Beth os ydw i’n anhapus gyda’r gofal a gefais?

Eich hawliau i gael gofal o safon dderbyniol

Mae cartrefi gofal a gofal yn y cartref yn cael eu rheoleiddio:

Maent oll yn gyfrifol am sicrhau bod y gofal rydych yn ei gael, p’un ai’n cael ei ddarparu adref neu mewn cartref gofal, yn cwrdd â safonau sylfaenol cenedlaethol.

Nid dim ond canllawiau yw’r safonau hyn – mae gan ddarparwyr oblygiadau cyfreithiol i sicrhau eich bod yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn cael eich trin â pharch.

Ac os bydd pethau’n mynd o chwith, mae gennych hawl cyfreithiol i gwyno.

Rôl comisiynau ansawdd gofal y DU

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cyfrifoldeb y cyrff rheoleiddio yw gwirio bod pob darparwr gofal cofrestredig yn cwrdd â safonau ansawdd a diogelwch pwysig.

Ond nid yw eu cyfrifoldebau yn cynnwys ymdrin â chwynion unigol ynglŷn â gwasanaethau’r darparwyr.

Serch hynny, bydd y Care Inspectorate yn yr Alban yn ymchwilio i gwynion yn erbyn darparwyr, ac mae ganddo’r pŵer i orfodi argymhellion neu hyd yn oed ddirymu trwydded gweithredu’r darparwr.

Sut i wneud cwyn

Dechrau arni

Gallwch ddatrys nifer fawr o broblemau trwy gael sgwrs anffurfiol gydag aelod o staff neu reolwr y cartref gofal neu’r gwasanaeth.

Ond os na fydd hynny’n gweithio, neu os mai’r aelod o staff neu’r rheolwr yw’r broblem, bydd angen i chi wneud cwyn ffurfiol.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob darparwr iechyd a gwasanaeth gofal cymdeithasol cofrestredig gael trefn gwyno sydd ar gael i chi ei gweld.

Dylai hyn fod wedi ei esbonio i chi pan symudoch i mewn neu pan gychwynnoch ddefnyddio’r gwasanaeth.

Gofynnwch am gopi o bolisi cwynion y darparwr fel y byddwch yn gwybod beth i’w wneud.

Cwyno i’ch cyngor lleol

Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda’r ateb a gewch gan eich darparwr gofal, a bod y cyngor lleol yn talu’n llwyr neu yn rhannol am eich gofal, fe ddylech gwyno trwy eu hadran gwasanaethau cymdeithasol.

Byddant yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn gweithredu fel bo’n briodol. Os nad ydych yn hapus â’r canlyniad, gallwch fynd â’r cwyn i’r Ombwdsmon.

Cwyno os ydych yn ariannu eich gofal eich hun

Os ydych yn ariannu ac yn trefnu eich gofal eich hun fe ddylech gyflwyno eich cwyn yn uniongyrchol i’r Ombwdsman Llywodraeth Leol ac/neu Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd. Ond dim ond ar ôl i’ch darparwr gofal gael cyfle teg i ddatrys y materion.

Cwynion i’r Ombwdsmon

Yn Lloegr, yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf petaech yn teimlo y dylid mynd â’r gŵyn am ofal preswyl neu nyrsio gam ymhellach na’ch cyngor lleol.

Darganfyddwch fwy yn wefan Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol

Dim ond cwynion am y GIG y gall Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd eu hystyried.

Yn yr Alban, cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Yr Alban

Yng Nghymru, cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch ag Ombwdsmon Gogledd Iwerddon

Gweithrediadau cyfreithiol

Os ydych yn meddwl bod eich achos yn cynnwys esgeulustod troseddol neu dwyll, dylech siarad â chyfreithiwr.

Ac os ydych yn credu bod gweithredoedd troseddol difrifol yn digwydd, cysylltwch â'r heddlu.  Er enghraifft,  camdrin corfforol, lladrata neu fathau eraill o weithgaredd troseddol.

