Cyflwyno’ch HelpwrArian – pwy ydym a sut gallwn eich helpu
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
30 Mehefin 2021
Rydym wedi lansio HelpwrArian yn ddiweddar ac roeddem eisiau dweud ychydig mwy wrthych am ein gwefan newydd: pam rydym wedi ei chreu, beth ydyw a sut y bydd yn eich helpu wrth symud ymlaen.
Beth yw HelpwrArian?
Mae HelpwrArian yma i'ch helpu i fagu mwy o hyder wrth reoli'ch arian fel y gallwch symud ymlaen â'ch bywyd. Mae yma i dorri trwy'r jargon a'r cymhlethdod, egluro beth sydd angen i chi ei wneud a sut y gallwch ei wneud. Mae yma i'ch rhoi mewn rheolaeth, â chymorth diduedd am ddim sy'n gyflym i'w ddarganfod, sy’n hawdd ei ddefnyddio, ac sy’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth.
Roeddem yn arfer bod yn dri sefydliad: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, a Pension Wise. Nawr rydym wedi cymryd ein holl arbenigedd a gwybodaeth ac wedi dod â hwy at ei gilydd yn un lle i ateb eich holl ymholiadau cysylltiedig ag arian a phensiynau’n hawdd.
I bwy mae HelpwrArian?
Unrhyw un sydd eisiau rheoli eu harian yn well ac nad yw'n gwybod ble i ddechrau. Rydym yma i'ch helpu i wella'ch lles ariannol ac i'ch helpu i arwain trwy unrhyw un o amgylchiadau a newidiadau anhawsaf bywyd.
Sut gall HelpwrArian fy helpu?
A ydych yn poeni am dalu'ch bil nesaf? Yn chwilio am ganllawiau pensiynau? Angen help i sefydlu cyllideb neu'n poeni am effaith COVID ar eich cyllid? Felly rydych wedi dod i'r lle iawn.
Rydym am i chi deimlo'n ddiogel ac â rheolaeth dros eich arian, a gallwn eich helpu i gyflawni hynny. Mae gennym ddigon o ganllawiau defnyddiol ar ein gwefan, sy'n ymwneud â dyled, morgeisi, benthyca, cynilion a mwy. Mae gennym hefyd offer a chyfrifianellau defnyddiol fel ein Cynlluniwr Cyllideb a’r Cyfrifiannell budd-daliadau.
Ni allaf ddod o hyd i'r hyn rwy'n edrych amdano – a allaf siarad â rhywun yn HelpwrArian?
Wrth gwrs. Mae gennym bobl hyfforddedig ac ymroddedig a fydd yn hapus i helpu. I gael arweiniad am arian diduedd am ddim, gallwch ein ffonio ar 0800 138 0555Yn agor mewn ffenestr newydd – i gael arweiniad pensiynau gallwch ffonio 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd. Mae hefyd ddigon o ffyrdd eraill i chi gysylltu: WhatsAppYn agor mewn ffenestr newydd, webchatYn agor mewn ffenestr newydd, neu trwy ddefnyddio ein ffurflen we ar-lein.
Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn Gymraeg, yna cysylltwch â ni 0800 138 0555Yn agor mewn ffenestr newydd.
A yw HelpwrArian am ddim?
Cewch fynediad i’n holl gynnwys a defnyddio ein gwasanaethau canllaw arian a phensiynau am ddim. Gallwn hefyd eich cyfeirio at y cannoedd o wasanaethau cynghori ar ddyledion diduedd a chyfrinachol am ddim gan ddefnyddio ein canfyddwr cyngor ar ddyledion.
A allaf ymddiried yn HelpwrArian?
Gallwch. Rydym yn gorff hyd braich a noddir gan Adran Gwaith a Phensiynau ac a ariennir gan ardollau ar y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn. Rydym hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EM ar faterion polisi sy'n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.
Beth am Pension Wise?
Bydd Pension Wise yn wasanaeth gan HelpwrArian. Yn ychwanegol at y canllawiau a geir ar wefan HelpwrArian, bydd y tîm Pension Wise yn gallu ateb eich holl ymholiadau yn ymwneud â phensiynau o hyd. Gallwch gysylltu â hwy ar 0800 138 3944 neu ymweld â'n gwefan.
Sut gallaf gael y wybodaeth ddiweddaraf am HelpwrArian?
Dewch o hyd i ni ar gyfryngau cymdeithasol a’n dilyn. Rydym ar Facebook (Opens in a new window), Twitter (Opens in a new window) a LinkedIn (Opens in a new window). Gwelwch hefyd rai fideos defnyddiol iawn ar ein sianel YouTube.
Ac os hoffech gael cefnogaeth gyfeillgar gan eraill a allai fod yn profi rhywbeth tebyg, beth am ymuno â'n grwpiau cymunedol defnyddiol ar Facebook:
MoneyHelper Debt Support Community
HelpwrArian yn y Gymraeg
Mae HelpwrArian ar gael yn y Gymraeg a Saesneg ac yn unol â Deddf Iaith Gymraeg 1993, rydym wedi ymrwymo i drin y ddwy iaith yn gyfartal.
Gobeithiwn y bydd ein fersiwn Gymraeg o HelpwrArian yn ddefnyddiol a hoffem wahodd pawb sydd â diddordeb i ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymraeg fel y soniwyd uchod i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gallwch ddod o hyd i ni ar Twitter (Opens in a new window) a Facebook (Opens in a new window)