Sut mae yswiriant teithio blynyddol yn gweithio?
Diweddarwyd diwethaf:
17 Gorffennaf 2024
Mae yswiriant teithio blynyddol wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sy'n teithio'n aml. Fe'i gelwir hefyd yn aml yn yswiriant aml-daith. Mae'n golygu eich bod wedi'ch diogelu heb orfod prynu yswiriant ar gyfer pob taith.
Beth yw yswiriant teithio aml-daith blynyddol?
Mae polisïau yswiriant teithio blynyddol yn tueddu i weithio'n dda i bobl sy'n teithio sawl gwaith mewn blwyddyn. Fel arfer, cewch eich diogelu ar gyfer nifer diderfyn o deithiau o fewn cyfnod o 12 mis.
Mae polisi yswiriant aml-daith fel arfer yn dechrau cyn gynted ag y caiff ei gymryd - ond bydd angen i chi ei actifadu ar gyfer pob taith newydd.
Fel arfer mae cap ar nifer y diwrnodau y gall pob taith unigol fod. Bydd y rhan fwyaf o bolisïau yn dweud na all un daith fod yn fwy na 31 diwrnod, felly ni fyddwch yn cael eich diogelu os yw'ch gwyliau'n para'n hirach.
Pryd mae yswiriant teithio blynyddol yn dechrau a pha mor hir mae’n para?
Fel arfer, gallwch ddewis pryd rydych chi eisiau i'ch polisi aml-daith ddechrau.
Mae'n synhwyrol cael polisi sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf eich taith gyntaf. Fel arfer, bydd eich yswiriant yn para blwyddyn, felly mae dechrau eich yswiriant ar ddiwrnod cyntaf eich taith yn golygu y byddwch yn cael y mwyaf o'ch yswiriant.
Mae'n syniad da prynu yswiriant ar yr un pryd ag y byddwch yn trefnu eich gwyliau ond rhowch y diwrnod y mae'r polisi'n dechrau ar yr un diwrnod ag y byddwch yn teithio. Mae hyn oherwydd os yw eich taith yn cael ei chanslo rhwng trefnu a gadael, byddwch dal yn cael eich diogelu ag yswiriant.
Beth mae yswiriant teithio blynyddol yn ei gynnwys?
Mae yswiriant teithio blynyddol fel arfer yn cynnwys popeth y byddech yn ei ddisgwyl mewn polisi yswiriant teithio safonol, gan gynnwys:
- argyfyngau meddygol
- os yw eich taith yn cael ei ganslo
- colli bagiau
- unrhyw oedi teithio.
Bydd yr hyn mae'ch polisi yn ei gynnwys yn wahanol yn dibynnu ar gan bwy rydych chi wedi'i brynu - felly mae'n bwysig iawn darllen manylion eich polisi yn ofalus.
Efallai y bydd ychwanegiadau dewisol yr hoffech eu hychwanegu at eich polisi. Gall hyn gynnwys pethau fel yswiriant ar gyfer teclynnau, chwaraeon gaeaf neu deithiau mordeithio. Meddyliwch a fydd angen y rhain arnoch fel rhan o'ch polisi.
Fel arfer, cewch eich diogelu hyd at swm penodol ar gyfer pob rhan o'r yswiriant. Er enghraifft, efallai y cewch yswiriant o hyd at £1,500 am unrhyw ganslo. Ystyriwch a yw hyn yn ddigon ar gyfer eich anghenion.
Pwy sy’n cael ei diogelu gan yswiriant teithio blynyddol?
Byddwch yn gallu dewis pwy sy'n dod o dan eich polisi aml-daith. Fel arfer, dim ond deiliad y polisi y bydd yn ei ddiogelu, ond gallwch ddewis polisïau teuluol a fydd yn yswirio pob aelod o'ch teulu.
I ble alla i deithio gydag yswiriant blynyddol?
Byddwch yn dewis pa lefydd sy'n cael eu cynnwys yn eich polisi. Fel arfer, mae gennych ddewis rhwng:
- Ewrop
- byd-eang - ac eithrio UDA, Canada a'r Caribî
- byd-eang.
Efallai y bydd y gost yn uwch ar gyfer darpariaeth ehangach, felly dewiswch yr opsiwn sy'n gweddu orau i'ch cynlluniau teithio.
