref gofal yn barhaol.

Faint o ecwiti allwch chi ei ryddhau?

Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel beth yw gwerth eich eiddo, eich oed a’r cynnyrch yr ydych yn ei ddewis.

Yn ogystal, efallai y bydd rhai darparwyr yn gallu cynnig symiau mwy o arian i’r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol, neu hyd yn oed ‘ffactorau ffordd o fyw’ fel ysmygu.

Faint mae’n ei gostio?

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r holl gostau cyn symud ymlaen.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu:

  • ffioedd cyfreithiol
  • ffi brisio
  • yswiriant adeiladau
  • taliadau ad-dalu cynnar, os ydych chi am ad-dalu'r morgais yn gynnar
  • ffi trefniant i’r benthyciwr morgais, a elwir yn ffi ‘gweinyddu’ neu ‘cais’
  • ffi i'ch ymgynghorydd am ei gyngor ynghylch eich opsiynau ac argymell y cynllun mwyaf addas o'r ystod sydd ar gael
  • ffi gwblhau. Gellir talu hwn ar adeg ei gwblhau neu ei ychwanegu at y benthyciad.

Pethau eraill i’w hystyried

Bydd angen i chi wirio a fydd rhyddhau ecwiti o’ch cartref yn cael effaith ar eich sefyllfa treth ac unrhyw fudd-daliadau’r wladwriaeth neu gymorth gan awdurdod lleol.

Mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn ymrwymiad gydol oes, felly os hoffech symud tŷ rhywbryd efallai na fydd llawer o opsiynau ar gael i chi.

Camau nesaf

Dim ond un o’r ffyrdd posib o hunangyllido gofal hirdymor yw cynlluniau rhyddhau ecwiti.

Sicrhewch eich bod wedi ystyried pob dewis arall, fel gwerthu’ch eiddo a chael cartref rhatach neu drwy ddefnyddio cynilion i brynu blwydd-dal fydd yn cwrdd â’ch costau gofal. Ystyriwch grantiau neu fenthyciadau â chymhorthdal os oes angen cyfandaliad arnoch i wneud gwelliannau neu addasiadau i’ch cartref.

Ceisiwch gyngor annibynnol

Os penderfynwch fwrw ymlaen gyda chynllun rhyddhau ecwiti, mae’n hanfodol eich bod yn siarad gyda chynghorydd ariannol annibynnol, gorau oll un sydd gan gymhwyster arbenigol CF8 ar gynghori ar ariannu gofal hirdymor.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.