Cynlluniwr cyllideb
I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy'n hawdd ei ddefnyddio.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Chwefror 2024
Mae yna lawer i feddwl amdano o ran cynllunio priodas - ffotograffydd, arlwyo, blodau, gwisg, i enwi ond ychydig. Ond faint mae priodas ar gyfartaledd yn ei gostio yn y DU?
Dangosodd arolwg Bridebook o 4,000 o bobl newydd briodi fod priodas ar gyfartaledd yn costio £24,069 (gan gynnwys y modrwyau a mis mêl). Fodd bynnag, bydd cyllideb eich priodas yn dibynnu ar lawer o bethau, gan gynnwys faint o bobl sy'n cael gwahoddiad, y dyddiad a'r lleoliad fyddwch yn eu dewis.
Os nad ydych yn adnabod unrhyw un sydd ag ysgubor, pabell fawr neu neuadd wych, dyma un gost mae'n debyg na allwch ei hosgoi. Ni allwch briodi lle bynnag y dymunwch, gan fod deddfau sy'n pennu lle y gall priodas yn y DU ddigwydd, felly bydd angen i chi dalu am leoliad swyddogol.
Y gost ar gyfartaledd yw £8,400. Fodd bynnag, wrth gwrs mae yna leoliadau a fydd yn sylweddol rhatach os nad ydych eisiau priodi mewn cartref urddasol.
Mae llawer o bobl yn priodi'n swyddogol mewn swyddfa gofrestru, ac yna'n cael y parti mawr yn rhywle arall, sy'n golygu y gallwch osgoi'r costau mawr hynny sy'n dod gyda phriodi mewn lleoliad ffansi mewn gwirionedd.
Y naill ffordd neu'r llall os yw'n ardd perthnasau neu'n faenordy, sefydlu cronfa briodas yw'r cam cyntaf.
Gallai costau priodas eglwys ar gyfartaledd amrywio rhwng £530 a £641. Ond, gall fod pethau ychwanegol ar ben hyn, fel blodau, cael canu'r clychau a defnyddio'r organ a'r côr.
Yn bwysicach fyth, mae yna reolau llym ynghylch pwy all briodi mewn eglwys, felly mae'n syniad da edrych i mewn i hyn os ydych chi eisiau gwasanaeth crefyddol.
Mae cael eich seremoni yn y swyddfa gofrestru leol yn llawer, llawer rhatach. Gallai cost seremoni swyddfa gofrestru sylfaenol yn y DU fod mor isel â £46, tra gallai llogi'r lleoliad gostio tua £200+.
Gall gostio mwy i chi os gofynnwch i'r cofrestrydd deithio. Er mai'r gost o logi cofrestrydd yw £46 os yw'n cynnal y seremoni mewn swyddfa gofrestru, mae'n costio hyd at £86 os yw'n cynnal y seremoni mewn adeilad crefyddol cofrestredig. Mae'r prisio'n safonol ar draws y wlad, ond efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn codi mwy ar benwythnosau, neu fod ag amrywiaeth o ystafelloedd i chi eu defnyddio sy'n amrywio o ran pris.
Ar y cyfan, gall pris priodas mewn swyddfa gofrestru amrywio o ychydig gannoedd o bunnoedd i tua £1,000. Mae bob amser yn werth darganfod a oes unrhyw daliadau ychwanegol pan fyddwch yn penderfynu ar eich cyllideb.
Os ydych eisiau i rywun helpu i drefnu eich diwrnod mawr, efallai yr hoffech ystyried llogi cynllunydd priodas. Ond mae'r prisiau'n amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr hyn rydych chi ei eisiau.
Mae'r rhan fwyaf o gynllunwyr priodas yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o helpu i gydlynu'r diwrnod priodas, i wneud popeth ar eich cyfer yn llythrennol. Mae bron yn amhosibl rhoi cost gyfartalog ar gynllunydd priodas. Mae hyn oherwydd ei fod yn amrywio nid yn unig ar yr hyn yr hoffech iddynt ei wneud, ond hefyd profiad eich cynllunydd priodas a maint eich digwyddiad.
