Mae llawer o wahanol gyfrifon cyfredol i ddewis ohonynt, gan gynnwys rhai sydd â manteision fel arian yn ôl ar filiau, gwariant tramor heb ffi a llog cynilo. Dyma sut i ddod o hyd i'r cyfrif gorau i chi.
Rhestrwch y nodweddion cyfrif sydd eu hangen arnoch
Mae bron pob cyfrif cyfredol yn caniatáu i chi:
- ddefnyddio cerdyn debyd i wario ar-lein neu mewn siopau a thynnu arian allan o beiriannau arian parod
- derbyn arian gan eraill, fel cyflogau neu fudd-daliadau
- symud arian rhwng eich cyfrifon neu dalu rhywun arall
- sefydlu taliadau rheolaidd i dalu biliau, fel ynni, rhent neu ofal plant
- agor cyfrif ar y cyd.
Dyma'r pethau sylfaenol y gallwch eu disgwyl. Fodd bynnag, i'w gwneud eu hunain yn amlwg, mae rhai cyfrifon yn cynnig manteision ychwanegol fel:
- llog ar gynilion
- arian yn ôl ar filiau neu wariant
- gorddrafftiau di-log, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr
- gwariant tramor am ddim
- gwobrau neu arian parod am ddim, yn aml ar gyfer newid
- mynediad at gynhyrchion arbennig gyda chyfraddau neu ostyngiadau gwell
- pecynnau o bolisïau yswiriant, fel yswiriant teithio a ffôn symudol.
Gwiriwch bob cytundeb yn ofalus gan fod amodau i'w bodloni fel arfer, fel gorfod talu swm penodol bob mis neu wneud taliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol. Cadwch lygad allan am unrhyw ffioedd misol i gadw'r cyfrif.
Yna gallwch leihau'r cynigion i'r rhai rydych chi eu heisiau, y rhai rydych yn gymwys ar eu cyfer ac y gallwch eu fforddio.
Penderfynwch sut yr hoffech gysylltu â'r banc
Byddwch yn gallu rheoli'r rhan fwyaf o gyfrifon gan ddefnyddio bancio symudol ac ar-lein, yn aml gyda mynediad at dîm gwasanaeth cwsmeriaid dros y ffôn neu alwad fideo. Ond efallai na fyddwch yn gallu siarad â rhywun yn bersonol.
Os hoffech chi'r opsiwn hwn, gwiriwch:
- a oes canghennau gan y banc y gallwch eu cyrraedd
- a oes staff ar gael mewn canolfan fancio leol, lle mae gwahanol fanciau yn rhannu un lle – yn aml ar ddiwrnodau gwahanol
- a yw’r banc yn gadael i chi ddefnyddio Swyddfa'r Post i wneud rhai pethau, fel talu arian parod i mewn.
Os ydych yn ystyried gorddrafft
Mae gorddrafft yn caniatáu i chi wario mwy nag sydd gennych yn eich cyfrif. Fel arfer, byddwch yn talu llog dyddiol drud i'w ddefnyddio.
Mae'n fath o ddyled, felly dim ond ar gyfer argyfyngau neu opsiwn tymor byr y dylid ei ddefnyddio.
Dyma ganllaw cyflawn i orddrafftiau, ond gwiriwch bob amser:
- os oes terfyn di-log neu glustog ar gyfer gwario mwy nag sydd gennych
- cyfradd llog y gorddrafft
- ffioedd os nad oes gennych ddigon o arian i dalu am daliadau.
Os ydych eisiau newid cyfrif sy’n bodoli eisoes
Mae’r Current Account Switch Service (CASS) yn golygu y gall arian a thaliadau gael eu symud yn awtomatig o’ch hen gyfrif i’ch cyfrif newydd. Mae hyn yn cynnwys ailgyfeirio unrhyw daliadau sydd i ddod.
Mae’n cymryd saith diwrnod gwaith a byddwch yn cael eich ad-dalu am unrhyw log neu ffioedd os aiff pethau o’i le. Mae bron pob banc yn defnyddio hwn, ond gallwch wirio rhestr lawn y banciau sydd wedi cofrestru i CASSYn agor mewn ffenestr newydd
Am help llawn, gweler Sut i agor, newid neu gau eich cyfrif
Mae hyd at £85,000 y person, fesul grŵp bancio fel arfer yn cael ei ddiogelu
Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc yn cael eu diogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Pe bai’ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn methu, sy’n annhebygol o ddigwydd, byddech yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig – hyd at £85,000 y person.
Gallwch ddefnyddio gwiriwr diogelwch FSCSYn agor mewn ffenestr newydd i wirio a yw eich banc wedi'i ddiogelu.
Os nad ydyw, mae’n debygol o fod yn gyfrif cyfredol rhithwir a gwmpesir gan reolau e-arian. Mae hyn yn golygu bod eich arian yn cael ei gadw’n ddiogel mewn banc gwahanol, ond byddai angen i chi wneud hawliad i’r gweinyddwr os bydd eich darparwr yn methu.
Cymharu bargeinion a darllen adolygiadau
Mae ein teclyn HelpwrArian cymharu cyfrifon banc yn eich helpu i weld nodweddion, ffioedd a thaliadau cyfrifon.
Ar gyfer adolygiadau cyfrif cyfredol, gweler:
- Canllawiau cyfrif banc Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
- Adolygiad cyfrifon banc gorau MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
- Tabl Cymharu Cyfrif Cyfredol y Cyngor DefnyddwyrYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon
I ddod o hyd i fanciau gyda'r cofnod gwasanaeth cwsmeriaid gorau, gallwch ddefnyddio sgôr cwsmeriaid o raddfa ansawdd Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Gwirio meini prawf cymhwysedd
Unwaith y bydd gennych restr fer o gyfrifon, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gwneud cais.
Er enghraifft, er mwyn bod yn gymwys i gael cyfrif, efallai y bydd angen i chi:
- dalu isafswm i fewn bob mis
- cael hanes credyd da
- berchen ar ffôn clyfar
- newid cyfrif presennol i fod yn gymwys.
Bydd angen i fanciau hefyd wirio pwy ydych chi a ble rydych chi'n byw, felly bydd angen prawf adnabod arnoch chi. Yn aml, pasbort neu drwydded yrru yw hyn, ond yn aml derbynnir dogfennau eraill hefyd.
Am fwy o wybodaeth, gweler Sut i agor cyfrif banc.
Os ydych yn cael trafferth cael cyfrif
Os ydych chi'n cael trafferth agor cyfrif, mae opsiynau eraill i'w hystyried:
- Cyfrif banc sylfaenol – yn cynnig y rhan fwyaf o nodweddion cyfrif cyfredol (ac eithrio gorddrafft) ac fel arfer yn derbyn y rhai sydd â hanes credyd gwael, rhai sydd ag euogfarnau neu rai sydd yn y carchar
- Cyfrif cyfredol undeb credyd – sy'n cael ei redeg gan sefydliadau nid-er-elw, ond efallai y byddwch yn talu ffi fisol i gael un
- Cyfrif cerdyn rhagdaledig - yn gadael i chi wario a thynnu arian parod ond fel arfer ni allwch sefydlu taliadau.