Dewis y cartref gofal cywir

Dewis y cartref gofal cywir yw un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch mewn bywyd. Mae angen i chi sicrhau y bydd yn lle fydd yn eich gwneud yn hapus ac am bris fforddiadwy.

Pa fath o gartrefi gofal sydd ar gael?

Rhedir cartrefi gofal gan awdurdodau lleol, cwmnïau preifat a sefydliadau gwirfoddol.

Rhaid i bob un ohonynt gael eu cymeradwyo gan y corff rheoliadol priodol yn eich gwlad.

Mae rhai yn cynnig llety a rhoi cymorth gyda gofal personol tra mae eraill yn cynnig gofal nyrsio hefyd. Mae rhai yn arbenigo mewn salwch meddwl, dementia neu glefyd Alzheimer’s.

Gallai dewisiadau amgen i gartref gofal gynnwys tai cysgodol neu dai gofal ychwanegol.

Pa fath o ofal sydd ei angen arnoch?

Os ydych mewn iechyd gwael, mae’n bosib y bydd angen gofal sylweddol arnoch.

Os ydych yn heini ac yn medru symud, mae’n debygol na fydd angen gofal nyrsio llawn amser arnoch – o leiaf nid am y dyfodol rhagweladwy.

I’r rhan fwyaf o bobl, gofal rhwng y ddau begwn yma fydd ei angen arnynt. Fe gaiff hyn ei gadarnhau gan asesiad anghenion gofal awdurdod lleol.

Nodweddion a manteision Llety cysgodol Cartref gofal preswyl Cartref gofal nyrsio

Wedi’i gofrestru gyda chorff rheoliadol

Ydy

Ydy

Ydy

Byw hunangynhwysol

Oes

Na

Na

Staff ar y safle

Warden neu Reolwr

Oes

Oes

Larymau Diogelwch 24/7

Oes

Oes

Oes

Addas ar gyfer preswylwyr anabl

Rhai

Rhai

Ydy

Darperir gofal nyrsio neu feddygol

Na

Na

Ar gael 24/7

Lefel o ofal

Isel

Cymedrol

Uchel

Anghenion dibyniaeth

Isel

Cymedrol

Uchel

Caniateir anifeiliaid anwes

Rhai

Rhai

Rhai 

Cost cyfartalog

O £8,500 y flwyddyn

O tua £30,000 y flwyddyn

O tua £40,000 y flwyddyn

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y ffioedd preswyl?

Mae’n amrwyio, ond gall gynnwys: digwyddiadau/gweithgareddau cymdeithasol, lleoedd cymunedol, rheolaeth ystad, warden ar y safle a ‘phryd ar glud’.

Staff ar gael 24 awr, cymorth gyda gwisgo ac ymolchi, bwyd. digwyddiadau/gweithgareddau cymdeithasol, a lleoedd cymunedol.

Nyrsio a gofal personol 24 awr, bwyd, digwyddiadau/gweithgareddau cymdeithasol, a lleoedd cymunedol.

Am gefnogaeth a chyngor ar ofal am ddim, cysylltwch â:

Gallwch hefyd drefnu apwyntiad i siarad ag ymgynghorydd yn Care Rights UK

Os oes angen i chi ddod o hyd i ymgynghorydd arbenigol ar ffioedd gofal, gweler ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor

 

Dewis cartref gofal - rhestr wirio

Bydd eich awdurdod lleol (neu Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) ym medru rhoi rhestr i chi o’r cartrefi gofal addas yn eich ardal.

Gall elusennau lleol neu grwpiau cefnogol roi cymorth i chi hefyd, yn ogystal â’ch corff rheoliadol cenedlaethol.