Yn ôl HitchedYn agor mewn ffenestr newydd efallai y bydd cynllunydd priodas tua 10-15% o'ch cyllideb. Gallai'r pris amrywio o ychydig gannoedd o bunnoedd i filoedd o bunnoedd
P'un a yw'n gyfrif cynilo neu'n gadw mi gei arbennig, cael cronfa briodas a gosod cyllideb yw'r lle cyntaf i ddechrau.
Cyfrifwch eich gwariant misol ac yna rhowch beth bynnag sydd ar ôl yn eich cronfa; ei weld yn cynyddu bob mis yw’r un cam yn agosach at roi'r blaendal hwnnw i lawr ar eich lleoliad neu arlwyo.
Gall defnyddio cynllunydd cyllideb helpu gyda hyn. Gweld ble mae'ch cost fwyaf ac edrychwch i ddod o hyd i ffyrdd o dorri'n ôl.
Mae hefyd yn ddefnyddiol unwaith y byddwch wedi cyfrifo cost fras i wybod pa mor hir y byddai'n ei gymryd i gyrraedd y nod hwnnw.
Gan ddefnyddio ein cyfrifiannell cynilio gallwch roi yn eich targed, faint y gallwch ei gynilo’r mis a'r hyn y gallech fod wedi'i gynilo’n barod. Yna bydd yn dweud wrthych faint o fisoedd y bydd yn eu cymryd ac yn awgrymu cynnydd bach mewn cynilio a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno'n gyflymach.
Os ydych am gadw ar ben y costau a sicrhau nad ydych yn gorwario, mae'n syniad da ysgrifennu dadansoddiad o gost priodas, fel eich bod yn gwybod faint rydych wedi'i wario a beth sydd ar ôl yn y gyllideb.
Mae hyn yn dibynnu ar ddau beth. Faint o bobl yr hoffech chi eu bwydo a pha fath o fwyd rydych chi ei eisiau.
Ar gyfartaledd, mae costau arlwyo tua £70 y pen, yn ôl HitchedYn agor mewn ffenestr newydd ond gallwch chi wario llai neu fwy.
Yn amlwg, os ydych chi eisiau pryd cyllell a fforc tri chwrs ar gyfer 200 o westeion, mae hyn yn mynd i fod yn ddrud. Ond, gall cael bwffe neu lorïau bwyd ffasiynol ostwng y gost lawer. Efallai y bydd gan eich lleoliad gostau ychwanegol am de a choffi, neu dâl 'cacen' i dorri a gweini eich cacen, felly cofiwch ofyn a rhoi ystyriaeth i'r costau hynny.
Fel eich lleoliad, mae hwn yn faes arall lle mae'n dibynnu'n llwyr ar eich cyllideb a'r hyn rydych yn ei hoffi.
Mae yna opsiynau 4 haen gyda blodau past siwgr wedi'u gwneud ofalus â llaw neu mae yna opsiwn 2 haen syml gyda rhubanau a thop priodas. Wedi dweud hynny, dywedir bod cost cacen briodas ar gyfartaledd oddeutu £300-£400
Fodd bynnag, mae hwn yn faes lle gallwch gadw costau i lawr. Gall dewis un gacen gyda chacennau bach neu edrych ar yr hyn mae eich archfarchnad leol yn ei gynnig fod yn ffordd hawdd o arbed arian.
Gallwch hefyd roi cynnig ar wneud eich un eich hun (neu ddod o hyd i aelod neu ffrind talentog o'r teulu), a all gwneud rhywbeth ysblennydd am gost y cynhwysion yn unig.
Gall cost blodau priodas amrywio yn dibynnu ar yr hyn rydych eisiau ar gyfer eich diwrnod mawr. Os nad ydych eisiau addurniadau bwrdd, neu drefniant penodol yn eich lleoliad yna gall prisiau ddechrau o £350.
Am £350 cytunodd y mwyafrif o werthwyr blodau, a ofynnwyd gan HitchedYn agor mewn ffenestr newydd y byddech yn gallu cael tusw priodferch, dau dusw morwyn briodas, pum twll botwm a dau dusw. £500 i fyny gallwch wedyn ddisgwyl cael rhai addurniadau bwrdd wedi'u hychwanegu. Ar gyfer eich blodau, mae'n mater o ddweud wrth werthwr blodau eich cyllideb ac yna cydweithio o fewn yr ystod prisiau honno.
