Diogelu eich pensiwn gweithle ar ôl cael babi

Dylai’ch cyflogwr barhau i dalu eich cyfraniadau pensiwn gweithle fel mater o drefn tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth. Newyddion da os yw’ch dwylo’n llawn gyda babi newydd. Ond beth arall ddylech chi ei ystyried yn awr er mwyn sicrhau eich bod yn medru ariannu’r ffordd o fyw yr ydych eisiau ar ôl ymddeol? 

Cyfraniadau pensiwn tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth

Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn gweithle ac mae’ch cyflogwr yn cyfrannu ato, mae’n rhaid iddynt barhau i wneud felly tra byddwch yn derbyn Tâl Mamolaeth Statudol.

Mae hynny hyd at 39 wythnos, ac o bosibl yn hirach os yw’ch cyflogwr yn ei gynnig yn eich contract.

Gwiriwch gyda’ch cyflogwr bod eich cyfraniadau pensiwn yn cael eu talu tra yr ydych ar absenoldeb mamolaeth.

Ydych chi’n bryderus nad yw’ch cyflogwr yn talu’r hyn y mae gennych hawl iddo?

Fel gyda’r rhan fwyaf o drafferthion gweithle, mae’n well siarad â’ch cyflogwr yn gyntaf. Efallai mai camgymeriad yn unig ydyw.

Ond os ydych yn dal yn anfodlon, cysylltwch â’ch undeb llafur (os oes gennych chi un), neu siaradwch â’n llinell gymorth Pension Wise ar 0300 123 1047.

Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Cyflogeion Cyllid a Thollau EM yn uniongyrchol ar 0300 200 1900.

Mae sicrhau bod arian yn cael ei dalu i’ch cynllun pensiwn pan ydych ar absenoldeb mamolaeth yn un peth, ond nid yw’n parhau am byth.

Gallai beth fyddwch yn penderfynu ei wneud nesaf gael effaith fawr ar eich pensiwn ac effeithio ar eich incwm pan fyddwch yn ymddeol. 

Felly, bydd angen i chi ystyried eich dewisiadau’n ofalus 

Opsiwn un – mynd yn ôl i weithio’n llawn amser

Manteision
    • Ni fydd gennych fylchau yn eich cyfraniadau pensiwn, a gallwch barhau i dalu’r un faint ag o’r blaen ac elwa o gyfraniadau eich cyflogwr (os bydd yn eu talu).
Anfanteision
    • Costau posibl am ofal plant

Opsiwn dau –dychwelyd i’r gwaith yn rhan-amser neu gyda llai o oriau

Manteision
    • Gallwch barhau i dalu i’ch cynllun pensiwn gweithle.
Anfanteision
    • Os ydych chi a’ch cyflogwr yn talu llai i mewn, bydd eich pensiwn terfynol yn llai.

Opsiwn tri – cael swydd wahanol neu weithio’n hunangyflogedig

Manteision
    • Oriau gweithio hyblyg neu fwy o amser gartref.
Anfanteision
    • Efallai na fydd trefniadau pensiwn gyda chyflogwr newydd mor ffafriol, ac os byddwch yn gweithio’n hunangyflogedig, bydd rhaid i chi drefnu pensiwn personol eich hun (heb unrhyw gyfraniadau pensiwn o gwbl).

Opsiwn pedwar – rhoi’r gorau i’r gwaith yn llwyr tra bydd eich babi yn fychan

Manteision
    • Amser gartref i fwynhau bod yn rhiant.
Anfanteision
    • Bydd yn rhaid i chi adael unrhyw gynllun pensiwn cyflogwr, felly ni fydd eich hawl neu gronfa bensiwn yn tyfu – er y byddwch yn dal i’w gael pan fyddwch yn ymddeol.

Ffyrdd i sicrhau nad ydych ar eich colled

Bron bob tro mae’n werth ymuno â phensiwn gweithle, yn arbennig os yw’ch cyflogwr yn talu i mewn i’r cynllun ar eich rhan hefyd.

Ond os nad oes gan eich cyflogwr un, neu os ydych yn hunangyflogedig neu ddim yn gweithio o gwbl, bydd angen i chi wneud trefniadau eraill.

Ceisiwch bensiwn personol

Os nad oes pensiwn gweithle ar gael, os ydych yn hunangyflogedig neu os nad ydych yn mynd yn ôl i’r gwaith, dylech gychwyn eich pensiwn eich hun a thalu i mewn iddo’n rheolaidd.

Mae’r rhyddhad treth ar gynilion pensiwn yn hael (ac mae rhyddhad treth yn golygu fwy neu lai eich bod yn cael cyfraniad gan y llywodraeth).

Os nad ydych yn ennill digon i dalu Treth Incwm, gallwch ddal i gael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn, hyd at uchafswm o £3,600 y flwyddyn neu 100% o enillion, pa bynnag un sydd fwyaf, yn amodol ar eich lwfans blynyddol.

Er enghraifft, os nad oes gennych incwm gallwch dalu £2,880 i mewn a bydd y llywodraeth yn ychwanegu at eich cyfraniad i’w wneud yn £3,600.

Gallai rhywun arall, fel eich partner, dalu i mewn i’ch pensiwn ar eich rhan hefyd.

Dychwelyd i’r gwaith ar ôl 12fed pen-blwydd eich plentyn ieuengaf

Dyna pryd fydd y llywodraeth yn stopio rhoi credydau Yswiriant Gwladol i chi tuag at eich Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn Ychwanegol, felly bydd angen i chi fod yn ennill eto os ydych eisiau rhoi hwb i’r hyn fyddwch yn ei gael wrth ymddeol.

Ceisiwch gyngor

Mae pensiynau’n gymhleth. Y peth gorau i chi ei wneud fel arfer yw siarad ag ymgynghorydd ariannol annibynnol cyn i chi wneud dim byd.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.