A yw eich yswiriant teithio’n cwmpasu streicio cwmniau hedfan?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
26 Gorffennaf 2023
Os byddwch yn hedfan yr haf hwn, efallai eich bod yn poeni y gallai streic cwmni hedfan neu faes awyr ddifetha eich gwyliau. Mae'n debyg eich bod yn meddwl bod yswiriant teithio yno i'ch diogelu yn y sefyllfaoedd hyn, ond mae rhai polisïau yn eithrio effaith streicio - felly mae'n bwysig eich bod yn eu gwirio. Dyma beth i chwilio amdano ar iawndal y gallwch ei hawlio os yw eich taith awyren yn cael ei gohirio neu ganslo.
Disgwylir streiciau cwmnïau hedfan a meysydd awyr ledled Ewrop
Oherwydd i gostau byw godi a thrafodaethau ynghylch amodau gwaith a chyflog, yn anffodus mae streicio wedi dod yn ddigwyddiad sefydlog yn 2023. Nid yw teithio yn eithriad, gydag undebau llafur yn rhybuddio y gallai gweithwyr diogelwch, tir a rheoli traffig awyr streicio o fewn meysydd awyr y DU ac Ewrop yr haf hwn.
Mae'n bwysig cofio nad oes neb eisiau streic i fynd yn ei blaen; mae gweithwyr a chwmnïau hedfan ill dau yn colli arian, ac mae teithwyr yn wynebu ciwiau ac oedi hirach a teithiau yn cael eu canslo. Fodd bynnag, er efallai na fydd bygythiad streic yn arwain at amhariad, mae'n werth edrych beth yw’ch hawliau.
Os caiff eich taith awyren ei gohirio neu ei ganslo, mae’n rhaid i’r cwmni hedfan helpu
Cyn belled eich bod naill ai'n hedfan allan o faes awyr yn y DU neu'r UE, yn dychwelyd i'r DU gyda cwmni hedfan o’r DU neu'r UE, neu'n cyrraedd maes awyr yr UE ar gwmni hedfan o’r DU, mae gennych yr hawliau canlynol:
Taith awyren arall neu ad-daliad llawn os caiff ei ganslo
Os caiff eich taith ei chanslo, mae'n rhaid i chi gael cynnig naill ai:
- Taith arall i'ch cyrchfan. Gallwch ddewis teithio cyn gynted â phosib – efallai y bydd y daith awyren gyda chwmni hedfan gwahanol os yw'n gallu mynd â chi yno yn gynt - neu ar ddyddiad yn ddiweddarach.
- Ad-daliad o'ch tocyn. Mae hyn yn cynnwys unrhyw rannau sydd heb eu defnyddio, felly pe bai'ch taith awyren allan yn cael ei ganslo, byddai eich tocyn dychwelyd hefyd yn cael ei ad-dalu.
Mae'r un rheolau yn berthnasol os ydych wedi archebu pecyn gwyliau, er bod yn rhaid i'ch asiant teithio hefyd gynnig ail-drefnu neu ad-dalu cost y pecyn. llawn
Bwyd a llety os yw eich taith yn cael ei gohirio
Os bydd eich taith awyren yn cael ei gohirio am o leiaf dwy awr am deithiau awyren byr, tair awr ar gyfer teithiau canolig (teithiau o tua thair i bum awr) neu bedair awr ar gyfer teithiau hir, rhaid i'ch cwmni hedfan ddarparu talebau ar gyfer bwyd a diod i chi.
Rhaid iddynt hefyd ddarparu llety a chludiant dychwelyd os bydd eich taith awyren yn cael ei gohirio i'r diwrnod canlynol.
Iawndal – er yn annhebygol ar gyfer streicio
fallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio iawndal o hyd at £520 os yw'ch taith awyren yn glanio fwy na thair awr yn hwyr. Fodd bynnag, byddai hyn ond yn berthnasol pe bai'r cwmni hedfan ar fai.
