Pagymorth gallaf ei gael os na allaf fforddio fy morgais?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
04 Gorffennaf 2023
Mae morgeisi wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, a gallai cyfraddau llog cynyddol eisoes fod wedi effeithio ar faint rydych yn ei dalu bob mis. P'un a ydych ar gyfradd amrywiol neu'n dod i ddiwedd morgais cyfradd sefydlog, darganfyddwch beth i'w wneud os yw'ch taliadau wedi dod yn anfforddiadwy.
Pam mae fy morgais yn cynyddu?
Yn fras, mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn penderfynu ar eu cyfraddau llog morgais yn seiliedig ar faint mae'n ei gostio iddynt fenthyca arian i brynu eich cartref, ynghyd â rhywfaint o elw.
Pan fydd cyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn codi, mae'n costio mwy i'r banc fenthyca'r arian y maent yn ei ddefnyddio i gynnig morgais i chi. Felly, pan fydd yn cynyddu, neu os yw'ch banc yn meddwl y bydd yn cynyddu yn y dyfodol, gall eich cyfradd llog gynyddu pan nad ydych ar gytundeb cyfradd sefydlog.
Am dros 10 mlynedd roedd y gyfradd sylfaenol yn is nag 1%, felly mae cynydd diweddar yn golygu, os ydych y tu allan i gyfradd sefydlog, y gallech fod yn talu cannoedd yn fwy nag yr ydych wedi arfer ag ef ar gyfer eich morgais bob mis.
Beth yw'r Siarter Morgeisi?
Oherwydd cynnydd diweddar yn y gyfradd llog, mae'r llywodraeth a'r FCA wedi gofyn i ddarparwyr morgeisi gytuno ar restr o fesurau arbennig i gynnig help i gwsmeriaid sy'n cael trafferth fforddio eu taliadau morgais.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- yr opsiwn i newid i forgais llog yn unig am chwe mis neu ymestyn cyfnod eich morgais i wneud taliadau'n fwy fforddiadwy. Mae hyn ar gael i gwsmeriaid sydd wedi bod yn talu eu morgais ar amser ac nad ydynt eisoes mewn ôl-ddyledion yn unig.
- Byddwch yn gallu cloi i mewn i gytundeb cyfradd sefydlog ar gyfer pryd y bydd eich morgais presennol yn dod i ben pan fydd chwe mis ar ôl ar eich cytundeb. Os bydd cyfradd well gyda'r un benthyciwr yn codi cyn i'ch morgais presennol ddod i ben ond ar ôl i chi gofrestru ar gyfer morgais newydd, gallwch dderbyn y cynnig hwnnw yn lle.
- Ni fydd benthycwyr yn adfeddiannu'ch cartref o fewn 12 mis i'ch taliad cyntaf a gollwyd.
I gael mynediad i’r cymorth hwn, cysylltwch â'ch darparwr morgais.
Beth gallaf ei wneud os nad yw fy narparwr morgais wedi cytuno i’r siarter?
Mae yna rhai benthycwyr sydd heb lofnodi'r Siarter Morgeisi, ond mae 85% o forgeisi'r DU gyda benthycwyr sydd wedi cytuno iddo. Hyd yn oed os nad yw'ch benthyciwr wedi ymuno â'r siarter, dylai pob darparwr morgais gynnig help i chi os na allwch fforddio eich taliadau morgais. Cysylltwch â'ch benthyciwr cyn i chi fethu taliad i ddarganfod eich opsiynau. Os byddwch yn methu taliad ar eich morgais, gallech wynebu ffioedd ychwanegol, marc ar eich ffeil credyd a gallai hyd yn oed arwain at adfeddiannu'ch cartref.
Sawl gwaith allwch chi fethu taliad morgais?
Dylech osgoi colli unrhyw daliadau morgais. Bydd yr hyn sy'n digwydd os byddwch yn methu un neu ddau daliad yn dibynnu ar eich benthyciwr, ond mae yna opsiynau eraill i'ch helpu i aros ar y trywydd iawn cyn iddo gyrraedd y pwynt hwnnw.
