Gwybodaeth allweddol a chyfnodau ailfeddwl

Ydych chi’n ystyried buddsoddi? Mae rhai penderfyniadau mawr i’w gwneud - ond, fel defnyddiwr, mae gennych eich hawliau. Mae’n rhaid i gwmni sy’n gwerthu ISAs, cronfeydd buddsoddi, polisïau bywyd a phensiwn a chynhyrchion buddsoddi a chynilo eraill roi ffeithiau allweddol neu ddogfen gwybodaeth i fuddsoddwyr i chi a chyfle i chi newid eich meddwl.

Gwybodaeth am eich cynnyrch

Pan fydd cwmni yn gwerthu neu’n argymell cynnyrch buddsoddi, fel:

  • cronfa
  • pensiwn
  • polisi yswiriant bywyd; neu
  • cynhyrchion cynilo penodol fel ISAs Arian Parod

Mae'n rhaid iddynt roi gwybodaeth i chi mewn modd sy’n glir a'n hawdd ei ddeall.

Mae nhw’n gwneud hyn drwy ddogfen Ffeithiau Allweddol – a elwir yn aml yn ddogfen Nodweddion Allweddol neu’n ddogfen Gwybodaeth Allweddol i Fuddsoddwyr (KIID) neu ddogfen Gwybodaeth Allweddol (KID).

Mae'n rhoi trosolwg o’r cynnyrch a dylai fod yn hawdd ei ddeall.

Sicrhewch fod gennych y wybodaeth hon bob amser a’ch bod wedi bwrw golwg drosti cyn i chi benderfynu buddsoddi.

Beth sydd mewn dogfen ffeithiau allweddol?

Nid telerau ac amodau llawn y buddsoddiad yw dogfen Ffeithiau Allweddol.

Yn hytrach, mae’r ddogfen wedi’i lunio i roi’r brif wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad hyddysg, er gall fod angen i chi gyfeirio hefyd at y telerau ac amodau llawn.

Pan fyddwch chi'n prynu cronfa fuddsoddi, byddwch chi'n cael cynnig naill ai Dogfen Gwybodaeth Allweddol i Fuddsoddwyr (KIID) neu Ddogfen Wybodaeth Allweddol (KID), sy'n dweud wrthych chi beth sydd angen i chi ei wybod am y gronfa a sut mae'n gweithio

Ar gyfer cynnyrch buddsoddi bydd y ddogfen yn cwmpasu pethau fel:

  • sut mae’r cynnyrch yn gweithio
  • beth rydych yn ymrwymo iddo
  • y risgiau a’r manteision posibl

Gall dogfen ar wahân a elwir yn nodweddion allweddol enghreifftiol gael ei darparu hefyd a fydd yn dangos:

  • sut allai’r cynnyrch berfformio (gan gymryd rhai ystyriaethau’n ganiataol) er yn annhebygol o ddangos sut allai’r cynnyrch hefyd golli’i werth.
  • gwybodaeth ar rai o’r ffioedd y byddwch yn eu talu, yn cynnwys cost unrhyw gomisiynau a sut allai’r rhain effeithio ar yr arian a gewch yn ôl. Nodwch y gallai rhai ffioedd fel costau trafodion gael eu hepgor felly ni fydd hyn yn rhoi rhestr gyflawn o’r ffioedd a godir.

Mae angen i’r cwmni ddweud wrthych am y canlynol hefyd:

  • y broses os hoffech wneud cwyn
  • eich hawl i ganslo’r cynnyrch, ac a oes unrhyw ffioedd ar gyfer gwneud hynny
  • iawndal a allai fod ar gael o’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol os na all y cwmni gyflawni ei rwymedigaethau o ran y cynnyrch (os yw’n berthnasol).

Defnyddio gwybodaeth allweddol

Dylech ddefnyddio dogfennau Gwybodaeth Allweddol i’ch helpu i gymharu gwahanol gynhyrchion.

Er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod beth rydych yn ymrwymo iddo pan fyddwch yn penderfynu buddsoddi, dylech bob amser:

  • cadarnhau’r ffioedd cysylltiedig;
  • cadw copi o’r dogfennau gwybodaeth allweddol
  • sicrhau eich bod yn gwybod a ydych yn delio â chwmni sydd wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac a oes gennych yr hawl i gyflwyno unrhyw gŵyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Cyfle i ailystyried

Ni waeth pa mor ofalus y byddwch yn gwneud eich gwaith ymchwil, mae bob amser yn bosibl gwneud camgymeriad a dewis buddsoddiad nad ydych yn gwbl fodlon ag ef - yn enwedig os bydd cyffro buddsoddi yn mynd yn drech na chi.

Unwaith y byddwch wedi cael cyfle i feddwl, efallai y byddwch yn gweld pethau’n wahanol, felly mae’n rhaid i gwmnïau ariannol roi cyfle i chi ailystyried.

Beth yw cyfnod ailystyried?

Rhaid i gyfnodau i ail-feddwl bara am 14 neu 30 diwrnod calendr o leiaf, gan ddibynnu ar y cynnyrch. Efallai y bydd cwmnïau yn cynnig cyfnodau i ail-feddwl hirach, er rhaid iddynt ddatgan unrhyw amodau ychwanegol perthnasol.

Fel arfer, ni fydd rhaid i chi dalu cosb am ganslo, ond efallai y bydd raid i chi wneud hynny gyda rhai cynnyrch, fel polisïau neu gronfeydd yswiriant bywyd, a dylid egluro hynny wrth iddynt egluro’ch hawl i ganslo.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu hefyd am unrhyw gostau y bydd y cwmni wedi mynd iddynt.

Er enghraifft, os gwnaeth eich buddsoddiad golli arian yn ystod yr ychydig ddiwrnodau cyn i chi ganslo, efallai na chewch y swm llawn y gwnaethoch ei fuddsoddi yn ôl.

Sut i ddefnyddio eich cyfnod ailfeddwl?

Dylech ddefnyddio eich cyfnod ailfeddwl fel cyfle ychwanegol i sicrhau eich bod yn gyfforddus â’ch dewis.

Os ydych yn ailfeddwl, peidiwch ag oedi.

Mae’n bosibl mai dim ond pythefnos o gyfnod ailfeddwl a roddir a gall y cyfnod hwn hedfan.

Cysylltwch â’r darparwr ar unwaith. Bydd y ddogfen Ffeithiau Allweddol yn nodi sut i arddel eich hawl i ganslo (fel arfer bydd yn rhaid i chi ganslo’n ysgrifenedig). Mae’n bwysig cadw cofnod o ba bryd yr anfonwch eich hysbysiad gan ei fod yn ddilys cyn belled y caiff ei anfon cyn i’r cyfnod canslo ddod i ben.

Peidiwch â bod ofn canslo. Dyma eich hawl fel defnyddiwr 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.