Popeth rydych angen ei wybod am Wasanaeth Rheithgor
Diweddarwyd ddiwethaf:
08 Ionawr 2024
Mae gwasanaeth rheithgor yn un o’r pethau hynny sy’n dod o gwmpas mor anaml, does neb yn gwybod yn iawn sut mae’n gweithio. Darganfyddwch beth allwch ei hawlio tuag at fwyd, gofal plant neu golli enillion.
Os cewch eich dewis i fynd i’r llys a gwasanaethu ar y rheithgor, efallai y bydd gennych rai pryderon ynghylch beth mae hyn yn ei olygu i’ch arian. A dyna pam rydyn ni’n mynd i edrych ar ochr ariannol Gwasanaeth Rheithgor fel colli enillion a threuliau.
Beth yw Gwasanaeth Rheithgor?
Pan gewch eich galw i Wasanaeth Rheithgor (a elwir weithiau yn Ddyletswydd Rheithgor), byddwch yn eistedd i mewn ar achos llys fel rheithgor. Fel arfer, byddwch chi’n gwasanaethu am 10 diwrnod gwaith.
Pan fydd rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud rhywbeth anghyfreithlon, bydd yn rhaid iddynt fynd i lys lle bydd yr holl dystiolaeth ynghylch yr hyn a ddigwyddodd yn cael ei hystyried. Bydd y Barnwr yn goruchwylio popeth, ond grŵp o 12 o bobl sy’n cael eu dewis ar hap, y rheithwyr, fydd yn penderfynu a yw’r diffynnydd yn euog ai peidio.
Beth sy’n digwydd gyda’rcostau?
Teithio
Mae’r costau’n dibynnu ar sut y byddwch yn cyrraedd y llys. Os ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel bws neu drên, bydd y llys yn talu cost y tocyn (pris dychwelyd dosbarth safonol). Bydd angen i chi gadw’ch tocyn a’i ddangos i’r llys fel prawf o’r hyn a wariwyd gennych o ran hawlio’ch treuliau.
Os ydych chi’n defnyddio car, beic modur neu feic, bydd angen i chi ddweud wrth y llys pa mor bell rydych chi wedi teithio a byddwch chi’n cael cost wedi’i thalu fesul milltir. Dylech wirio gyda’r llys os byddant yn talu am barcio.
Awgrym arbed arian
Os ydych chi’n gyrru, gwnewch ffrindiau gydag ychydig o’r rheithwyr a gweld pwy sy’n byw gerllaw. Fel hyn, gallwch hefyd hawlio ar gyfer teithiwr. Gallwch hawlio 4.2c y filltir ar gyfer y teithiwr cyntaf, a 3.2c y filltir ar gyfer pob teithiwr ychwanegol.
Gyda chyfradd o 31.4c am bob milltir ar eich pen eich hun, os ydych yn llenwi pedair sedd i deithwyr yn eich car, gallwch hawlio 45.2c y filltir. Os yw’ch car yn rhedeg ar gyfartaledd o 40 milltir y galwyn, dim ond 16c y filltir mewn tanwydd y mae’n ei gostio!
Bwyd
Fel arfer, ni fydd yn rhaid i chi gadw pob derbynneb unigol am y bwyd rydych chi’n ei brynu yn ystod cinio. Mae hynny oherwydd bod y lwfans bwyd o £5.71 y dydd yn cael ei dalu am bob diwrnod rydych chi yn y llys. Beth sy’n well yw y byddwch yn cael yr arian hyd yn oed os ydych yn dod â bwyd gyda chi o’ch cartref.
Awgrym arbed arian
Dewch â’ch cinio eich hun. Byddwch yn cael y £5.71 beth bynnag a gallwch ei roi o’r neilltu ar gyfer rhywbeth arall. Os ydych yn y llys am fwy na 10 awr, mae’r gyfradd yn fwy na dyblu i £12.17.
Tâl pan fyddwch ar wasanaeth rheithgor
Y cwestiwn mwyaf i lawer o bobl yw beth sy’n digwydd gyda’ch cyflog. Bydd llawer o gyflogwyr yn talu eich cyflog arferol pan fyddwch ar Wasanaeth Rheithgor. Ond ni fydd llawer, felly bydd angen i chi wirio.
Os nad ydynt, bydd angen i chi lenwi ffurflen Tystysgrif Colli Enillion neu Fudd-dal er mwyn iddynt ei llenwi. Byddwch yn derbyn hwn yn y post. Yna, dim ond ei roi i’r llys fydd angen i chi ei wneud.
Os ydych yn derbyn budd-daliadau, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen Tystysgrif Colli Enillion neu Fudd-dal a’i rhoi yn y llys. Os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch barhau i hawlio hynny am hyd at wyth wythnos.
Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ofyn am ffurflen Tystysgrif Colli Enillion ar gyfer Rheithwyr Hunangyflogedig.
Byddwch wedyn yn cael iawndal gan y llys. Mae’r symiau’n dechrau ar £32.47 y dydd os ydych yn y llys am bedair awr neu lai, ac yna £64.95 y dydd os ydych yn y llys am fwy o amser. Os oes angen i chi wasanaethu am fwy na 10 diwrnod, byddwch yn cael cyfradd uwch.
Y gyfradd uwch yw £129.91 y dydd os ydych yn y llys am fwy na 4 awr, neu £64.95 os ydych chi yno am lai na 4 awr y dydd.
Costau gofal plant
Y peth cyntaf i’w gofio am gostau gofal plant yw y bydd y llys yn talu am gost gofal plant ychwanegol na fyddech ei angen fel arfer. Felly, os oes gennych gostau plentyn arferol oherwydd, er enghraifft, eich swydd, ni allwch hawlio unrhyw beth.
I hawlio, mae angen i chi ofyn i’r llys am ffurflen hawlio treuliau gofal plant, oedolyn bregys, darpariaeth gofal yr henoed. Yna bydd angen i’ch darparwr gofal plant lenwi’r ffurflen ar eich cyfer cyn ei rhoi i’r llys. Byddwch hefyd angen pasbort neu dystysgrif geni ar gyfer eich plentyn, prawf o’u cyfeiriad, yn ogystal â derbynneb gan eich gwarchodwr plant.
Yr ail bwynt pwysig yw mai’r uchafswm y gellir ei hawlio yw £64.95 y dydd, gan gynnwys colli eich enillion. Felly, os ydych eisoes yn hawlio am golli enillion, ni fyddwch yn cael unrhyw arian ychwanegol i dalu costau gofal plant.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant
Beth yw’r tebygolrwydd o gael eich galw am wasanaeth rheithgor?
Mae’r siawns o gael eich galw am Wasanaeth Rheithgor yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Yng Nghymru a Lloegr, mae’n 35%. Dim ond tua hanner y bobl hynny fydd yn treulio unrhyw amser yn y llys.
Yn yr Alban, mae’r siawns yn llawer uwch ar 95%. O’r bobl hynny, dim ond 30% fydd yn y llys fel rhan o reithgor.
Y gwahaniaeth hyn yw oherwydd bod rheithgorau yn yr Alban yn cynnwys 15 o bobl, tra bod y rheithgor ond yn cynnwys 12 yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Alban hefyd fel arfer yn galw ar lawer mwy o bobl fesul rheithgor gofynnol o gymharu â Chymru a Lloegr.