Cael cyngor dyled am ddim - Dewch o hyd i ymgynghorydd yn eich ardal chi
Gall pryderon arian deimlo'n llethol iawn. Os ydych chi'n cael trafferth rheoli eich biliau - neu hyd yn oed ar ei hôl hi ar rai taliadau - mae help ar gael. Gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim gan ymgynghorydd dyled hyfforddedig a phrofiadol.
Bydd ymgynghorwyr dyled yn gwrando, byth yn barnu ac yn dangos i chi sut i gymryd y camau nesaf.
Bydd y teclyn Lleolwr Cyngor ar Ddyledion yn:
- Dangos ymgynghorwyr dyled yn eich ardal chi.
- Hidlo'r opsiynau yn dibynnu ar a yw'n well gennych gael cyngor ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
- Dweud wrthych sut i gysylltu â ni.
- Dangos teclynnau ar-lein i chi i gael help am ddim.
Dod o hyd i ymgynghorydd dyled
Gall ymgynghorydd dyled:
- wirio i weld a ydych chi'n colli allan ar unrhyw fudd-daliadau neu hawliadau y gallech eu hawlio
- eich helpu i ddelio â'ch dyled trwy ddangos opsiynau nad ydych efallai yn gwybod amdanynt
- cynnig awgrymiadau i chi, i'ch helpu i reoli eich arian
- cadw popeth rydych chi'n ei ddweud wrthyn nhw'n gyfrinachol.