Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
02 Awst 2023
Mae gan bob oedolyn yn y DU sgôr credyd, set o rifau sy’n dangos pa mor ddeniadol gallwch fod i fenthycwyr. Felly, sgôr credyd gwael yw unrhyw beth a all ei droi i ffwrdd, fel hanes o fethu taliadau neu daliadau hwyr. Dyma sut y gallwch wirio eich sgôr am ddim a chael help os oes angen ddechrau trawsnewidiad.
Mae gwneud cais am gredyd, megis benthyciad, gorddrafft neu gytundeb ffôn symudol, fel gwneud cais am swydd.
Yn yr un modd â chyflogwr sydd eisiau gwybod am eich profiad gwaith, mae benthyciwr am weld eich profiad gyda chredyd - a’n defnyddio eich adroddiad credyd i wirio hyn. Mae’ch adroddiad yn cofnodi eich hanes credyd dros tua’r chwe blynedd diwethaf a’n dangos os:
Yn y bôn mae’n gadael i fenthycwyr glywed gan gwmnïau sydd wedi benthyca arian i chi’n barod. Yna gallent gyfrifo pa mor ddiogel rydych fel bet - fel geirda swydd.
Ni fyddwch eisiau gwneud cais am swydd heb ddiweddaru eich CV yn gyntaf, neu ei olygu am unrhyw wallau. Mae’r un peth yn wir wrth wneud cais am gredyd, rydych am adael cyn lleied i siawns â phosibl.
Mae yna tri chwmni (asiantaeth gwirio credyd) sy’n dal eich ffeil credyd, felly'r peth orau yw gwirio pob un.
Asiantaeth gwirio credyd |
Sut i wirio'ch adroddiad credyd am ddim: |
TransUnion |
Cofrestrwch am gyfrif MoneySavingExpert Credit ClubYn agor mewn ffenestr newydd |
Equifax |
Cofrestrwch am gyfrif ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd |
Experian |
Gwnewch gais am adroddiad Experian Statutory Credit Yn agor mewn ffenestr newydd |
Mae’r sgôr rydych yn ei weld (y rhif rhwng 0 a 1,000) ar gyfer chi’n unig - ni fydd benthycwyr yn defnyddio hwn. Mae wedi’i ddylunio i roi syniad i chi o ba mor dda rydych yn ei wneud, po uchaf yw’r rhif y gorau.
Y wybodaeth sydd wedi’i gofnodi ar eich ffeil credyd sydd wirioneddol yn bwysig. Am bob asiantaeth, sicrhewch fod eich manylion yn gywir a’ch bod yn adnabod yr holl gyfrifon sydd wedi’u rhestri.
Os ydych yn sylwi ar gamgymeriad, gallwch godi cais cywiro i’r asiantaeth gwirio credyd. Gall y gwefannau uchod eich helpu gyda hwn.
Mae adeiladu hanes credyd da’n cymryd amser - yn aml o leiaf chwe mis, neu’n hirach os ydych wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol fel methu taliad. Y peth sydd wir yn bwysig yw talu ar amser, felly peidio methu bil er enghraifft.
Fodd bynnag, mae yna rhai pethau hawdd y gallwch ei wneud y mae banciau a chwmnïau eraill yn cytuno sy’n ddeniadol, gan gynnwys cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad presennol ac osgoi cael sawl cais am gredyd. Am restr lawn, ewch i Sut i wella’ch sgôr credyd.
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Tra bod sgôr credyd uwch yn aml yn meddwl y byddwch yn gymwys i fwy o fargeinion a chyfraddau rhatach, fel arfer mae ffactorau eraill hefyd.
Dychmygwch mai dieithryn yn cerdded atoch a’n gofyn i fenthyg arian. A fyddwch yn rhoi’r arian?
Beth os oedd ffrind yn dweud wrthych fod y person hynny’n ddibynadwy ac maent wedi dychwelyd pethau yr oeddent wedi benthyg iddynt gynt. A fyddwch yn rhoi’r arian nawr? Beth os oedd eich ffrind wedi cael profiad gwael a wnaeth y person dorri’r eitem neu beidio’i ddychwelyd?
Bydd eich penderfyniad yn debygol yn dibynnu ar faint wnaethant ofyn amdano, neu am faint maent ei eisiau. Er enghraifft, os oeddent am fenthyg £1 am 10 munud efallai byddwch yn fodlon, ond os ydynt yn gofyn am £20 neu £100 am wythnos efallai na fyddwch yn cymryd y risg. A bydd eich penderfyniad chi’n debygol yn wahanol i fy mhenderfyniad i.
Mae hyn hefyd yn wir wrth wneud cais am gynnyrch neu wasanaeth. Mae gan bob benthyciwr meini prawf gwahanol ar gyfer pwy maent yn benthyca arian iddynt, felly gallwch fod â sgôr credyd isel a chael eich derbyn o hyd - neu sgôr credyd perffaith a chael eich gwrthod o hyd.
Felly mae am ddarganfod pwy fydd yn benthyca i chi. Rhowch eich manylion mewn gwiriwr cymhwysedd ar wefan cymharu fel MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd ClearscoreYn agor mewn ffenestr newydd neu Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd a gwelwch pa fenthycwyr sy’n debygol o’ch derbyn cyn gwneud cais. Opens in a new window