Sut i ddod o hyd i Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant coll
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
21 Mawrth 2024
Os ydych chi dros 18 oed ac yn edrych i gael gafael ar yr arian yn eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF), nid oes angen talu i'w olrhain os nad ydych chi'n gwybod y manylion. Defnyddiwch y teclyn am ddim yn y blog hwn i ddod o hyd i'ch CTF.
Sut ydw i'n gwybod a oes gen i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant?
Cafodd bron pob plentyn a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011 daleb fuddsoddi gwerth rhwng £50 a £750.
Gofynnwyd i'ch rhieni neu warcheidwaid agor math o gyfrif o'r enw Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, i fuddsoddi'r arian ynddo. Os na wnaethon nhw hynny, bydd y llywodraeth wedi agor un i chi.
Bydd y llywodraeth wedi agor cyfrif i blant mewn gofal.
Mae'r cyfrifon hyn wedi bod yn ennill llog dros amser a gallent fod yn werth unrhyw beth rhwng ychydig gannoedd o bunnoedd a thros £2,000, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Os yw'r banc neu'r gymdeithas adeiladu lle cedwir eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gwybod eich manylion, dylech gael llythyr o gwmpas eich pen-blwydd yn 18 oed i ddweud wrthych sut y gallwch gael mynediad ati. Darllenwch yr adran isod i ddarganfod sut i olrhain eich CTF os na chawsoch lythyr.
Pa oedran gallaf dynnu arian o'm Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?
Chi fydd yn gyfrifol am reoli yr arian yn eich cyfrif unwaith y byddwch yn 16 oed, a gallwch dynnu arian allan ohono ar ôl i chi droi'n 18 oed.
Hyd yn oed os ydych wedi colli cysylltiad â'ch rhieni, neu wedi bod mewn gofal, mae gennych yr hawl i hawlio'r arian hwn o hyd.
Gallwch ddarganfod mwy am eich opsiynau yn ein canllaw Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.
Sut i gael mynediad i'ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os nad ydych yn gwybod y manylion
Mae olrhain Cronfa Ymddiriedolaeth Plant am ddim, ac mae dau teclyn y gallwch eu defnyddio i ddod o hyd i'r manylion sydd eu hangen arnoch i reoli neu dynnu arian allan o'ch cyfrif.
HMRC
Os ydych dros 16 oed, gallwch ddefnyddio teclyn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant CThEFYn agor mewn ffenestr newydd i ofyn am eich manylion CTF. Bydd angen i chi wybod eich rhif Yswiriant Gwladol (NI).
Dylech dderbyn eich cerdyn Yswiriant Gwladol yn y post ychydig cyn i chi droi'n 16 oed. Os ydych chi wedi colli eich cerdyn, gallwch chi ofyn am un newydd yn y post gyda’r ffurflen honYn agor mewn ffenestr newydd Os nad ydych erioed wedi derbyn un, mae gwybodaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd am sut i wneud cais am un.
Mae CThEF yn anelu at roi ymateb i chi o fewn 3 wythnos.
Fel arall, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar wefan y Share FoundationYn agor mewn ffenestr newydd Nid oes angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch, ond mae'n ddefnyddiol os oes gennych chi.
Gallwch hefyd nodi unrhyw fanylion eraill a allai fod yn ddefnyddiol i'w holrhain, fel ble roeddech chi'n byw pan gawsoch eich geni, neu enwau gofalwyr.
A ddylwn i dynnu arian allan o'm Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?
Ar ôl i chi ddod o hyd i'r manylion ar gyfer eich CTF, chi sydd i benderfynu os ydych chi am dynnu'r holl arian allan, tynnu rhywfaint o'r arian allan, neu ei symud i fath gwahanol o gyfrif cynilo.
Mae gan ein canllaw ar gynnal eich hun yn ariannol lawer o wybodaeth ychwanegol i'ch helpu i benderfynu a ydych yn cynilo neu'n buddsoddi a sut i ddelio â'ch incwm a'ch biliau fel person ifanc.
Pa mor hir y mae tynnu arian allan o Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn ei gymryd?
Unwaith y byddwch wedi olrhain sut i gael mynediad at eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, a allai gymryd ychydig wythnosau, fel arfer dim ond 3-5 diwrnod y mae'n ei gymryd i dderbyn yr arian yn eich cyfrif banc ar ôl i chi ofyn i’w dynnu allan.
Ar ôl i chi dynnu'r holl arian o'ch CTF, bydd ar gau.
Dysgwch fwy am wahanol fathau o gyfrifon cynilo.