Cyfeirlyfr yswiriant teithio
Os oes gennych gyflwr iechyd, gall fod yn her dod o hyd i yswiriant teithio. Yn y cyfeirlyfr hwn, fe welwch restr fer o gwmnïau arbenigol sydd fwyaf tebygol o allu darparu yswiriant i chi.
Nid ydym yn darparu dyfynbrisiau ein hunain. Bydd angen i chi gysylltu â phob cwmni yn uniongyrchol i gael y manylion.
Yn dibynnu ar eich oedran neu gyflwr meddygol, efallai y byddwch yn gweld bod yswiriant yn dal i fod yn ddrud iawn neu ddim ar gael.
Mae pob cwmni:
- wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
- wedi'i ddewis ar sail tystiolaeth o'u harbenigedd.