Beth mae Cyllideb y Gwanwyn 2023 yn ei olygu ichi

Cyhoeddwyd ar:

Os ydych yn pendroni sut y bydd cyllideb eich cartref yn cael ei effeithio dros y misoedd nesaf, darganfyddwch yr hyn y mae’r llywodraeth wedi’i gyhoeddi yng Nghyllideb y Gwanwyn 2023.

Help gyda chostau gofal plant

Newyddion mawr i'r rhai sy'n gofalu am blant, gan fod y llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu'r 30 awr o ofal plant a ariennir yn Lloegr, a all ddechrau pan fydd y babi yn ddim ond naw mis oed. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno fesul cam.

Ar hyn o bryd, gellir hawlio 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed, ond mae hyn yn cael ei ymestyn i gwmpasu plant o naw mis i ddwy oed. Dim ond mewn cartrefi cymwys y mae hyn - mewn lleoliadau meithrin cymwys - lle mae pob oedolyn yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Os ydych yn rhiant i blentyn dwy oed sy’n gweithio, gallwch gael 15 awr o ofal a ariennir o Ebrill 2024. Bydd y 15 awr hwnnw’n cael ei ymestyn i bob plentyn o naw mis i fyny o Fedi 2024.

Nod y llywodraeth yw y bydd gan bob rhiant gyda phlentyn o dan 5 oed sy'n gweithio, o Fedi 2025, fynediad at 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos.

Bydd rhieni a gofalwyr ar Gredyd Cynhwysol sy'n byw yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban sydd am fynd yn ôl i'r gwaith neu eisiau cynyddu eu horiau yn cael eu costau gofal plant wedi’u talu ymlaen llaw.

Bydd cefnogaeth anogwr gwaith dwys i bobl mewn gwaith a'u partneriaid. Bydd y llywodraeth hefyd yn cryfhau cefnogaeth swydd i unrhyw un sy'n brif ofalwr i blant ifanc ac nad oes ganddynt ofynion neu fod ganddynt ofynion cyfyngedig ar hyn o bryd i chwilio am waith ac i baratoi ar gyfer gwaith.

Bydd y llywodraeth hefyd yn cynyddu'r uchafswm y gall rhieni ar Gredyd Cynhwysol hawlio mewn costau gofal plant y mis i £951 am un plentyn a £1,630 y mis am ddau o blant.

Gallwch wneud gwiriad cyflym i weld a yw’n werth symud i neu hawlio Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio ein Cyfrifannell Budd-daliadau. Ond os ydych eisioes yn cael budd-daliadau (yn enwedig credydau treth) dylech siarad ag arbenigwr budd-daliadau a fydd yn gallu eich helpu i gyfrifo beth sydd orau i chi cyn i chi wneud hawliad gan na allwch fynd yn ôl at eich hen fudd-daliadau unwaith rydych wedi gwneud hawliad am Gredyd Cynhwysol.

Mae Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd yn lle da i ddechrau dod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn eich ardal.

Mae’r llywodraeth hefyd yn bwriadu helpu gyda gofal cofleidiol. Bydd pob ysgol yn Lloegr yn cynnig gofal plant cyn ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol i blant erbyn mis Medi 2026.

Er mwyn helpu rhieni a gofalwyr sy'n gweithio (neu eisiau gweithio), bydd y llywodraeth yn ariannu ysgolion ac awdurdodau lleol i gynyddu'r gofal y gallant ei ddarparu, fel y gall pob rhiant a gofalwr i blant oed ysgol ollwng eu plant  yn yr ysgol o 8am a'u casglu o gwmpas 6pm. Fodd bynnag, nid yw'r gofal hwn yn debygol o ddechrau cael ei gyflwyno tan 2024.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ewch i NI Direct am help gyda gofal plantYn agor mewn ffenestr newydd

Cynllun Cymorth i Gynilo wedi’i estynnu

Bydd y llywodraeth yn ymestyn y cynllun Cymorth i Gynilo am18 mis ychwanegol hyd at Ebrill 2025. Mae’r cynllun hwn yn annog pobl sy’n cael Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith i gynilo, trwy gyfateb cyfraniadau o hyd at £50 y mis. Os gallwch wneud hwn, mae’n ffordd dda iawn i adeiladu byffer cynilion. 

Cymorth ychwanegol gyda biliau ynni

Roedd llawer o bobl yn poeni am y Warant Prisiau Ynni (sy'n cyfyngu bil ynni blynyddol cartref nodweddiadol i £2,500) a ddaeth i ben ar ôl gaeaf drud. Felly mae'n newyddion i'w groesawu y bydd yn cael ei ymestyn am dri mis arall.