Felly dylai streicio gan eu staff eu hunain gyfri ond ni fyddai streiciau eraill fel gan staff diogelwch - ystyrir bod hyn yn 'amgylchiadau eithriadol'. Gweler Awdurdod Hedfan Sifil y DU (CAA)Yn agor mewn ffenestr newydd am fanylion llawn.
Nid oes gennych orchydd os byddwch yn methu eich taith awyren oherwydd ciwiau yn y man diogelwch
Yn bwysig, hyd yn oed os byddwch yn cyrraedd y maes awyr ar amser, nid oes rhaid i'ch cwmni hedfan helpu os ydych yn cael trafferthion mynd trwy’r ardal diogelwch ac yn methu eich taith. Fodd bynnag, os bydd hyn yn digwydd, mae bob amser yn werth cysylltu â nhw i weld beth y gallant ei gynnig.
Er mwyn helpu i atal hyn a rhoi taith ddi-straen i chi'ch hun, dylech gyrraedd y maes awyr mor gynnar â phosib a mynd yn syth trwy’r ardal diogelwch cyn gynted ag y gallwch – yn enwedig yn ystod cyfnod prysur yr haf.
Mae yswiriant teithio yn weithredol os effeithir ar rannau eraill o’ch gwyliau
Os yw problemau gyda'chtaith awyren yn effeithio ar weddill eich gwyliau - er enghraifft nad ydych yn gallu defnyddio eich ystafell mewn gwesty neu rydych yn colli diwrnod o'ch gwyliau - byddai angen i chi geisio adennill costau drwy yswiriant teithio.
Yn anffodus, mae lefel y gorchydd yn amrywio rhwng yswirwyr, felly y rheol allweddol yw 'gwirio'ch polisi' bob amser. Er na fyddwch yn gallu hawlio os cyhoeddwyd y streiciau cyn i chi archebu neu brynu'r polisi.
Chwiliwch am ‘orchydd methu ymadael’ – gallai fod yn ychwanegol
Wrth wirio polisïau yswiriant, y ffordd hawsaf yw dod o hyd i fersiwn ar-lein o'r geiriad polisi llawn. Yna gallwch chwilio am dermau allweddol fel 'strike' neu ‘industrial action' i weld a yw'n ymddangos. Os nad ydyw, gwnewch yn siwr eich bod yn darllen y rhestr o eithriadau’n llawn.
Hyd yn oed os nad yw polisi’nn cynnwys gorchudd streic yn safonol, efallai y byddwch yn gallu talu mwy i'w gynnwys. Gellir hefyd alw hyn yn orchydd tarfu ar deithio neu ddigwyddiadau annisgwyl, er na fyddai'n eich diogelu ar gyfer streiciau a oedd eisoes wedi'u cynllunio.
Am gymorth yswiriant teithio llawn, gweler yswiriant teithio wedi'i egluro a sut ddylai polisi da edrych.
Sut i wneud cais os byddwch yn cael eich effeithio gan streic
Bydd yswirwyr yn disgwyl i chi roi cynnig ar bob llwybr arall cyn gwneud cais. Er enghraifft, cysylltu â'r gwesty i ofyn am ad-daliad neu i symud eich trefniant i ddyddiad diweddarach.
Os na allwch gael eich arian yn ôl y ffordd honno, ceisiwch wneud cais yn erbyn eich yswiriant. Y rhan fwyaf o'r amser gallwch wneud hyn ar-lein neu drwy ffonio. Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu cadarnhad neu anfonebau o’r trefniadau, ynghyd â chopïau o gyfathrebu rydych eisoes wedi'u cael gyda'r cwmni hedfan neu werthwr arall. Osbyddant yn derbyn eich cais, cofiwch y bydd gennych swm sy’n weddill fel arfer wedi'i ddidynnu.
Os nad oes gennych yswiriant teithio – neu os nad yw'ch polisi yn cynnwys streiciau - a'ch bod wedi talu ar gerdyn debyd neu gredyd, gallech geisio cysylltu â'ch banc i ofyn am ad-daliad o dan reolau ad-daliad ac adran 75. Gweler Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio.