Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor

Os ydych yn gweithio allan sut i dalu am ofal hirdymor - i chi neu rywun agos - gall cynghorydd ffioedd gofal annibynnol cynnig cyngor arbenigol diduedd. Darganfyddwch beth allant ei wneud i chi, sut maent yn cael eu talu a sut i ddewis un sy’n addas i chi.

Lle i ddod o hyd i ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol

Mae argymhellion personol gan ffrindiau neu deulu yn un ffordd o ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol. Ond hyd yn oed os ydych chi’n dod ymlaen yn dda gydag ymgynghorydd, mae’n anodd barnu yn y tymor byr pa mor dda yw’r swydd maent wedi’i gwneud.

I ddod o hyd i rywun a all eich helpu i ddeall eich opsiynau wrth dalu am ofal, defnyddiwch ein Cyfeiriadur Ymgynghorydd Ymddeoliad 

Am ffyrdd eraill o ddod o hyd i’r person iawn i chi, gwelwch ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol 

Os ydych yn dewis peidio â defnyddio ymgynghorydd ariannol proffesiynol, neu os ydych eisiau ymchwilio trwy’r dewisiadau cyn siarad ag un, bydd angen i chi wneud gwaith ymchwil trylwyr.

Byddwch yn ymwybodol os na fyddwch chi’n cymryd cyngor ariannol a bydd y cynnyrch yr ydych chi’n ei brynu yn anaddas i chi, bydd gennych lai o sail i gwyno a chael iawndal.

Mae’n syniad da siarad ag ychydig o ymgynghorwyr ariannol i weld a ydynt yn addasi chi. Bydd y rhan fwyaf yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol am ddim i chi, sy'n gyfle gwych i ofyn rhai cwestiynau.

Rôl ymgynghorydd ariannol annibynnol

Mae yna ymgynghorwyr ariannol annibynnol sy’n canolbwyntio yn benodol ar gyngor ariannu gofal, ac fe’u gelwir yn aml yn gynghorwyr ffioedd gofal arbenigol.

Maent yn cael eu rheoli gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a rhaid iddynt lynu at god ymddygiad a moeseg a chymryd cyfrifoldeb am addasrwydd unrhyw gynnyrch maent yn ei argymell.

Yn wahanol i ymgynghorwyr sy’n gysylltiedig â darparwyr neilltuol, gall ymgynghorwyr ffioedd gofal arbenigol gynnig cyngor ar gynnyrch o’r farchnad gyfan. Mae ganddynt  gymwysterau penodol  sy’n arwydd o’u dealltwriaeth o’r nifer o faterion y bydd angen i chi eu hystyried efallai pan ddaw’r amser i ariannu gofal hirdymor.

Os yw’r gofal i chi, er enghraifft, bydd ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol yn mynd trwy broses o ddarganfod ffeithiau.  Bydd hyn yn eu helpu i asesu a deall eich anghenion a’ch amgylchiadau.

Bydd y cwestiynau y byddant yn eu trafod gyda chi am:

  • eich sefyllfa briodasol
  • perchnogaeth eich eiddo
  • agwedd tuag at risg
  • lleoliad eich teulu a’ch ffrindiau
  • lefel eich anghenion gofal ac agwedd eich teulu
  • eich iechyd
  • eich incwm presennol, gan gynnwys incwm heb ei ennill a budd-daliadau
  • pa gymorth gan y Wladwriaeth y gallai fod gennych hawl i’w gael
  • y gofal sydd ar gael ar hyn o bryd a pha ofal fydd ei angen yn y dyfodol
  • cost posib gofal yn y cartref neu’r cartref gofal yr ydych wedi ei ddewis
  • eich asedau, er enghraifft cyfranddaliadau a buddsoddiadau eraill sy’n agored i Dreth Enillion Cyfalaf
  • rhwymedigaethau neu ddyledion a allai leihau gwerth eich asedau neu eich ystad
  • eich galluedd meddyliol a gwneud darpariaethau ar gyfer cymryd penderfyniadau.

Byddant wedyn yn cynnig argymhellion ynglŷn â chynnyrch a gwasanaethau ariannol sy’n addas i chi. Byddant yn rhoi hyn i gyd yn ysgrifenedig.

Pam y gallai fod angen ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol arnoch?

Efallai mai hwn fydd y tro cyntaf i chi ddefnyddio ymgynghorydd ariannol a gall ymddangos yn frawychus.