Os ydych yn credu na allwch fforddio gwneud eich taliad morgais nesaf, cysylltwch â'ch benthyciwr. Byddant yn trafod eich opsiynau ac, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallent gynnig i:
- eich symud i forgais llog yn unig
- derbyn taliadau gostyngedig dros dro
- cynnig gohirio talu (a elwir weithiau'n wyliau talu)
- ymestyn tymor eich morgais fel eich bod yn talu dros gyfnod hirach, gan leihau'r hyn y mae angen i chi ei dalu bob mis.
Gall siarad â'ch benthyciwr deimlo'n frawychus ond ni fydd yn effeithio ar eich ffeil credyd. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai o'r opsiynau y gallai eich benthyciwr eu cynnig i chi wneud eich taliadau misol yn fwy fforddiadwy (a elwir yn 'oddefgarwch') yn cael eu hadlewyrchu ar eich ffeil. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch benthyciwr beth yw'r effaith os byddwch yn dewis unrhyw un o'r opsiynau hyn.
Er y gall rhai o'r dewisiadau hyn gynyddu'r cyfanswm costau y gallech eu talu dros gyfnod llawn eich morgais, gall colli taliad gostio mwy i chi yn y tymor hir ac o bosibl effeithio ar eich credyd. Os yw eich cartref yn cael ei adfeddiannu, gallech golli'r ecwiti rydych eisoes wedi talu amdano.
Os ydych chi'n poeni y gallech golli'ch cartref oherwydd methu ad-daliadau, gall elusennau ddarparu cymorth a chyngor, ac mae digon o help mewn mannau eraill hefyd.
Ewch i Shelter am fwy o wybodaeth amYn agor mewn ffenestr newydd adfeddiannu cartrefi neu Housing Rights os ydych yng Ngogledd Yn agor mewn ffenestr newyddIwerddon
Efallai y gall eich cyngorYn agor mewn ffenestr newydd lleol hefyd gynnig cymorth a chyngor.
A allaf hawlio Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)?
Os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, gallwch wneud cais am Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Mae'n cael ei dalu fel benthyciad y bydd angen ei dalu'n ôl pan fyddwch yn gwerthu neu'n trosglwyddo perchnogaeth o'ch cartref.
Gallwch ddarganfod mwy am fod yn gymwys ar gyfer SMI ar ein tudalen am Gymorth ar gyfer Llog Morgais. Ar gyfer rhai budd-daliadau, bydd angen i chi fod wedi eu hawlio cyhyd â thri mis cyn y gallwch wneud cais am SMI.
Fel arfer, caiff SMI ei dalu'n uniongyrchol i'ch benthyciwr, ac mae llog yn cael ei godi ar y benthyciad. Nid oes cyfyngiad ar ba mor hir y gallwch gael SMI, a gallwch ddechrau ad-dalu ar unrhyw adeg os bydd eich amgylchiadau'n newid ac y gallwch fforddio ad-daliadau.
Pryd fydd cyfraddau morgeisi yn newid?
Mae pryd y bydd eich cyfradd morgais yn newid yn dibynnu ar ba fath o forgais sydd gennych.
Os ydych ar forgais cyfradd amrywiol, cyn gynted ag y bydd Banc Lloegr yn cyhoeddi newid cyfradd, bydd eich llog morgais yn cynyddu neu’n gostwng hefyd. Gyda chyfradd sefydlog, mae newidiadau cyfradd llog ond yn effeithio arnoch pan fydd eich cytundeb yn dod i ben a'ch bod am ailforgeisio. Dylech gysylltu â'ch benthyciwr chwe mis cyn i'ch cytundeb ddod i ben a gweld pa gyfradd y gallech drosglwyddo iddi pan fydd eich cytundeb yn dod i ben. Yna gallwch gymharu hyn â bargeinion eraill ar y farchnad i gael y gyfradd orau.
I bobl sydd ar y gyfradd amrywiol safonol (SVR) gall banciau newid hyn ar unrhyw adeg, ond fel arfer os bydd y gyfradd sylfaenol yn cynyddu, bydd SVR eich banc hefyd.