Anrheg digroeso? Ydych chi’n gwybod eich hawliau i ddychwelyd?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
17 Tachwedd 2021
Mae rhoi a derbyn anrhegion adeg y Nadolig i gyd yn rhan o'r hwyl, ond weithiau mae'n mynd yn anghywir.
Efallai wnaethoch brynu anrheg i rywun nad oedd yn ffitio neu oedd wedi torri, neu (waethaf oll) efallai eich bod wedi derbyn rhywbeth nad oeddech ei eisiau. Os bydd hynny'n digwydd, yna byddwch eisiau cael eich arian yn ôl neu ei gyfnewid am rywbeth arall.
Felly, beth yw eich hawliau wrth ddychwelyd anrhegion Nadolig?
Rhaid i unrhyw beth rydych yn ei brynu fodloni tair safon o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr:
- Ansawdd boddhaol - ni ddylai fod yn ddiffygiol nac wedi'i ddifrodi, neu o leiaf o ansawdd boddhaol. Er enghraifft, nid yw nwyddau ail law yn cael eu dal i'r un safonau â newydd sbon.
- Yn addas i’r diben - gallu ei ddefnyddio at y diben y cawsant eu cyflenwi ar ei gyfer.
- Fel y disgrifiwyd - rhaid iddo gyd-fynd â'r disgrifiad, y model neu'r sampl a ddangosir adeg y pryniant.
Rhodd i rywun arall
Cyn belled â bod gennych y dderbynneb, mae dychwelyd neu amnewid anrheg a brynwyd gennych ar gyfer rhywun arall sy'n methu â chyrraedd y tair safon, yn eithaf syml.
Os ydych eisiau ad-daliad llawn, yna mae angen i chi ddychwelyd yr anrheg o fewn 30 diwrnod. Ar ôl 30 diwrnod, dim ond atgyweiriad neu amnewidiad sydd gennych hawl iddo, nid ad-daliad.
Os bydd yw’r anrheg yn datblygu nam yn y chwe mis cyntaf, gallwch gael atgyweiriad neu amnewidiad o hyd ac, os yw hyn yn methu ad-daliad llawn neu ostyngiad mewn pris.
Rhodd gan rywun arall
Mae pethau'n mynd yn fwy cymhleth os ydych am ddychwelyd anrheg a brynwyd i chi gan rywun arall, oherwydd mae angen prawf prynu arnoch, nad ydych fwy na thebyg wedi'i gael.
Os yw'r eitem yn ddiffygiol yna gallwch ofyn i'r person a'i rhoddodd i chi am y dderbynneb, gan dybio ei bod wedi'i chadw.
Ond os yw'n rhywbeth nad ydych yn ei hoffi, neu ddim eisiau, yna efallai y bydd gormod o gywilydd arnoch i ofyn. Yn yr achos hwn rydych yn mynd i gael trafferth gallu ei anfon yn ôl.
Efallai y byddwch mewn lwc, fodd bynnag, gan fod rhai siopau'n gweithredu polisi dychwelyd ewyllys da adeg y Nadolig.
Prynu ar-lein a danfon
Yn hytrach na mynd i’r stryd fawr ar gyfer ein siopa Nadolig, bydd llawer yn prynu anrhegion ar-lein. Mae hyn yn golygu eich bod hefyd yn dod o dan y Rheoliadau Contractau Defnyddwyr.
Yn ystod y 14 diwrnod cyntaf, mae gennych hawl i ganslo'ch pryniant ar unrhyw adeg. Er enghraifft, os ydych yn gweld bod yr un eitem yn rhatach mewn man arall. Ar ôl hyn, cewch eich cynnwys o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr safonol os yw'r eitem yn methu â chyrraedd y tair safon.
Yr ardal anoddaf yw darparu. Os byddwch yn gofyn am ddanfoniad cyn y Nadolig ac nad yw’r anrheg yn cyrraedd, yna mae gennych hawl i ganslo'r archeb a chael ad-daliad llawn. Fodd bynnag, bydd angen i chi fod wedi cytuno ar y dyddiad danfon gyda'r manwerthwr wrth brynu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hawliau defnyddwyr – yr hyn sydd angen i chi wybod
Rhoddion wedi’u personoli
Oni bai bod yr eitem wedi'i difrodi neu'n ddiffygiol, mae'n debyg na fyddwch yn gallu dychwelyd anrhegion wedi'u personoli.
Mae'r un peth yn wir am eitemau darfodus (fel blodau) ac eitemau fel dillad isaf a dillad nofio.
Hawliau ar gyfer siopa yn yr arwerthiannau
Bydd llawer ohonom wedi bod i’r arwerthiannau cyn y Nadolig neu'n edrych ymlaen at gael rhywfaint o therapi manwerthu ym mis Ionawr. Er bod gennych hawliau o hyd wrth siopa yn yr arwerthiannau, mae rhai gwahaniaethau.
Os bydd rhywbeth rydych yn ei brynu yn yr arwerthiannau yn ddiffygiol neu'n cael ei ddifrodi, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn o'r hyn y gwnaethoch ei dalu amdano, nid y pris manwerthu arferol.
Os penderfynwch nad ydych yn ei hoffi, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar siopau i'ch ad-dalu.
Cael amddiffyniad ychwanegol
Am gael ychydig bach o ddiogelwch ychwanegol wrth brynu anrhegion Nadolig?
Yna defnyddiwch eich cerdyn credyd. Mae hyn yn golygu eich bod wedi'ch cynnwys o dan Adran 75, sy'n rhoi amddiffyniad ychwanegol i chi ar bryniannau rhwng £100 a £30,000.
Efallai y byddwch hefyd yn dod o dan gynllun gwirfoddol o'r enw ‘chargeback’ os ydych yn defnyddio'ch cerdyn debyd.