Ymunwch â'n grŵp costau byw Facebook
Rydym wedi sefydlu grŵp Facebook Costau BywYn agor mewn ffenestr newydd fel lle i rannu syniadau ac ysbrydoliaeth am sut i dalu'r biliau a chael help.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
13 Rhagfyr 2023
Mae'r llywodraeth yn gwneud taliadau i rai cartrefi i helpu gyda'r prisiau ynni uchel a'r costau byw hanfodol. Mae'n werth darganfod a ydych yn gymwys ar gyfer y Taliadau Costau Byw hyn a'r hyn y gallech ei gael.
Er mwyn eich helpu i fforddio biliau bwyd a chadw'r goleuadau ymlaen wrth i brisiau barhau i godi, mae'r llywodraeth yn gwneud taliadau uniongyrchol i filiynau o gyfrifon pobl.
Os ydych ar incwm isel ac ar fudd-daliadau prawf modd, rhoddir yr arian yn awtomatig yn eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Bydd rhai pobl ar fudd-daliadau prawf modd yn derbyn taliadau hyd at £900, a delir mewn tri rhandaliad yn y gwanwyn, yr hydref a gwanwyn 2024.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer:
Efallai y bydd gennych hawl i hyd at dri Thaliad Costau Byw os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau neu'r credydau treth canlynol:
Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â hawl i gael y taliad yn cael:
Os ydych yn cael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith, byddwch yn derbyn Taliad Costau Byw am Gredyd Treth Plant yn unig, a fydd yn cael ei dalu gan CThEF.
Os ydych yn cael credydau treth gan CThEF a budd-dal incwm isel gan DWP, ni allwch gael Taliad Costau Byw gan CThEF a'r DWP. Fel arfer byddwch yn cael eich talu gan DWP yn unig.
Os ydych yn cael trafferth gyda chostau byw ac ar incwm isel, mae'n werth gwirio nad ydych yn colli allan ar unrhyw fudd-daliadau sy'n gymwys ar gyfer Taliadau Costau Byw gan y gellir eu hôl-ddyddio.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i gyfrifo'n gyflym beth allech chi ei hawlio.