Nid yw Covid-19 wedi ein heffeithio yn gorfforol yn unig, ond mae wedi arwain at rai ohonom yn mynd drwy broblemau a phryderon ariannol am y tro cyntaf erioed. Rydym yn deall hyn, a p’un a ydych yn edrych am gymorth gan eich bod yn cael trafferthion ac mae gennych bryderon ariannol, neu os ydych ond angen arweiniad ynghylch budd-daliadau, cyllido, cael babi, morgeisi neu eich pensiwn, rydym eisiau i chi deimlo yn gyfforddus wrth gysylltu â HelpwrArian.
Mae HelpwrArian yn cynnig arweiniad diduedd ac am ddim am arian a phensiynau y gallwch ymddiried ynddo ac mae’n ei wneud yn gyflymach a’n haws i chi gael y cymorth cywir. Gallwch gael mynediad i HelpwrArian drwy ffôn, ar-lein, WhatsApp neu we-sgwrs. Rydym yma i helpu.
Os ydych yn cysylltu â ni dros y ffôn, bydd ein cydweithwyr canolfan gyswllt yno i’ch arwain ar unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch eich arian a phensiynau.
Fe wnaeth Medwen Roberts, o Ruthun, ein ffonio bythefnos yn ôl a siaradodd â Lawrence gan ei fod eisiau siarad â rhywun yn Gymraeg am ei bensiwn.
Dywed Medwen ‘’Fe roeddwn yn ceisio cael cymorth wrth benderfynu beth i’w wneud efo fy mhensiwn. Ni allai ddweud fy mod yn actif wrth edrych ar ôl fy mhensiwn. Mae’n hynod o ddryslyd a dwi’n gweld fod llawer o bethau mwy diddorol i wneud efo fy amser….!
Pan ffoniais linell gymorth Cymraeg pensiynau HelpwrArian, fe welais fod trafod fy opsiynau pensiwn yn Gymraeg yn llawer mwy naturiol a phwyllog. Dwi’n fwy cyfforddus yn siarad am bethau pwysig, yn enwedig pethau cymhleth fel arian, yn Gymraeg. Roedd Lawrence, fy arbenigwr pensiwn, yn arbennig, ac fe wnaeth fynd drwy lawer o bethau ychwanegol nad oeddwn wedi deall fy mod angen gwybod. Buaswn yn ei argymell i unrhyw un."