Sefydlu pŵer atwrnai yng Nghymru a Lloegr

Beth yw atwrneiaeth?

Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i chi roi’r pŵer i un neu fwy o bobl wneud penderfyniadau a rheoli:

  • eich arian a’ch eiddo, a/neu
  • eich iechyd a’ch lles.

Cyn belled â’ch bod yn 18 oed neu’n hŷn, gallwch sefydlu un ar unrhyw adeg, ar yr amod eich bod yn gallu pwyso a mesur gwybodaeth a gwneud penderfyniadau eich hun.

Gall atwrneiaeth eich helpu â:

  • sefyllfaoedd dros dro – er enghraifft, byddwch yn yr ysbyty neu dramor a bydd angen help arnoch â thasgau bob dydd fel talu biliau
  • sefyllfaoedd tymor hwy – er enghraifft, byddwch am gynllunio ar gyfer yr annisgwyl neu wedi cael diagnosis o ddementia ac efallai y byddwch yn colli’r galluedd meddyliol i wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.

Atwrneiaeth – egluro’r termau

  • Atwrneiaeth arhosol (testun y canllaw hwn) – trefniant parhaus heb ddyddiad dod i ben. Bydd yn caniatáu i’r unigolyn/pobl rydych yn eu dewis wneud penderfyniadau ar eich rhan os byddwch yn colli galluedd meddyliol.
  • Atwrneiaeth gyffredin (neu gyffredinol) – mae hyn ar gyfer pan nad oes ond angen help dros dro arnoch. Nid yw ond yn ddilys cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol.
  • Disodlwyd atwrneiaeth barhaus yn 2007 gan atwrneiaethau arhosol. Gwelwch ein hadran isod ar ‘Os oes gennych atwrneiaeth barhaus eisoes’ i gael mwy o fanylion.
  • Pan rowch awdurdodiad i rywun arall weithredu ar eich rhan, chi yw’r rhoddwr.
  • Yr atwrnai yw’r person rydych yn ei ddewis i weithredu ar eich rhan. Gall unrhyw un â galluedd meddyliol sy’n 18 oed neu’n hŷn fod yn atwrnai. Mae hyn yn cynnwys gwraig, gŵr, partner sifil, partner, ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol fel cyfreithiwr.
  • Mae galluedd meddyliol yn golygu’r gallu i ddeall y penderfyniadau y mae rhaid i chi eu gwneud, pam mae angen i chi eu gwneud, a chanlyniad tebygol eich penderfyniadau.

Sut mae atwrneiaeth yn gweithio?

Rydych yn llenwi’r ffurflenni, naill ai ar-lein neu ar bapur, gan roi’r holl fanylion am bwy rydych eisiau i weithredu ar eich rhan.

Pan fyddwch wedi llofnodi’r rhain, byddwch yn cofrestru’r ffurflenni â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae rhaid i chi gadw’r ddogfen yn ddiogel a pharhau i wneud penderfyniadau yn y ffordd arferol nes bod ei hangen.

Os a phryd y mae angen i’ch atwrnai weithredu ar eich rhan, bydd yn rhoi copïau ardystiedig o’r atwrneiaeth i’ch banc a’r holl sefydliadau y mae angen iddynt ddelio â hwy. Mae hyn er mwyn profi bod ganddynt awdurdod cyfreithiol i weithredu ar eich rhan.

Beth ellir ei wneud ar fy rhan ag atwrneiaeth arhosol?

Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol. Gallwch gael un neu’r ddau. Fel rheol, mae’n syniad da sefydlu’r ddau ar yr un pryd.

Eiddo ac ariannol

Mae hyn yn rhoi’r pŵer i’r person rydych yn ei ddewis i wneud pethau fel:

  • casglu’ch budd-daliadau neu’ch pensiwn
  • talu biliau, newid darparwyr cyfleustodau a datrys materion treth
  • rheoli eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu yswiriant
  • prynu a gwerthu buddsoddiadau
  • gwerthu eich cartref
  • rhoi anrhegion i’ch perthnasau, er enghraifft ar ben-blwyddi a phriodasau.

Iechyd a lles

Mae hyn yn rhoi’r pŵer i’r person rydych yn ei ddewis i wneud penderfyniadau am bethau fel:

  • symud i gartref gofal
  • gofal meddygol, gan gynnwys triniaeth cynnal bywyd
  • eich trefn ddyddiol, er enghraifft, ymolchi, gwisgo a bwyta.

Gwneud yn siŵr bod eich dymuniadau’n cael eu cyflawni

Gallwch ddewis defnyddio’ch dogfen atwrneiaeth i roi cyfarwyddiadau ychwanegol i’ch atwrneion neu gofnodi’ch dewisiadau. Er enghraifft:

  • mae rhaid i’m hatwrneion ymgynghori â chynghorydd ariannol cyn buddsoddi dros £10,000
  • Hoffwn i’m hanifeiliaid anwes fyw gyda mi cyhyd ag y bo modd. Os af i gartref gofal, hoffwn fynd â hwy gyda mi.

