Fel rhiant newydd, gall dewis gofal plant fod yn dasg sy’n codi ofn. Dyma grynodeb o’r gwahanol ddewisiadau sydd ar gael i’ch helpu i benderfynu pa rai sy’n addas i anghenion eich teulu a’ch cyllideb.
Defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig
Costau gofal plant
Bydd costau gofal plant yn dibynnu ar y dewis a wnewch a ble rydych yn byw. Er mwyn cymharu costau’n gyflym, gweler ein canllaw, Costau gofal plant cyfartalog.
Rhywun sy’n gofalu am blant yn ei gartref ei hun ac sydd wedi cofrestru gydag un o’r canlynol:
- yng Nghymru: Arolygiaeth Gofal CymruYn agor mewn ffenestr newydd
- yn Lloegr: Ofsted
- yn Yr Alban: Care Inspectorate
- yng Ngogledd Iwerddon: Health and Social Care Trust
Manteision
-
Maent yn hunangyflogedig, felly nid oes rhaid i chi boeni am dalu eu treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI).
-
Cyn belled â’u bod wedi cofrestru, gallech fod yn gymwys am help i dalu am eich gofal plant drwy ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol, efallai gallwch hawlio hyd at 85% yn ôl o’r gofal plant misol. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Dysgwch ragor yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith.
-
Mae llawer o ofalwyr plant yn gweithio oriau hyblyg ac yn casglu/gollwng plant yn yr ysgol neu gylch chwarae. Bydd rhai gwarchodwyr plant yn aros ar agor yn ystod gwyliau ysgol ac efallai gallant gymryd plant ifanc nad ydynt eto mewn addysg ffurfiol ar ôl ysgol.
-
Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os ydych yn gymwys.
Anfanteision
-
Bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os yw'r gofalwr plant yn sâl neu ar wyliau.
Darganfyddwch ofalwr plant cofrestredig yn GOV.UK
Dewis meithrinfa ddydd
Mae meithrinfeydd yn cynnig gofal ac addysg i blant rhwng chwe wythnos a phum mlwydd oed.
Gallant gael eu rhedeg yn breifat neu gan sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol neu gyflogwyr.
Manteision
-
Fel arfer maent ar agor ar ddyddiau’r wythnos o 8am i 6pm, sy’n gweddu i’r rhan fwyaf o oriau gwaith.
-
Weithiau bydd awdurdodau lleol neu gyflogwyr yn talu cymhorthdal ffioedd meithrinfa.
-
Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn gymwys. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith.
Anfanteision
-
Fel arfer maent yn ddrytach na gofalwyr plant – gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
-
Fel rheol mae rhaid i chi dalu’r ffioedd hyd yn oed os ydych ar wyliau.
Darganfyddwch fwy am feithrinfeydd dydd ar wefan y Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd Genedlaethol (NDNA)
Cyflogi nani
Rhywun sy’n gofalu am blentyn yng nghartref y plentyn. Fel arfer mae’n rôl lle bydd yr unigolyn yn byw yn y cartref neu’n dod i mewn yn ddyddiol, ond mae nanis rhan-amser ar gael hefyd.
Mae nanis yn gallu cofrestru’n wirfoddol gydag Ofsted.
Manteision
-
Mae eich plentyn yn cael gofal gartref.
Anfanteision
-
Chi fydd y cyflogwr, ac yn gyfrifol am dalu’r Dreth Incwm a chyfraniadau YG.
-
Fel cyflogwr, mae ymrestru awtomatig yn golygu y bydd raid i chi dalu i bensiwn dros eich nani os bydd yn ennill mwy na £192 yr wythnos (£833 y mis) cyn treth (fel ar Ebrill 2024). Darganfyddwch fwy o wybodaeth am ddyletswyddau cyflogwyr gan y Rheoleiddiwr Pensiynau
-
Bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os byddant yn sâl neu ar wyliau.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth.
Darganfyddwch fwy am gyflogi nani ar GOV.UK
Darganfyddwch fwy am ymrestru awtomatig yn Nanny Tax
Au pair
Beth ydyw?
Rhywun sy’n byw gyda chi ac yn dysgu’r iaith a diwylliant lleol gan roi gofal plant am tua 30 awr a helpu o gwmpas y tŷ.
Manteision
-
‘Arian poced’ y maent yn ei gael felly mae’r costau yn llawer llai na dewisiadau gofal plant eraill. Gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
-
Fel arfer maent yn cael eu trin fel aelod o’r teulu yn hytrach na gweithiwr felly ni fydd rhaid i chi ymdrin â’u treth nag Yswiriant Gwladol.
Anfanteision
-
Ni allwch hawlio'r elfen gofal plant o'r Credyd Treth Gweithio – darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith.
-
Bydd rhaid i chi gyfrif cost ystafell a bwyd ar ben yr hyn y byddwch yn eu talu.
Darganfyddwch fwy am gyflogi au pair yn GOV.UK
Defnyddio cylch chwarae neu gyn-ysgol
Beth ydyw?
Gofal ac addysg gymunedol a gwirfoddol ar gyfer plant rhwng tair a phump oed.
Fel arfer maent yn cynnig sesiynau tair-awr yn y bore neu’r prynhawn yn ystod y tymor ysgol.
Manteision
-
Dewis rhad – gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
-
Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn gymwys.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gredyd Treth Gwaith.
Anfanteision
-
Bydd angen i chi chwilio am ddarpariaeth gofal plant arall ar gyfer gwyliau ysgol ac/neu weddill y diwrnod.