Mae yna nifer o ffyrdd i gadw cost eich blodau i lawr:
Mae dewis blodau sydd yn eu tymor yn mynd i roi'r gwerth gorau i chi. Os ydych eisiau blodau y tu allan i'r tymor, yna bydd yn costio mwy i chi, gan y byddant yn anoddach i ddod o hyd iddynt ac yn bellach i ffwrdd.
Meddyliwch am yr hyn sydd bwysicaf o ran eich blodau. Os ydych am i'ch byrddau fod yn destun siarad yna canolbwyntiwch ar yr addurniadau bwrdd, fodd bynnag, os mai'ch tuswau priodasol fydd y brif peth yna defnyddiwch fwyafrif eich cyllideb ar gyfer y rhain.
Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o'ch lluniau priodas yn cynnwys eich tuswau priodasol felly efallai y bydd gwario arian ar hyn yn fwy gwerth chweil?
Gall blodau ffres fod yn ddrud iawn, ac maent ond yn para am y diwrnod. Mae yna ddewisiadau eraill a all ychwanegu personoliaeth at eich priodas. Cymerwch ysbrydoliaeth gan Pinterest. Yn ogystal â blodau ffug lliwgar, mae pobl wedi gwneud tuswau o dudalennau o'u hoff lyfrau neu flodau unigol crosio ar gyfer tyllau botwm.
Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o'ch lluniau priodas yn cynnwys eich tuswau priodas felly efallai y bydd yr arian y byddwch yn ei wario yma yn fwy gwerth chweil?
Meddyliwch yn greadigol i weld a ydych yn gallu gwneud eich addurniadau bwrdd eich hun. Gallwch siopa ar-lein neu chwilio am fargeinion rhad o siopau crefftau, canolfannau garddio, neu eBay a chasglu rhai blodau artiffisial sy'n cyfateb i'ch cynllun lliw. Os ydych wir yn gweithio i gyllideb dynn, mae yna ddigon o bobl sy'n ymweld â'r archfarchnad y diwrnod cyn i godi sypiau o flodau am ond ychydig bunnoedd, yn hytrach nag ychydig gannoedd o bunnoedd.
Mae yna gyfoeth o ysbrydoliaeth ar y rhyngrwyd ac mewn cylchgronau priodasol, mae'n ymwneud â siopa o gwmpas am ddewisiadau rhatach yn hytrach na thalu'r premiwm priodas hwnnw.
Rydym yn mynd i ddyfalu yma a dweud bod hwn yn un maes lle mae'n debyg na fyddai priodferched eisiau torri corneli. Mae dod o hyd i ‘y’ ffrog yn allweddol wrth sicrhau priodferch hapus a fydd yn edrych yn ôl gydag atgofion melys am y diwrnod mawr, ond faint fydd yn eich costio? Yr ateb yw £1,400 (gan gynnwys esgidiau), yn ôl BridebookYn agor mewn ffenestr newydd. Fodd bynnag, mae siopa o gwmpas am werthiannau mewn siopau priodas a hyd yn oed ystyried dewisiadau eraill y stryd fawr neu brynu ail law yn mynd i helpu i ostwng y gost hon. Efallai y byddwch hefyd am gyllidebu ar gyfer addasiadau, yn enwedig os ydych wedi prynu ail law neu o werthiant.
Os ydych chi'n cael morwynion priodas, eich penderfyniad chi yw cynnig talu am y ffrogiau. Dywed Bridebook y gall y rhain gostio tua £30-40 yr un ar gyfartaledd.
Yn ôl Bridebook, mae'n costio £300 ar gyfartaledd i brynu siwt briodas. Fodd bynnag, mae siwtiau rhentu yn opsiwn poblogaidd a gallant gostio o £50. Os oeddech chi'n ystyried cael cilt neu wisg draddodiadol arall, gall y rhain fod hyd yn oed yn ddrytach.
Gall fod yn ddewis craff i rentu'ch siwtiau, yn enwedig os hoffech chi gyd-fynd â’r tywyswyr, gweision bach neu weision priodas. Unwaith y byddwch yn ychwanegu teis cyfatebol, crysau, a phopeth arall, gall y costau godi’n sylweddol.
