Sut i gyfrifo gwir gost benthyca

Pan rydych yn bwriadu benthyg arian, mae'n bwysig peidio â chwilio am gynnyrch gyda'r ad-daliad misol isaf yn unig. Cyn i chi gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod cyfanswm cost ad-dalu'r hyn rydych yn ei fenthyg.

Beth yw ‘gwir gost benthyca’?

Mae cyfrifo gwir gost benthyca yn golygu ystyried:

  • y swm rydych am ei fenthyg
  • cost unrhyw ffioedd y gallai fod yn rhaid i chi eu talu
  • amlder yr ad-daliadau - er enghraifft, yn wythnosol neu'n fisol
  • hyd ‘tymor’ y benthyca - y cyfnod amser rydych chi wedi cytuno i ad-dalu’r hyn rydych yn ei fenthyg
  • cyfradd y llog a godir arnoch.

Bydd cymryd sylw o'r holl bethau hyn yn eich helpu i gael llun o'r cyfanswm y bydd yn rhaid i chi ei dalu i'r benthyciwr. 

Penderfynu ar swm y benthyciad

Cyn i chi fynd ymlaen a benthyg unrhyw arian, mae yna rai cwestiynau pwysig y mae'n rhaid i chi eu gofyn i'ch hun:

  • Oes gwir angen i chi wario'r arian rydych chi'n bwriadu ei fenthyg?
  • Faint allwch chi fforddio ei ad-dalu?
  • Allech chi gynilo neu ddefnyddio cynilion yn lle benthyca?

Am ba hyd y mae angen i chi fenthyg yr arian?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y tymor byrraf y gallwch ymdopi ag ef

Efallai y bydd benthyciadau tymor hirach gydag ad-daliadau misol is yn ymddangos yn fwy deniadol, ond maent ymhell o fod yn ddelfrydol.

Bydd eich cyfanswm cost benthyca yn debygol o fod yn uwch oherwydd eich bod yn cymryd mwy o amser i glirio'r benthyciad ac yn talu mwy o log yn gyffredinol. Cyn belled â bod y cyfraddau llog yn gymharol, mae'n well dewis tymor benthyciad byrrach a thalu mwy yn ôl bob mis os gallwch fforddio gwneud hynny.

Yn yr enghraifft isod, byddech yn talu yn ôl £676 yn fwy pe byddech yn mynd am y tymor pum mlynedd yn hytrach na’r tymor tair blynedd..

Tymor benthyciad Swm a fenthyciwyd APR Ad-daliad misol Cyfanswm i’w ad-dalu

3 blynedd

£5,000

11.72%

£165.40

£5,954

5 mlynedd

£5,000

11.72%

£110.52

£6,630

Pa mor aml fydd angen i chi wneud ad-daliadau?

Dewiswch ad-daliadau rheolaidd yn hytrach na chyfandaliadau

Os byddwch yn dewis i ad-dalu benthyciad mewn un cyfandaliad yn hytrach na gwneud ad-daliadau rheolaidd, fel arfer byddwch yn talu llawer mwy o log.

Cyfrifwch faint o log fydd rhaid i chi dalu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr APR

Fel arfer fe fynegir llog fel APR, sef ‘cyfradd ganrannol flynyddol ar gyfer tâl’. Mae'n cyfeirio at gyfanswm cost eich benthyca am flwyddyn.  Mae hwn yn fwy na’r gyfradd llog ei hunain oherwydd mae’n cynnwys y gyfradd llog ac unrhyw ffioedd trefnu.

Gallwch ddefnyddio'r APR i gymharu gwahanol fargeinion credyd a benthyciadau, er enghraifft, trwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau.

Yn gyffredinol, yr isaf yw’r APR, yr isaf yw’r gost o fenthyca, ac felly’r gorau yw’r fargen.

Cofiwch ystyried ffioedd

Mae'n bwysig gwirio am ffioedd yn eich telerau ac amodau - fel taliad hwyr, diofyn, neu daliadau setliad.

Peidiwch â thalu'r isafswm taliad ar gardiau credyd yn unig

Gall yr hyn a elwir yn ‘isafswm taliadau’ ar gardiau credyd fod yn fagl ddyled os na chaiff ei reoli’n iawn.

Yr isafswm taliad yw'r swm isaf y mae'n rhaid i chi ei dalu bob mis er mwyn osgoi cosb.

Mae swm yr isafswm taliad fel arfer yn seiliedig ar ganran o'r hyn sy'n ddyledus gennych, felly mae'n gostwng bob mis wrth i'ch balans leihau.

Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd mwy o amser i chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych os ydych yn cadw at wneud taliadau lleiaf yn unig. A bydd yn costio llawer mwy i chi yn y tymor hir.

Er enghraifft, os ydych yn benthyg £2,000 ar APR 19% a dim ond yn talu'r isafswm taliad bob mis:

  • bydd yn cymryd 24 mlynedd a dau fis i chi ei ad-dalu
  • byddwch yn talu cyfanswm o £4,731 yn ôl
  • cyfanswm y llog y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu bydd £2,731.

Mae’n rhaid i ddarparwyr cardiau credyd gysylltu â phobl sydd ond wedi gwneud taliadau isel iawn neu isafswm ar eu cardiau credyd am y 18 mis diwethaf. Dyma lle mae pobl wedi talu mwy mewn llog, ffioedd a thaliadau na'r hyn sydd wedi'i dalu'n ôl.

Er mwyn annog cwsmeriaid i gael y balans i lawr ar y cerdyn credyd, mae'n ofynnol i fenthycwyr gysylltu â chwsmeriaid i awgrymu ad-daliadau fforddiadwy uwch. Os na fyddwch yn ymateb, neu'n anwybyddu'r mater, a bod y sefyllfa'n parhau am fwy na 36 mis, gallai hyn arwain at atal eich cyfrif.

Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud os yw'ch darparwr cerdyn credyd wedi cysylltu â chi ynglŷn â dyled barhaus.

Os ydych chi eisoes yn cael trafferth gyda dyled, gall fod yn anodd gwybod ble i droi. Ond gyda llawer o wasanaethau cynghori am ddim ar gael ledled y DU, gallwch ddod o hyd i help yn y ffordd sydd orau i chi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.