Er mwyn helpu rhieni a gofalwyr sy'n gweithio (neu eisiau gweithio), bydd y llywodraeth yn ariannu ysgolion ac awdurdodau lleol i gynyddu'r gofal y gallant ei ddarparu, fel y gall pob rhiant a gofalwr i blant oed ysgol ollwng eu plant yn yr ysgol o 8am a'u casglu o gwmpas 6pm.
Darganfyddwch cylch chwarae neu gyn-ysgol lleol yn GOV.UK
Canolfan Blant Cychwyn Cadarn
Manteision
-
Dewis rhad - mae llawer o’r gwasanaethau am ddim. Gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
-
Gan eu bod yn ‘siop un stop’, gallwch gael cyngor ar bethau eraill – er enghraifft, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.
-
Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn dair neu bedair blwydd oed.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gredyd Treth Gwaith.
Anfanteision
-
Nid yw pob canolfan yn caniatáu i chi adael eich plentyn yno trwy’r dydd.
Darganfyddwch Ganolfan Blant Cychwyn Cadarn yn GOV.UK
Ysgol feithrin
Cyflwyniad i addysg gynradd ar gyfer plant tair i bump oed. Yn aml maent wedi eu cysylltu â chylch cyn-ysgol neu ysgol gynradd. Ar agor yn ystod oriau ysgol yn ystod y tymor.
Manteision
-
Maent am ddim fel arfer os byddant yn gysylltiedig ag ysgol gynradd.
-
Bydd eich plentyn yn cael ei addysgu gan athrawon cymwysedig.
-
Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15–30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn gymwys.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gredyd Treth Gwaith.
Anfanteision
-
Bydd angen i chi chwilio am ddarpariaeth gofal plant arall ar gyfer gwyliau ysgol.
Darganfyddwch leoliad mewn ysgol feithrin yn GOV.UK
Dibynnu ar deulu neu ffrindiau
Mae opsiwn o gael aelod o’ch teulu neu ffrind i ofalu am eich plentyn. Gall hyn fod am ddim, am daliad neu trwy drefniant lle byddwch yn gofalu am blant eich gilydd – gelwir hyn yn ‘ofal plant dwyochrog’.
Gall hyn ymddangos yn ddewis cyfleus a fforddiadwy - ond gall y rheolau am y math hwn o drefniant fod yn gymhleth.
Manteision
-
Nid oes rhaid i aelod o’r teulu gofrestru gydag Ofsted os yw’n darparu gofal plant am ddim.
-
Gallai pobl sy’n gofalu am eu hwyrion i alluogi rhieni (neu ofalwyr) y plant i fynd i weithio fod yn gymwys i gredydau Specified Adult Childcare – budd-dal i gynyddu eu pensiwn y wladwriaeth yn y dyfodol.
Anfanteision
-
Yn ôl y gyfraith, ni allwch ddefnyddio ffrind i ofalu am blentyn yn rheolaidd am fwy na dwy awr y dydd yn ystod oriau gwaith arferol os yw’r plentyn dan wyth oed, oni bai eu bod yn ofalwr plant cofrestredig. Mae hyn yn rhywbeth i’w ystyried os oes gennych drefniant gofal plant dwyochrog.
Darganfyddwch fwy am y rheolau am ofal plant anffurfiol yn Netmums
Credydau Gofal plant Dynodedig i Oedolion
Mae’r cynllun hwn ar gyfer aelodau o’r teulu – neiniau a theidiau fel arfer – sy’n rhoi’r gorau i weithio er mwyn helpu i ofalu am blentyn.
Gallant elwa ohono os nad ydynt wedi cronni digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI) i fod yn gymwys am bensiwn y wladwriaeth yn llawn.
Gall y gofalwr fod yn gymwys:
- os ydynt dros 16 oed ond heb gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
- os ydynt yn perthyn i’r plentyn. Neiniau a theidiau yw’r gofalwyr mwyaf cyffredin, ond gall unrhyw aelod o’r teulu hawlio.
I fod yn gymwys, mae rhaid i’r plentyn fod dan 12 oed a:
- bod y rhiant (neu’r prif ofalwr) yn gymwys am Fudd-dal Plant
- bod gan y rhiant flwyddyn gymwys o gyfraniadau NI y mae’n fodlon ei throsglwyddo i’r gofalwr
- bod y rhiant (neu’r prif ofalwr) yn cytuno i’r cais. Efallai na fyddwch yn cytuno er enghraifft, os nad ydych yn dychwelyd i’r gwaith a bod angen y cyfraniadau NI arnoch.
Darganfyddwch fwy am eich cymhwyster a sut i wneud cais yn GOV.UK
Ni ellir cyflwyno cais am flwyddyn dreth neilltuol tan y mis Hydref canlynol. Mae hyn oherwydd bod hyn yn caniatáu i gofnodion NI gael eu diweddaru ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.
I wneud cais lawrlwythwch furflenni gais yn GOV.UK
Help gyda chostau gofal plant
Cofiwch, nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio am gost gofal plant.
Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i gael help gyda chostau gofal plant. Mae llawer o leoedd i gael help.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant
Dewis y gofal plant cywir
Mae’r galw am lefydd gofal plant yn uchel, felly nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau ymchwilio i’ch dewisiadau.
Mae costau gofal plant yn amrywio cryn dipyn gan ddibynnu ar ble rydych yn byw, felly mae’n syniad da cael gwybod beth gallwch ddisgwyl ei dalu yn eich ardal.
Ar gyfer cyfartaledd yn y DU ac yn Llundain, gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
Gallwch gyfrifo a yw’r gofal plant rydych ei eisiau yn fforddiadwy trwy gymharu’r costau gyda’ch incwm dros ben ar ôl taliadau hanfodol.