Neu, gallwch siarad â’ch atwrneion ac egluro sut yr hoffech iddynt weithredu ar eich rhan. Yna bydd eich atwrneion yn rhydd i wneud penderfyniadau y maent yn meddwl sy’n iawn, a byddant yn gwybod beth rydych eisiau.

Pryd rwyf yn sefydlu atwrneiaeth arhosol?

Gorau po gyntaf.

Mae’n llawer mwy anodd ac yn ddrytach i rywun eich helpu â’ch arian a’ch eiddo os ydych eisoes wedi colli galluedd meddyliol.

Mae’n bwysig iawn sefydlu’r cyfan ymlaen llaw. Mae bywyd yn ansicr, a nid ydych byth yn gwybod pryd y gallai rhywbeth fel damwain neu strôc ddigwydd.

Hefyd, mae’n cymryd rhwng wyth a deg wythnos i gofrestru atwrneiaeth arhosol. Felly nid ydych am ei adael i’r funud olaf.

Dewis rhywun i weithredu ar eich rhan

Mae bod yn atwrnai yn rôl gyfrifol ac mae’n bwysig meddwl yn ofalus am bwy i’w ddewis.

  • Dewiswch rywun rydych yn ymddiried yn llwyr ynddynt. Mae angen i chi wir ymddiried ym mhwy bynnag rydych yn ei ddewis gan y byddant yn gwneud penderfyniadau difrifol i chi. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis teulu neu ffrindiau agos. Gallech hefyd ddewis cwmni, fel banc – ond gall hyn fod yn ddrud.
  • Gwnewch yn siŵr eu bod yn barod i weithredu ar eich rhan. Mae angen i chi drafod â hwy beth rydych am iddynt eu gwneud. Mae angen iddynt wybod beth sydd dan sylw, beth yw eich dymuniadau a ble mae’ch holl waith papur.
  • Ystyriwch oedran. Os ydych yn hŷn, byddwch yn wyliadwrus o ddewis rhywun sydd ag oedran tebyg i chi (neu’n hŷn). Efallai na fyddant yn y pen draw y person cywir i weithredu ar eich rhan, os a phryd mae angen eu help arnoch, oherwydd eu problemau iechyd eu hunain.

Dewis mwy nag un person i weithredu ar eich rhan

Manteision
  • Nid oes rhaid i chi adael pobl allan o’r broses.

  • Gall ehangu’r gwaith.

Anfanteision
  • Gallant anghytuno ar ba gamau i’w cymryd.

  • Yn dibynnu ar eu lleoliad, gallai fod yn anodd iddynt gwrdd i lofnodi dogfennau.

Os dewiswch gael mwy nag un person yn cynrychioli eich diddordebau, gallwch ddewis iddynt weithredu:
  • Ar y cyd – mae rhaid iddynt wneud penderfyniadau gyda’i gilydd bob amser. Mae’n golygu, os bydd un ohonynt farw, y byddai’r atwrneiaeth yn dod yn annilys – oni bai eich bod wedi penodi rhywun yn ei le.
  • Ar y cyd ac yn unigol – maent yn gwneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd a rhai yn unigol. Mae hyn yn golygu pe bai un ohonynt farw, byddai’r atwrneiaeth yn dal i fod yn ddilys.
  • Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac yn unigol ar gyfer popeth arall – bydd angen gwneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd. Chi sy’n dewis beth yw’r rhain pan fyddwch yn sefydlu atwrneiaeth. Os na all rhywun weithredu ar eich rhan mwyach neu’n marw, ni fydd eich atwrneion sy’n weddill yn gallu gwneud unrhyw un o’r penderfyniadau ar y cyd – oni bai eich bod wedi penodi rhywun yn ei le.
  • Amhenodol – os dewiswch ddau atwrnai neu fwy, ond nad ydych yn cwblhau’r adran yn dweud sut y dylent weithredu, y sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith yw bod rhaid iddynt weithredu ar y cyd.

Dewis atwrneion newydd

Gallwch ddewis atwrnai wrth gefn. Dylai hwn fod yn rhywun rydych wir yn ymddiried ynddo. Byddent yn cymryd dros wneud penderfyniadau pe bai un o’r atwrneion ‘gwreiddiol’ yn ymddiswyddo o’r atwrneiaeth arhosol neu’n marw.

Mae dewis atwrnai newydd yn amddiffyn rhag canslo’r atwrneiaeth, os na all y rhai gwreiddiol weithredu mwyach.

