Dod â’ch cytundeb cyllid car i ben yn gynnar

Os ydych yn cael anhawster cwrdd â’ch taliadau cyllid car yn brydlon neu’n dymuno lleihau eich costau, gallwch glirio’r cytundeb drwy dalu’r swm yn gynnar neu ddychwelyd y car. Ond mae rhai amodau a chostau ynghlwm â gwneud hynny, felly peidiwch penderfynu hyd nes i chi wybod yn union beth ydynt.

Pryd ddylwn i ddod â fy nghytundeb cyllid i ben yn gynnar?

Mae yna rai prif resymau pam y gallech fod eisiau dod â chytundeb cyllid eich car i ben yn gynnar:

  • rydych yn cael anhawster talu’r taliad yn brydlon bob mis oherwydd newid yn eich amgylchiadau fel colli’ch swydd
  • credwch y gallwch gwtogi’ch costau drwy ddod â’r cytundeb i ben a phrynu car mewn dull gwahanol
  • nid oes angen car arnoch mwyach.

Os ydych yn cael anhawster cadw dau ben llinyn ynghyd

Os ydych yn cael anhawster wrth dalu biliau yn ogystal â’ch taliadau car, gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim gan sefydliad neu elusen sy’n rhoi cyngor ar ddyledion.

Mae dod â chytundeb i ben yn gynnar yn well na mynd i ôl-ddyled a niweidio’ch sgôr credyd – a allai ei gwneud hi’n llawer iawn anoddach cael cyllid yn y dyfodol ac felly costau llog uwch ar gyfer y cytundebau y llwyddwch i’w cael.

Traul teg a diweddu cytundebau cyllidol neu les yn gynnar

Pan fyddwch yn dod â chytundebau i ben yn gynnar, cofiwch fod cyflwr y cerbyd yn bwysig. Mae traul cyffredinol yn dderbyniol ond codir tâl arnoch am gostau atgyweirio pethau fel drychau ochr wedi torri neu grafiadau mwy o faint.

Gwiriwch gyda’ch gwerthwr ceir i gael diffiniad o draul gyffredinol dderbyniol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd ynghylch diffinio traul gyffredinol dderbyniol ar-lein gan BVRLA yn eu canllaw 2017, neu archebwch gopi papur

Gwiriwch ganllawiau’r cynhyrchwr am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych ddifrod nad yw’n cyfrif fel traul gyffredinol, mae’n werth gwirio i weld a allwch gael garej sydd ag enw da i drwsio’r car yn rhad cyn ei ddychwelyd.

Dyma grynodeb o beth arall sydd angen i chi ei wybod wrth ad-dalu eich cytundeb car yn gynnar.

Dod â phryniant ar gytundeb personol (PCP) i ben yn gynnar

Dychwelyd y car

Os ydych eisoes wedi talu hanner cost y car, neu gynnig y gwahaniaeth rhwng yr hyn a dalwyd gennych eisoes a hanner cost y car, mae gennych yr hawl i ddychwelyd y car i’r darparwr cyllid dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Gelwir hyn yn ‘derfynu gwirfoddol’.

Cofiwch, serch hynny, na chewch unrhyw arian yn ôl os taloch fwy na hanner cost y car.

Gall dychwelyd y car fod yn gam doeth os, er enghraifft, y collodd ei werth i’r fath raddau y byddai’ch taliadau sy’n weddill yn uwch yn y pen draw na’i werth ar hyn o bryd.

Ond os yw gwerth y car ar hyn o bryd yn uwch na’r taliadau sydd gennych yn weddill, gall fod yn fwy buddiol i chi dalu swm i setlo’r cytundeb gyda’r cwmni cyllido ac yna gwerthu’r car.

Ad-dalu’n gynnar

Os hoffech dalu’ch cytundeb PCP yn gynnar, y cam cyntaf yw gofyn i’r darparwr cyllid am ffigwr setliad.

Hwn yw’r swm o arian y bydd angen i chi ei dalu i ddod â chytundeb cyllid y car i ben yn wirfoddol.

Wedyn, mae gennych ddau ddewis, sef:

  1. Talu’r cytundeb a chadw’r car – bydd hyn yn gwneud synnwyr os yw’r ffigwr taliad llawn yn is na chost parhau â’ch taliadau misol.
  2. Talu’r cytundeb yn gynnar ac yna gwerthu’r car – gallai hyn fod yn ddewis da os ydych yn brin o arian ac os na fydd yr arian a gewch am y car yn eich gadael yn eithriadol o brin o arian. Ond cofiwch, ni allwch werthu’r car hyd nes i chi dalu’r ffigwr setliad, oherwydd tan hynny nid chi yw perchennog cyfreithiol y car hwnnw.

Ad-dalu cytundeb hurbwrcasu (HP) yn gynnar

Gyda hurbwrcasu (HP), gallwch ddychwelyd y car yn gynnar os ydych eisoes wedi talu hanner ei gost, neu gynnig y gwahaniaeth rhwng yr hyn a dalwyd gennych eisoes a hanner cost y car.

