Cofrestru i bleidleisio a phedair ffordd arall o helpu eich statws credyd

Cyhoeddwyd ar:

Os hoffech chi fanteisio ar eich hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol, mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich enw ar y gofrestr etholiadol.

Ond oeddech chi'n gwybod bod cael eich cynnwys ar y rhestr swyddogol o bobl sy'n cael pleidleisio hefyd yn helpu i gryfhau eich statws credyd?

Bob tro y byddwch yn gwneud cais am gredyd fel morgais, yswiriant neu gerdyn credyd, mae'r darparwr yn gwirio'ch cofnod credyd. Os nad yw'ch sgôr o safon mae’n bosibl y byddwch yn cael eich gwrthod, sydd yn ei dro yn gwneud eich sgôr yn waeth byth.

Ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wella'ch sgôr. Dyma bump i'ch rhoi ar ben ffordd.

1. Cofrestrwch i bleidleisio

Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, mae'n ei gwneud hi'n anodd i fenthycwyr wirio pwy ydych chi. Mae mynd ar y gofrestr etholiadol yn helpu yma. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgofrestru os ydych yn symud tŷ.

2. Stopiwch wneud cais am gredyd

Os ydych chi'n cael eich gwrthod dro ar ôl tro am gredyd, stopiwch wneud cais! Eich opsiwn gorau yw cael adroddiad sefydlog oherwydd bob tro y cewch eich gwrthod, mae'n niweidio'ch sgôr.

3. Gwiriwch am gamgymeriadau

Gallwch gael copïau o'ch adroddiad gan bob un o'r tair prif asiantaeth gredyd am ffi benodol, er bod ffyrdd i'w gwirio am ddim hefyd. Mae'n werth edrych arnynt i weld a oes unrhyw wallau fel hen gyfeiriadau neu gais twyllodrus am gredyd yn eich enw.

4. Caewch gredyd nad ydych chi'n ei ddefnyddio

Mae benthycwyr yn edrych i weld beth sydd ar gael. Os oes cardiau nad ydych – ac na fyddwch – yn eu defnyddio, caewch y credyd. Nid yw hynny'n golygu torri'r cerdyn yn unig, er y dylech chi wneud hynny hefyd. Ffoniwch y darparwr a dywedwch wrtho yr hoffech chi ganslo'r cerdyn.

5. Talu ar amser

O filiau cardiau credyd i forgeisi, mae gwneud taliadau ar amser yn ffordd o osgoi marciau du. Mae'n dweud wrth y benthyciwr eich bod yn fenthyciwr diogel a synhwyrol, ac mae hynny'n eich gwneud yn llai o risg.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.