Roedd i fod i gynyddu i £3,000 ym mis Ebrill ond bydd nawr yn aros yn ei le tan 1 Gorffennaf 2023. Mae arbenigwyr wedi rhagweld y bydd prisiau ynni yn dechrau cwympo yr haf hwn, felly cadwch lygad am fargeinion gwell.

Fodd bynnag, mae Cynllun Cymorth Biliau Ynni'r llywodraeth (EBSS) yn dod i ben ym mis Mawrth. Mae hyn yn golygu na fyddwch bellach yn derbyn y talebau na'r taliadau o £66 neu £67 y mis tuag at eich biliau.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi dweud ei bod yn bwriadu dod â'r costau ychwanegol y mae'r rhai sydd â mesuryddion rhagdaledig yn eu talu i ben. Mae'r llywodraeth yn mynd i'r afael ag un o'r pethau sy'n achosi i ddefnyddwyr mesuryddion rhagdaledig dalu mwy na debyd uniongyrchol. Dylai hyn ei wneud yn decach.

Pensiwn

Cyhoeddiad mawr oedd y bydd y llywodraeth yn diddymu'r terfyn lwfans oes ar bensiynau o Ebrill 2024. Maen nhw'n gobeithio y bydd pobl yn aros mewn gwaith yn hirach, felly dydyn nhw ddim eisiau capio faint y gall pobl ei roi yn eu pensiynau preifat.

Ar hyn o bryd mae'r lwfans oes yn golygu, os byddwch chi'n rhoi mwy na £1.07m i mewn, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu tâl ychwanegol, ond bydd y tâl hwnnw'n cael ei ddiddymu o 6 Ebrill 2023.

Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr sy'n ceisio elwa o newidiadau i'r lwfans oes wneud hynny o Ebrill 2023 yn hytrach nag aros nes iddo gael ei ddiddymu ym mis Ebrill 2024.

Os ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd, o 6 Ebrill 2023 gallwch arbed £60,000 i'ch pensiynau heb gosb ( £40,000 ydoedd cynt).

Os ydych chi eisoes wedi cymryd arian o'ch pensiwn ac eisiau adeiladu eich cynilion eto, o 6 Ebrill 2023, gallwch arbed hyd at £10,000 y flwyddyn yn eich pensiynau (£4,000 oedd y swm).

Mae treth tanwydd yn aros ar y lefelau presennol

Mae'r llywodraeth yn parhau i gefnogi cartrefi a busnesau trwy gynnal cyfraddau'r treth tanwydd ar y lefelau presennol am 12 mis ychwanegol trwy ymestyn y toriad treth tanwydd 5c dros dro a chanslo'r cynnydd a oedd wedi’i gynllunio mewn llinell â chwyddiant ar gyfer 2023/24.

Mae'r gefnogaeth hon werth oddeutu £200 i’r gyrrwr car cyffredin.

Help i bobl sydd â salwch hirdymor neu anableddau

Mae'r llywodraeth yn cyflwyno cynllun gwirfoddol o'r enw Cefnogaeth Cynhwysol sef helpu pobl sy'n byw gydag anabledd i chwilio am swyddi priodol, heb boeni am golli mynediad at fudd-daliadau.

Hefyd bydd y cynllun Work Well a fydd yn cefnogi pobl gyda chyflyrau iechyd i aros mewn gwaith neu symud i waith.

Cadarnhaodd y Canghellor y bydd yr Asesiad Gallu Gwaith yn cael ei ddiddymu, a bydd y llywodraeth yn dechrau gwahanu hawl rhywun i fudd-daliadau o’u gallu i weithio. Mae manylion pryd y bydd hyn yn digwydd yn dal i gael eu gweithio allan.

Help i ofalwyr maeth

Bydd help ychwanegol i ofalwyr maeth, gan y bydd y llywodraeth bron yn dyblu'r trothwy rhyddhad gofal i £18,140 i roi toriad treth i ofalwr cymwys, sy'n werth £450 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Treth alcohol yn cynyddu ar gwrw, seidr, gwinoedd a gwirodydd wedi’u mewnforio

Bydd cyfraddau treth nwyddau alcohol a gynhyrchir yn y DU, neu a fewnforir i’r DUyn cynyddu yn unol â RPI.

Bydd Rhyddhad Casgen yn cynyddu o 5% i 9.2% ar gyfer cynhyrchion cwrw a seidr casgen ac o 20% i 23% ar gyfer gwin, gwirodydd a chynhyrchion casgen alcoholig eraill. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 1 Awst 2023.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.