Os ydych eisoes wedi talu dros hanner gwerth y car, yna ni fyddwch yn cael ad-daliad am y gwahaniaeth.

Dylai’r cytundeb credyd a arwyddoch cyn cymryd y car ddangos cyfanswm ei gost a’r hyn y bydd yn ofynnol i chi ei dalu os dychwelwch y car.

Gall wneud synnwyr i ddychwelyd y car yn gynnar os nad oes angen y car arnoch, neu gallech brynu car tebyg yn rhywle arall am lai na chost gweddill eich taliadau.

Eich hawliau wrth ad-dalu HP yn gynnar

Caiff y swm y gall y darparwr benthyciadau ei godi arnoch am ad-dalu cytundeb hurbwrcas neu gytundeb gwerthiant yn gynnar ei gapio gan y gyfraith.

Mae’r rheol hon yn rhan o’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr a gallwch ddarganfod mwy am ad-dalu eich benthyciad yn gynnar ar wefan Finance and Leasing Association

Y mwyaf y gallwch ddisgwyl ei dalu yw’r ddyled gyfalaf sy’n weddill (ond nid y llog), yn ogystal â’r isaf o’r tri chyfanswm isod:

  • 1% o’r swm a ad-dalwyd yn gynnar – felly £100 os yw’r ddyled sydd gennych yn weddill yn £10,000.
  • 0.5% o’r swm a ad-dalwyd yn gynnar os oes llai na 12 mis yn weddill – er enghraifft, £50 os oes gennych ddyled o £10,000.
  • y llog sy’n weddill.

Cofiwch, os ydych yn ad-dalu llai nag £8,000, ni ddylid codi unrhyw ffioedd ychwanegol arnoch.

Beth i fod yn ofalus yn ei gylch wrth ddod â chytundeb PCP neu HP i ben yn gynnar

Os byddwch yn dod â’ch cytundeb i ben yn gynnar yn wirfoddol, bydd hynny’n ymddangos ar eich ffeil gredyd. Ni fydd y rheswm dros ddod â’r cytundeb i ben yn cael ei nodi. Prin iawn os o gwbl fydd y gwahaniaeth yn eich sgôr credyd, felly mae’n ddewis llawer gwell na methu taliadau, a allai effeithio’n llawer mwy difrifol ar eich ffeil gredyd, gan ei gwneud hi’n anoddach i chi fenthyca arian yn y dyfodol.

Fodd bynnag, gall dod â chytundebau i ben yn gynnar yn aml er mwyn dychwelyd ceir edrych yn ddrwg ar eich ffeil gredyd. Mae hyn oherwydd ei bod hi’n costio mwy i gwmniau cyllido ddod â chytundebau i ben yn gynnar.

Gan fod cwmniau yn colli arian pan ddowch â chytundebau i ben yn gynnar, mae’n golygu nad ydynt yn aml yn gefnogol iawn o’ch dymuniad i wneud hynny. Gallent fod eisiau ymestyn y broses cyn hired â phosibl.

I osgoi hyn, anfonwch lythyr atynt yn egluro eich bod yn ymgeisio i ddod â’r cytundeb i ben yn wirfoddol. Nid oes angen i chi arwyddo dogfennau na chwblhau pecynnau diweddu cytundeb. Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu llythyr templed ar gyfer hyn.

Efallai y gwelwch y bydd y cwmni cyllido’n dymuno codi ffi cosb arnoch yn seiliedig ar y nifer o filltiroedd y mae’ch car wedi’i deithio. Y rheswm am hyn fydd eich bod wedi teithio mwy o filltiroedd na’r disgwyl. Yn gyfreithiol ni allant godi ffi cosb arnoch am hyn os ydych wedi cymryd gofal boddhaol o’r car.

Yn olaf, sicrhewch eich bod yn parhau i dalu’r ad-daliadau cyn gwneud cais i ddod â’r cytundeb i ben yn wirfoddol. Os methoch daliad, mae gan y cwmni cyllido fwy o hawliau, a bydd eich ffeil gredyd yn dangos y taliadau a fethwyd.

Dod â Chytundeb Llogi Personol (PCH) i ben yn gynnar

Os ydych wedi bod yn prydlesu car drwy Gytundeb Llogi Personol (PCH), gallech orfod talu’r costau prydlesu’n llawn os dychwelwch y car yn gynnar.

Felly meddyliwch yn ofalus cyn canslo’r cytundeb a chanfod yn union beth fyddai cyfanswm y costau hyn.

Os ydych yn cael anawsterau talu’r gost brydlesu fisol, siaradwch â’r darparwr cyllid.

Gall gynnig ymestyn hyd y les, a fyddai’n gostwng eich taliadau misol, neu ddod i drefniant arall i’ch helpu.

Defnyddio’ch cynilion

Os bydd y llog a gewch ar eich cynilion yn is na’r llog ar daliadau eich cytundeb cyllid car, bydd yn gwneud synnwyr i ystyried defnyddio’ch cynilion i ad-dalu’ch cytundeb yn gynnar.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.