Canllaw i bensiynau ar gyfer athrawon

Cyhoeddwyd ar:

Ydych chi’n athro sy’n ceisio cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad? Efallai bod gennych gwestiynau am y Cynllun Pensiwn Athrawon a sut mae’n berthnasol i chi. Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar fanylion y cynllun ac yn darparu atebion i rai cwestiynau cyffredin, fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol ariannol.

Beth yw’r Cynllun Pensiwn Athrawon?

Mae’r Cynllun Pensiwn Athrawon (TPS) wedi’i ddylunio’n benodol i athrawon a’r rhai sy’n gweithio mewn rolau dysgu yn y DU. Mae’n bwriadu darparu ffynhonnell incwm dibynadwy, diogel i athrawon yn ystod ymddeoliad.

Mae’n gynllun bensiwn buddion wedi’u diffinio, sy’n seiliedig ar eich cyflog a hyd eich gwasanaeth yn hytrach na fuddsoddiadau. Byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu i mewn i’r pensiwn. Byddwch yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn ogystal â phensiwn TPS.

Gallai fod yn ffynhonnell incwm rheolaidd yn ystod ymddeoliad, ond mae hefyd gennych y dewis i gymryd rhan ohono fel cyfandaliad.

Mae’r cynllun wedi’i lywodraethu gan y sefydliad Teachers’ PensionsYn agor mewn ffenestr newydd ac mae’n un o’r cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus mwyaf yn y DU.

Faint mae’r Cynllun Pensiwn Athrawon yn ei dalu?

Mae’r swm y cewch o’r TPS yn dibynnu ar amryw ffactorau, megis eich oedran, cyflog a hyd eich gwasanaeth pensiynadwy.

Mae’r rhan fwyaf o athrawon sy’n gymwys wedi ymrestru yn y cynllun Cyfartaledd Gyrfa, lle mae’r pensiwn yn seiliedig ar gyfran o’u cyflog a enillwyd bob blwyddyn. O’r flwyddyn hon, os ydych yn y cynllun Cyfartaledd Gyrfa, byddwch yn derbyn 1/57fed o’ch enillion pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Cadwch mewn cof efallai bydd ffactorau ac addasiadau ychwanegol ynghlwm. 

Cyfrifiannell Pensiwn Athrawon

Am amcangyfrif cywir o’ch hawl i bensiynau, defnyddiwch gyfrifiannell pensiynau ar-lein Teachers’ PensionsYn agor mewn ffenestr newydd. Mae’r cyfrifiannell hwn hefyd yn rhoi gwybod faint y gallwch ei gymryd fel cyfandaliad. 

Faint bydd Pensiynau Athrawon yn cynyddu yn 2023?

Mae pensiynau TPS sydd eisoes yn cael eu talu allan yn cynyddu'n flynyddol oherwydd y Cynnydd Pensiynau (PI), sy'n cael ei gymhwyso i bensiynau gwasanaeth cyhoeddus.

Mae PI bob amser yn cael ei gymhwyso ar y dydd Llun cyntaf sy’n cwympo ar neu ar ôl 6 Ebrill. PI yn y flwyddyn dreth 2023/24 yw 10.1%. Mae hyn wedi'i gymhwyso ers 10 Ebrill 2023.

Mynegrifo

Mae pensiynau TPS yn fynegrifol, sy’n sicrhau bod gwerth pensiynau’n cadw lan gyda chwyddiant dros amser.

Faint rydych chi’n ei dalu i mewn i’r Cynllun Pensiynau Athrawon?

Mae'r swm rydych yn ei dalu i'ch TPS yn dibynnu ar y swm rydych yn ei ennill bob mis. Os ydych yn ennill mwy un fis nag rydych fel arfer, er enghraifft oherwydd goramser, gallai eich cyfraniadau gynyddu. Bydd pobl sy'n ennill llai hefyd yn talu llai i'r cynllun.