A ddylwn barhau i dalu am gynnyrch gofal neu’r gwasanaeth os wyf yn anhapus amdanynt?

Peidiwch ag atal talu am unrhyw gynnyrch gofal neu wasanaeth heb yn gyntaf gael gyngor proffesiynol ynglŷn â’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol - os mai nhw sy’n rhedeg y cartref gofal.

Yng Nghymru a Lloegr, darganfyddwch eich cyngor lleol ar  wefan GOV.UK

Yn yr Alban, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan mygov.scot

Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan nidirect

Neu mynnwch gyngor gan eich Cyngor ar Bopeth lleol.

Darganfyddwch eich cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth

Cael cymorth a chyngor i wneud cwyn

Mae’n syniad da gofyn i ffrind neu berthynas eich helpu gyda’r gŵyn.  Yn enwedig os yw’n ymwneud â chyfarfod wyneb yn wyneb gyda rheolwr y cartref gofal neu’r gwasanaeth rydych yn cwyno amdano.

Gallwch hefyd gael cyngor gan:

Cwyno am ofal iechyd GIG

Mae gennych hawl i gwyno am unrhyw agwedd ar ofal, triniaeth neu wasanaeth y GIG - mae hyn wedi’i ysgrifennu yng Nghyfansoddiad y GIG.

Os ydych yn anfodlon gyda gwasanaeth GIG, fel arfer mae’n syniad da trafod eich pryderon yn gynnar gyda’r darparwr gwasanaeth. Efallai y gallant ddatrys y mater yn gyflym.

Os nad ydych yn fodlon â’u hymateb gallwch gwyno. Darganfyddwch sut i gwyno ble rydych yn byw:

Yn aml mae’n ddefnyddiol siarad â rhywun sy’n deall y broses gwynion yn gyntaf, i gael rhywfaint o arweiniad a chymorth. Gallwch weld Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) yn y mwyafrif o ysbytai.

Cyrff rheoleiddio

Mae’r GIG yn cael ei reoleiddio:

Cwyno am gynnyrch gofal

Pan brynwch rhywbeth, mae’r gyfraith yn rhoi rhai hawliau penodol i chi sy’n eich diogelu petai’r eitem wedi torri neu ddim yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys offer neu gymhorthion i helpu gyda symudedd neu dasgau dyddiol.

Os mai’r awfurdod lleol  drefnodd ac a brynodd y nwydd gofal ar eich cyfer - gadewch iddynt wybod ac fe ddylent gael un arall i chi.

Os mai chi brynodd y cynnyrch gofal gan manwerthwr, gofynnwch iddynt am eich arian yn ôl neu un arall yn ei le.

Os nad ydych yn fodlon gyda’r canlyniad, cysylltwch â’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth leol am gymorth i fynd â’r mater ymhellach.

Darganfyddwch eich cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth

Os wnaethoch dalu am y cynnyrch neu’r gwasanaeth gyda cherdyn credyd, a bod y manwerthwr yn bod yn anodd, cysylltwch â’ch darparwr cerdyn i weld sut allan nhw helpu.

Cwyno am gynnyrch gofal ariannol

1. Os ydych wedi prynu cynnyrch ariannol i dalu am eich gofal a’ch bod yn anfodlon gyda’r gwasanaeth, gofynnwch am gopi o drefn gwyno’r cwmni. Yna nodwch gŵyn yn uniongyrchol gyda nhw. Mae cwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn gorfod cael un yn ôl y gyfraith.

Darganfyddwch fwy ar wefan FCAYn agor mewn ffenestr newydd

2. Os nad ydych yn fodlon gyda’r canlyniad, cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i wneud cwyn.

3. Os ydych yn dal i fod yn anfoldon ar ôl i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ystyried eich cwyn, gallwch fynd â’r mater i’r llys. Serch hynny, cofiwch y bydd y llys gan amlaf yn debygol o gytuno gyda phenderfyniad Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, a gall fod yn broses hir a chostus.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.