Mae gwrthbwyso pensiwn yn un o'r opsiynau sydd ar gael wrth ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil. Mae'n darparu toriad glân rhwng yr holl bartïon, gan fod gwerth unrhyw bensiynau yn cael ei wrthbwyso yn erbyn asedau eraill o'r un gwerth neu werth tebyg.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae’n gweithio?
Wrth ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, mae eich holl asedau ac asedau eich cyn partner yn cael eu hystyried.
Os penderfynwch ddewis gwrthbwyso pensiwn, mae pob parti yn cadw eu hasedau pensiwn. Ond mae'r rhain wedyn yn cael eu gwrthbwyso yn erbyn yr asedau eraill - er enghraifft, os oes gan un person cronfa bensiwn mawr, gallai'r llall gael y tŷ (gan dybio bod ganddo werth tebyg).
Manteision ac anfanteision
Manteision
-
Mae’n cadw pethau’n syml.
-
Efallai y bydd angen i un parti ddefnyddio asedau eraill (er enghraifft, cartref).
-
Os yw'r pensiwn yn fach, gallai gwneud gorchymyn rhannu pensiwn fod yn ddrud ac efallai na fydd yn gost-effeithiol. Gall fod yn anodd mewn rhai sefyllfaoedd i rannu'r asedau'n deg drwy ddefnyddio gwrthbwyso pensiwn, yn enwedig gan y gallai gwerth cynlluniau pensiwn unigolyn, yn y tymor hir, fod yr ased mwyaf gwerthfawr iddynt.
-
Nid yw ailbriodi na marwolaeth yn effeithio ar orchmynion gwrthbwyso.
-
Gallai hyn fod yn opsiwn da os oes angen rhannu asedau pensiwn tramor, gan na ellir rhannu'r rhain trwy orchymyn llys yn y DU.
Anfanteision
-
Efallai y bydd un person yn cael ychydig neu ddim darpariaeth ar gyfer ymddeol.
-
Gall fod yn anodd prisio rhai asedau oherwydd gallai eu gwerthoedd newid ar gyfraddau gwahanol.
-
Gall fod yn anodd mewn rhai sefyllfaoedd rhannu asedau yn deg gan ddefnyddio gwrthbwyso pensiwn, yn enwedig gan y gallai gwerth cynlluniau pensiwn unigolyn fod yr ased mwyaf gwerthfawr yn y tymor hir.