Yn debyg iawn i'r ffrog, nid yw hwn yn faes lle mae llawer o bobl yn mynd i fod eisiau torri’r gost. Mae'r pris cyfartalog yn amrywio o tua £1300 i £1700, er y gall hyn amrywio'n fawr yn dibynnu ar y pecyn a lefel y profiad roeddech wedi’i ddewis.
Er enghraifft, bydd y rhai sy'n gwneud hyn fel gyrfa amser llawn, ac felly'n fwy profiadol, yn codi mwy na'r rhai sy'n gwneud ffotograffiaeth am ail incwm. Efallai y byddwch yn talu mwy am y lefel uwch hon o brofiad ond rydych eisiau i ffotograffydd ddal eich diwrnod yn berffaith a’ch gwneud yn hapus i edrych yn ôl ar y lluniau mewn blynyddoedd i ddod.
Efallai y gallwch dorri costau trwy gael y ffotograffydd yn unig ar gyfer y gwasanaeth priodas ei hun, yn hytrach na'r diwrnod cyfan.
Y consensws cyffredinol yw y dylai eich ffotograffydd fod tua 10% o'ch cyllideb gyffredinol.
Yn amlwg, mae angen i chi gyrraedd eich priodas eich hun. Os ydych eisiau llogi cerbyd i fynd â chi yno mewn steil, bydd car priodas yn costio rhwng £300 a £600.
Ond efallai yr hoffech hefyd feddwl am fws priodas neu logi bws i gael eich gwesteion o'r seremoni i'r dderbynfa. Mae hyn yn dibynnu ar faint o westeion y mae angen i chi eu cludo a pha mor hir rydych ei angen, ond mae'n debyg y gallwch dalu rhwng £500 a £700.
Rydych eisiau cael ychydig o adloniant am y noson. Y gost ar gyfartaledd ar gyfer band pedwar person yw rhwng £1,200 a £1,600+.
Ond mae yna un neu ddau o bethau i'w cofio. Os ydych eisiau band mwy mawr, yna bydd hynny'n ychwanegu at y pris, gan eich bod fel arfer yn talu £250-£400 i fyny am bob cerddor. Byddwch hefyd am wirio'r hyn y bydd y band yn ei gyflenwi o ran goleuadau ac offer sain.
Mae DJ yn mynd i gostio cryn dipyn yn llai na band, ond mae yna amrywiadau eang yn y gost o hyd. Y cyfartaledd yw rhwng £200 ac £800, yn dibynnu ar brofiad y DJ, pa mor bell y mae'n rhaid iddynt deithio a pha bethau ychwanegol, fel goleuadau y maent yn eu cyflenwi.
Rydym yn gwybod na ellir osgoi hyn pan fyddwch yn prynu eich ffrog neu'n archebu'r ffotograffydd ond, mae gwefannau di-ri yn dweud wrthych y gall dyfyniadau gan gyflenwyr godi’n syth ar ôl i chi ddweud y gair ‘priodas’.
Un ysgol feddwl yw, os ydych yn dweud ‘priodas’ efallai y cewch wasanaeth gwell, oherwydd er enghraifft efallai y bydd y lleoliad eisiau mynd allan i helpu i'w wneud yn gymaint o ddiwrnod arbennig â phosib. Er, ar y llaw arall, wrth ddweud mai parti yn unig ydyw gallai arbed rhywfaint o arian i chi.
Boed yn gacen, blodau neu leoliad mae’r cyflenwr yn gwybod y gallant godi mwy, gan fod y ‘tag priodas’ hwnnw ynghlwm wrtho.
Yn anffodus, os ydych am briodi ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn byddwch yn barod i dalu mwy. Mae priodas ganol wythnos yn llai poblogaidd ac felly gall fod yn rhatach. Mae'r un peth yn wir am y tymhorau, mae priodas gaeaf er enghraifft yn mynd i fod yn llawer llai na'r haf; Fodd bynnag, os ydych chi'n casáu'r oerfel yna efallai nad dyma'r opsiwn gorau i chi.
Canfu HitchedYn agor mewn ffenestr newydd ei bod yn costio pedair gwaith yn fwy i briodi ar ddydd Sadwrn ym mis Awst i rai lleoliadau o gymharu â diwrnod gwaith ym mis Chwefror.