Ond mae talu am ofal yn gymhleth. Mae’n anodd deall yr holl reolau ac opsiynau heb arweiniaid arbenigol.

Ac mae rhai opsiynau, fel rhyddhau ecwiti, yn cael eu hystyried mor gymhleth y mae’r rheoliadau’n nodi bod yn rhaid i chi gael cyngor yn gyntaf. Nid oes rhaid i chi ddilyn y cyngor – ond dylech feddwl yn ofalus cyn mynd yn ei erbyn.

Dylai ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol roi cymorth i chi ddod o hyd i ffordd i ariannu eich gofal hirdymor sydd:

  • yn addas i’ch anghenion
  • yn fforddiadwy nawr ac yn y dyfodol
  • yn cydweddu â’ch agwedd tuag at risg a’ch blaenoriaethau ariannol.

Mae rhai dewisiadau hunangyllido yn eithaf syml, tra bo eraill yn llawer mwy cymhleth.

Gall ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol roi cymorth i chi gymharu’r dewisiadau cyn i chi benderfynu pa un sydd fwyaf addas i chi.

Byddant yn medru egluro’r holl gostau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â phob cynnyrch hefyd.

Dylent allu rhoi cymorth ar bethau eraill hefyd. Gall hyn gynnwys trefnu eich ewyllys neu bŵer atwrnai a’ch cynghori ar y budd-daliadau a’r cymorth gan y GIG neu’r awdurdod lleol sydd ar gael er mwyn eich helpu gyda’ch costau gofal.

Dewis yr ymgynghorydd cywir i chi

Mae rhaid i ymgynghorwyr ariannol fod yn glir o ran y math o gyngor maent yn ei roi i chi, a dilyn rheolau ar sut mae nhw’n codi tâl.

Mae rhaid iddynt hefyd ei gwneud yn glir a yw’r cyngor maent yn ei ddarparu yn annibynnol neu wedi’i gyfyngu mewn unrhyw ffordd.

Efallai bydd yr ymgynghorwyr ariannol cyfyngedig naill ai’n gyfyngedig yn y math o gynhyrchion maent yn eu cynnig neu nifer y darparwyr maent yn dewis ohonynt.

Gall ymgynghorwyr ariannol annibynnol argymell pob math o gynhyrchion buddsoddi manwerthu a chynhyrchion pensiwn gan gwmniau ar draws y farchnad heb gyfyngiad.

Efallai yr hoffech ystyried dewis un a all ddelio ag ystod eang o ddarparwyr ar gyfer y cynnyrch maent yn ei argymell – ac nid dim ond un neu ddau. Yna, byddwch yn gwybod y cewch y dewis ehangaf. Er hynny, ni ddylai p’un y byddwch yn ei ddewis effeithio ar ansawdd ac addasrwydd y cyngor a gewch.

Sicrhewch eich bod yn deall y math o wasanaeth y maent yn ei gynnig cyn i chi benderfynu a ddylech gael cyngor ganddynt.

Faint fydd hynny’n ei gostio?

Gall ffioedd am gyngor ariannol amrywio’n sylweddol. Maent yn dibynnu ar ble rydych yn byw, cymhlethdod eich sefyllfa, a’r lefel o gyngor a’r mathau o gynnyrch maent yn eu hargymell.

Mae llawer o ymgynghorwyr ariannol yn cynnig cyfarfod cychwynnol am ddim. Nid yw hyn wedi'i gynllunio i roi cyngor penodol i chi am eich sefyllfa. Mae’n fwy o gyfle i weld sut maent yn gweithio, faint maent yn ei godi ac i gael syniad a ydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda nhw.

Gall ffioedd amrywio o gannoedd o bunnoedd felly mae’n werth cael mwy nag un dyfynbris.

Darganfyddwch fwy am ffioedd ac awgrymiadau i gael y fargen orau yn ein canllaw Ffioedd ymgynghorwyr ariannol

Sut i wneud cwyn

Os cewch gyngor ac yn darganfod yn nes ymlaen nad oedd y cynnyrch yn addas,  gallech gael achos dros gam-werthu a chael iawndal.  Er enghraifft, os gwerthwyd bond buddsoddiad i chi pan oeddech yn debygol o fod angen mynediad at eich arian yn fuan.

Bydd gan bob ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol weithdrefn gwyno ffurfiol. Mae’n debygol y byddwch yn dod o hyd iddo yn eu Telerau Busnes pan fyddwch yn cofrestru gyda nhw yn gyntaf. Bydd hefyd gennych yr hawl i wneud cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.