Dyma rai awgrymiadau wrth ddewis un:

  • Gwnewch restr fer o’r cartrefi gofal addas yn eich ardal y gallwch eu fforddio.
  • Mae cost gofal yn amrywio o ardal i ardal  gallech arbed arian drwy symud
  • Gofynnwch am becyn gwybodaeth gan y cartrefi sydd ar eich rhestr fer.
  • Gofynnwch am gopi o’u cytundebau ac eu telerau ac amodau.
  • Gwnewch yn siŵr fod ganddynt le a pha mor hir yw eu rhestr aros.
  • Gwiriwch faint o rybudd fydd angen i chi ei roi petaech yn symud allan a faint o rybudd a gewch petai’r cartref yn cau.
  • Os ydych yn cael cymorth ariannol gan eich awdurdod lleol, gwnewch yn siŵr y byddan nhw’n cynnig llety i chi ar gyfradd yr awdurdod lleol neu a fydd angen i chi wneud taliad ychwanegol.
  • Holwch am ba gostau ychwanegol fydd angen i chi dalu amdanynt nad ydynt yn rhan o’r ffioedd preswyl. 

Darllenwch adroddiad arolwg swyddogol y cartref gofal

Gallwch wirio safon y cartref a’u hadroddiad arolwg mwyaf diweddar gyda’r sefydliadau canlynol.

Trefnwch i ymweld â’r cartrefi hynny sydd ar eich rhestr fer

Cyn ymweld ag unrhyw un o’r cartrefi gofal, rhaid i chi fod yn gwbl sicr o’r hyn rydych yn edrych amdano.

Gwnewch restr wirio o’r pethau sydd yn bwysig i chi, yn ogystal â rhestr o gwestiynau i’w gofyn i’r rheolwyr a’r staff.

Peidiwch â theimlo unrhyw gywilydd - rydych ar fin gwneud penderfyniad all newid eich bywyd.

Gall eich rhestr wirio fod yn un faith. Dyma ambell syniad i chi:

  • Ydych chi’n cael cadw anifeiliaid anwes?
  • Pa bryd ac am ba hyd mae’r oriau ymweld?
  • Ydy’r cartref yn cynnig gweithgareddau cymunedol?
  • Faint o staff sy’n gyflogedig ar gyfer pob preswylydd?
  • A oes yna ddigon o ganllawiau a chymhorthion symudedd?
  • A allant fodloni’ch holl ofynion bwyd a’ch anghenion deiet?
  • Faint o le sydd yno ar gyfer eich eiddo personol?
  • A yw’n ymddamgos fod gan y preswylwyr yr un anghenion â chi?
  • A fyddai’r cartref yn cytuno i gyfnod prawf i chi gael gweld a ydych chi’n hoffi’r lle ai peidio?
  • A fydd gennych fynediad at ffonau preifat a’r rhyngrwyd?
  • A oes gan y cartref y cyfleusterau ymolchi a thoiled y bydd eu hangen arnoch?
  • Pa mor hawdd yw hi i gael gwasanaeth meddyg teulu, deintyddion, optegwyr a gwasanaethau iechyd eraill?
  • Petai chi angen gofal nyrsio yn y dyfodol, fyddai’r cartref yn medru darparu hynny?
  • Pa drefniadau sy’n bodoli ar gyfer diogelu eich arian a’ch pethau gwerthfawr?
  • A all y cartrtef gofal ddarparu’r lefel o ofal sydd ei angen arnoch nawr ac yn y dyfodol – gan y gallaieich anghenion gynyddu dros amser? A yw’r sgiliau anghenrheidiol gan y staff?

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Mae costau cartrefi gofal yn amrywio’n sylweddol ledled y wlad.

Fodd bynnag, gallwch ddisgwyl talu tua £30,000 y flwyddyn ar gyfartaledd am gartref gofal preswyl a £40,000 os oes angen gofal nyrsio.

I ddarganfod beth yw ffioedd cyfartalog y flwyddyn mewn cartref gofal yn eich ardal chi, ewch i wefan PayingForCare

Mae ganddynt hefyd gyfrifiannell sy’n ateb y cwestiwn  A fydd y wladwriaeth yn eich helpu i dalu?  Rhowch gynnig arni ar y  wefan PayingForCare

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai gall eich cyngor lleol roi cymorth i chi gyda chostau.

Darganfyddwch fwy

Lawrlwythwch daflen ffeithiau ‘Choosing and Paying for a Care Home’ ar wefan FirstStop Advice

Neu ffoniwch nhw i drafod eich opsiynau ar 0800 377 7070

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.