Yswiriant teithio aml-daith blynyddol o’i gymharu ag yswiriant teithio un daith
Bydd yswiriant teithio taith sengl yn cwmpasu un daith benodol yn unig, tra bod yswiriant blynyddol yn cwmpasu teithiau lluosog o fewn blwyddyn gyfan.
Mae p'un a yw'n well cael polisi blynyddol ai peidio yn dibynnu ar eich cynlluniau teithio. Os ydych chi'n bwriadu teithio unwaith yn ystod y flwyddyn yn unig, gall polisi un daith fod yn rhatach.
Os ydych chi'n mynd i deithio ychydig o weithiau o fewn blwyddyn, mae yswiriant blynyddol yn aml yn fwy cost-effeithiol. Mae'n werth cymharu prisiau i weld beth sy'n gwneud y mwyaf o synnwyr yn ariannol.
Gall hefyd fod yn fwy cyfleus prynu yswiriant blynyddol, gan na fydd angen i chi brynu polisi newydd ar gyfer pob taith.
Pam y gall yswiriant aml-daith fod yn rhatach nag un daith?
Er bod y swm y byddwch yn ei dalu am yswiriant blynyddol yn uwch na pholisi un daith, rydych chi'n lledaenu'r gost hon dros sawl taith. Gall hyn olygu bod y pris fesul taith yn is nag ychydig o bolisïau taith sengl.
Mae'n dibynnu mewn gwirionedd ar nifer y teithiau rydych chi'n eu cymryd mewn blwyddyn, a chost y polisïau taith sengl hynny, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cymharu ac yn dewis yr un sy'n gweithio orau i chi.
Lle y gallai fod angen yswiriant ychwanegol arnaf?
Gall rhai sefyllfaoedd ei gwneud hi'n anodd cael yswiriant teithio, ac efallai y bydd angen yswiriant ychwanegol arnoch.
Os oes gennych gyflwr meddygol sy'n bodoli eisoes, efallai y gwelwch fod yswiriant yn cael ei wrthod i chi neu fod dyfynbrisiau yn llawer uwch nag y byddech chi'n ei ddisgwyl. Gallwch gael cymorth gan ein cyfeiriadur yswiriant teithio i ddod o hyd i ddarparwyr arbenigol os mai hyn yw’r achos.
Os ydych yn teithio i ardal sydd â risg uchel o drychinebau naturiol neu drais, gall hyn olygu y bydd angen yswiriant ychwanegol arnoch. Ystyriwch y costau, y risgiau a'ch anghenion personol cyn teithio.
Efallai y gwelwch hefyd nad yw rhai mathau o deithiau yn dod o dan eich polisi safonol. Gall hyn gynnwys teithiau sgïo, mordeithiau neu weithgareddau eraill sy'n dod â risg ychwanegol.
Allwch chi ganslo yswiriant teithio blynyddol?
Fel arfer, gallwch ganslo polisi yswiriant teithio blynyddol o fewn 14 diwrnod o’i brynu. Gelwir hyn yn 'gyfnod ailfeddwl', a bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn eich caniatáu i ganslo yn ystod y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn wir. Mae gan ddarparwyr gwahanol dermau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r polisïau canslo cyn prynu. Efallai y bydd rhai darparwyr yn codi ffi canslo.
A yw yswiriant teithio blynyddol yn werth chweil?
Efallai ei fod, ond mae'n dibynnu ar eich cynlluniau.
Os ydych chi'n teithio i wahanol wledydd lawer gwaith mewn blwyddyn, mae'n debyg y gwelwch fod polisi blynyddol yn rhatach ac yn fwy cyfleus.
Os oes gennych ddwy neu dair taith ar y gweill, mae'n syniad da cymharu'r ddau opsiwn. Defnyddiwch safle cymharu prisiau i weld beth yw'r bargeinion gorau.
Os oes gennych chi un daith wedi'i chynllunio, bydd fel arfer yn rhatach cael un polisi taith.
Sut i ddod o hyd i’r fargen orau ar eich yswiriant gan ddefnyddio safleoedd cymharu prisiau
Mae p'un a yw polisi blynyddol yn iawn i chi yn dibynnu ar ystod eang o ffactorau, felly mae defnyddio gwefan cymharu prisiau yn gam doeth.
Gall ein canllaw i ddod o hyd i'r fargen orau gan ddefnyddio safleoedd cymharu prisiau eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y pris a’r yswiriant gorau posibl.