Mae gan atwrneion newydd yr un lefel o awdurdod â’r atwrneion maent yn eu disodli. Maent fel arfer yn camu i mewn cyn gynted ag y bydd un o’ch atwrneion gwreiddiol yn stopio gweithredu ar eich rhan.

Sut mae sefydlu atwrneiaeth arhosol?

Pan fyddwch wedi cael yr holl drafodaethau pwysig, wedi siarad â’r bobl rydych am eich cynrychioli ac o bosib wedi ceisio cyngor, mae angen i chi:

  1. Fynd i wefan GOV.UK – bydd y gwasanaeth ar-lein yn darparu’r ffurflenni ac yn eich tywys trwy’r broses.
  2. Ddewis eich atwrneion a gwneud yn siŵr bod gennych eu henwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni llawn.
  3. Ddewis rhywun i weithredu fel ‘darparwr tystysgrif’. Mae hwn yn berson diduedd sydd yno i amddiffyn eich buddiannau a gwirio eich bod yn gweithredu o’ch ewyllys rydd eich hun.
  4. Benderfynu a ydych am roi gwybod i unrhyw un arall am yr atwrneiaeth arhosol. Gall hyn fod yn ffrindiau neu aelodau o’r teulu nad ydych yn gofyn iddynt weithredu fel eich atwrnai, ond yr hoffech roi cyfle iddynt godi unrhyw bryderon.
  5. Gael ac argraffu llofnodion, a chyflwyno’r ffurflenni i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus â thaliad. Byddant yn gwirio bod popeth wedi’i wneud yn iawn ac yn dychwelyd y ffurflen atoch os oes unrhyw wallau y mae angen i chi eu trwsio.
  6. Yna byddwch yn cael copi wedi’i stampio o’r atwrneiaeth, yn dangos ei fod wedi’i dderbyn a’i gofrestru.

A oes angen cyngor cyfreithiol arnoch i sefydlu atwrneiaeth arhosol?

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio cyfreithiwr ond efallai yr hoffech ddefnyddio un os ydych yn cael trafferth â’r broses neu eisiau i rywun wirio’ch ffurflen. 

Faint mae’n ei gostio i sefydlu atwrneiaeth arhosol?

Bydd angen i chi dalu £82 am bob atwrneiaeth arhosol.

Os ydych am gofrestru atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol, yn ogystal ag atwrneiaeth arhosol iechyd a lles, bydd yn costio £164 i chi. 

Eithriadau a gostyngiadau mewn ffioedd

Mae sefydlu atwrneiaeth yn rhad ac am ddim – a elwir yn eithriad – os ydych ar rai budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd fel Cymhorthdal Incwm.

Os na allwch ei gael am ddim, efallai y gallwch gael gostyngiad o 50% yn y ffi os ydych yn ennill llai na £12,000 y flwyddyn.

Sut rwyf yn cael fy amddiffyn rhag i bethau fynd o chwith?

Mae rhaid i’ch atwrnai:

  • eich cefnogi i wneud eich penderfyniadau eich hun
  • gwneud pob penderfyniad er eich budd gorau
  • ystyried eich dymuniadau a’ch teimladau.

Os na fyddant yn gwneud y pethau hyn, gellir eu cyfeirio at y Llys Gwarchod.

Canslo atwrneiaeth arhosol

Cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol o hyd, gallwch ganslo atwrneiaeth arhosol ar unrhyw adeg.

Ar ôl i chi golli galluedd, dim ond â chytundeb y Llys Gwarchod y gellir canslo’r atwrneiaeth arhosol.

Os oes gennych atwrneiaeth barhaus eisoes

Yng Nghymru a Lloegr, os ydych wedi yn sefydlu atwrneiaeth arhosol cyn 1 Hydref 2007, bydd yn cael ei alw’n atwrneiaeth barhaus. Ni allwch sefydlu’r math hwn mwyach. Ond os oes gennych un, a’i fod wedi’i lenwi’n gywir, gallwch ei gofrestru a’i ddefnyddio – cyhyd â bod gennych alluedd meddyliol o hyd.

Fodd bynnag, cofiwch mai dim ond penderfyniadau am eiddo a materion ariannol y bydd yn eu cynnwys. Os ydych am benodi rhywun i wneud penderfyniadau am eich iechyd a’ch lles, bydd angen i chi sefydlu atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a lles.

Pan fydd wedi’i sefydlu, bydd angen i chi ganslo’ch atwrneiaeth barhaus, felly nid oes dryswch, a rhoi gwybod i’ch atwrneion.

Rhy hwyr i sefydlu atwrneiaeth?

Os nad oes gan rywun y galluedd i wneud ei benderfyniadau ei hun mwyach, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod. Efallai y gallant benodi ‘dirprwy’ i wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.