Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau
Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
13 Rhagfyr 2023
Os ydych chi’n pendroni sut y bydd prisiau ynni cynyddol yn effeithio ar gyllid eich cartref a mwy, dyma’r grantiau a’r taliadau sydd ar gael ar hyn o bryd i’ch helpu gyda’ch biliau.
Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023. Rhoddwyd £400 i bob cartref a dalodd fil trydan domestig tuag at gost gynyddol ynni. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut i arbed arian ar eich biliau ynni yn ein canllaw.
Mae cap ar brisiau Ofgem nawr yn £1,834 y flwyddyn, a bydd hwn yn newid i £1,928 ar 1 Ionawr 2024.
Mae cap ar brisiau Ofgem yn cyfyngu ar faint y gall eich cyflenwr ei godi arnoch am yr ynni rydych chi’n ei ddefnyddio. Efallai y byddwch yn talu llai na’r gyfradd uned a bennir gan y cap ar brisiau os oes gennych gytundeb sefydlog ar eich ynni.
Mae'n bwysig nodi nad yw’r cap ar brisiau ynni yn cyfyngu ar gyfanswm eich bil. Mae’n cyfyngu ar gost uned ynni a'ch tâl sefydlog - felly yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei ddefnyddio, gallai eich bil fod yn is neu’n uwch.
Mae’r cap ar brisiau yn berthnasol i gwsmeriaid sydd ar dariff amrywiol safonol yn unig. Os ydych ar gytundeb sefydlog gallech orfod talu mwy na’r cap ar brisiau.
Mae Ofgem yn newid y cap ar brisiau bob tri mis, ym mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Mae’n seiliedig ar gost gyfanwerthol ynni, felly os bydd hynny’n newid, bydd eich biliau yn newid hefyd os ydych ar y cap ar brisiau.
Mae’r cap ar brisiau yr un fath ar gyfer cartrefi sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol a phobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdaledig.
Mae tri Taliad Byw yn cael eu hanfon ar draws 2023/24 ar gyfer pobl ar fudd-daliadau prawf modd, yn ogystal â thaliadau ychwanegol i bensiynwyr a phobl ag anableddau. Fel y Taliadau Costau Byw blaenorol, bydd y rhain yn mynd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ac ni ddylech orfod gwneud cais amdanynt.
Mae’n debygol y byddwch yn gymwys os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn
Os nad ydych yn cael y budd-daliadau hyn a’ch bod yn byw ar incwm isel, mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Caiff tri Thaliad Costau Byw ei wneud i’r sawl sy’n gymwys:
Er y bydd y taliadau hyn yn help mawr i lawer o bobl, bydd eraill yn dal i’w chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Os yw hynny’n wir i chi, nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae help ar gael. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw yn rheoli'ch arian mewn amseroedd ansicr, a all eich pwyntio i’r cyfeiriad cywir.