Mae'r cyfraddau cyfraniadau yn newid yn flynyddol ym mis Ebrill. Yn 2023, roeddent:

Cyflog blynyddol Cyfraniad

Hyd at £32,135.99

7.4%

£32,136 i £43,259.99

8.6%

£43,260 i £51,292.99

9.6%

£51,293 i £67,979.99

10.2%

£67,980 i £92,697.99

11.3%

£92,698 neu fwy

11.7%

Gallwch hefyd dalu mwy i’r cynllun os hoffech.

Pryd gallwch gymryd arian o Gynllun Pensiynau Athrawon?

Gallwch gymryd arian o'ch pensiwn TPS ar eich oedran pensiwn y wladwriaeth neu yn 65 oed, pa bynnag yw'r dyddiad diweddarach.

Mae'n bwysig nodi y gall y llywodraeth adolygu a newid gofynion oedran pensiwn yn y dyfodol, felly mae'n werth cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw addasiadau posibl.

Gallwch hefyd ddechrau tynnu arian o'r pensiwn a pharhau i weithio mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft os ydych yn ymddeol yn raddol neu os ydych wedi ymddeol yna dychwelyd i'r gwaith.

Cynlluniau Cyflog Terfynol vs. Cyfartaledd Gyrfa

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, roedd dau brif gynllun pensiwn a allai fod yn berthnasol i chi: y cynllun ‘Cyflog Terfynol’ a’r cynllun ‘Cyfartaledd Gyrfa’. Roedd y cynllun Cyflog Terfynol dim ond ar gael i bobl a ddechreuodd ddysgu cyn 1 Medi 2015.

Ers 2022, mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny wedi cael eu symud i'r cynllun Cyfartaledd Gyrfa, sy'n cyfrifo'ch pensiwn yn seiliedig ar gyfran o'ch cyflog a enillir bob blwyddyn trwy gydol eich gyrfa. Roedd rhai athrawon hŷn yn cael aros ar y cynllun cyflog terfynol os byddent yn well eu byd arno.

Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn os ydych yn stopio dysgu neu’n cymryd seibiant?

Gall gymryd seibiant yn eich gyrfa addysgu effeithio ar faint o arian sy'n cronni yn eich TPS. Os ydych yn cael seibiant yn eich gyrfa, bydd eich pensiwn yn seiliedig ar y gwasanaeth pensiynadwy byddwch wedi'i gronni hyd at y seibiant. Ar ôl i chi ddychwelyd i addysgu, bydd eich gwasanaeth pensiynadwy yn parhau o'r man y gwnaethoch chi adael.

Fodd bynnag, efallai y bydd rhai rheolau ac ystyriaethau ychwanegol yn dibynnu ar hyd eich egwyl ac a yw'n absenoldeb rhiant cydnabyddedig neu'n gyfnod sabothol, neu'n absenoldeb di-dâl neu'n newid gyrfa.

Beth sy’n digwydd i’ch Pensiwn Athrawon pan fyddwch farw?

Mae'r TPS yn darparu budd-daliadau i'ch anwyliaid os byddwch farw. Gall y meini prawf a'r cymwyseddau budd-dal penodol amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os oeddech yn aelod gweithredol o'r cynllun ar adeg eich marwolaeth, efallai y bydd gan eich priod neu bartner sifil cofrestredig hawl i dderbyn pensiwn goroeswr. Mae'r pensiwn hwn fel arfer yn gyfran o'r pensiwn y byddech wedi'i dderbyn pe byddech wedi byw tan eich oedran pensiwn arferol.

Efallai y bydd dibynyddion eraill, fel eich plant neu bartneriaid cymwys oedd yn cyd-fyw gyda chi, yn gymwys i gael buddion goroeswyr. Mae’n hanfodol cadw eich enwebiad o fuddiolwyr yn gyfredol â Phensiynau Athrawon i sicrhau eu bod yn derbyn y budd-daliadau hyn os byddwch farw.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.