Pwy sy’n cael eich pensiwn pan fyddwch yn marw?

Cyhoeddwyd ar:

Ydych chi'n gwybod beth fydd yn digwydd i'ch pensiwn pan fyddwch chi'n marw? Os nad ydych chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun – cafodd llai na hanner y bobl wnaeth MaPS holi yr ateb yn iawn. 

Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch yn marw

Mae dros 26 miliwn o gynilwyr pensiwn yn y DUYn agor mewn ffenestr newydd yn ansicr beth fyddai'n digwydd i'w pensiwn neu pwy fyddai'n ei dderbyn. Mae llawer o bobl yn credu y bydd eu pensiynau'n mynd yn awtomatig i'w perthynas agosaf, neu i'w gweithle neu'r llywodraeth.

Pan fyddwch yn marw, bydd eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (sy'n cynnwys llawer o bensiynau preifat a gweithle) yn mynd i'ch buddiolwr enwebedig.

Mae gan gynlluniau budd-daliadau wedi’u diffinio, sydd fel arfer yn gyfyngedig i gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus neu weithle hŷn, reolau gwahanol. Gallwch ofyn i'ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn am reolau'r cynllun. Dysgwch fwy yn adran budd-daliadau wedi’u diffinio ein canllaw Beth fydd yn digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch yn marw?

Dewis buddiolwr enwebedig

Eich buddiolwr enwebedig yw'r person rydych chi'n dewis i dderbyn eich arian pensiwn pan fyddwch chi'n marw.

Wrth ddewis buddiolwr, meddyliwch am bwy yr hoffech allu darparu ar ei gyfer, hyd yn oed ar ôl eich marwolaeth. Gallwch enwebu unrhyw un, ond mae pobl yn aml yn dewis eu partner neu aelod agos o'r teulu neu ffrind.

Mae rhai pobl yn gadael eu pensiwn i elusen, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch darparwr pensiwn am hyn yn gyntaf.

Gall etifeddu pensiwn effeithio ar hawl budd-daliadau rhywun, er enghraifft, os ydynt yn derbyn Credyd Cynhwysol. Gall cynghorydd ariannol rheoledig esbonio eich opsiynau ar gyfer trosglwyddo pensiwn fel nad yw'n effeithio ar fudd-daliadau prawf modd yr unigolyn sy'n ei etifeddu. Dewch o hyd i ymgynghorydd ariannol rheoledig gan ddefnyddio ein cyfeiriadur.

Sut i enwebu buddiolwr

Pan fyddwch yn cofrestru ar gynllun pensiwn, neu os ydych wedi cofrestru yn awtomatig gan eich cyflogwr, bydd angen i chi lenwi ffurflen Mynegiant Dymuniad neu Enwebiad sy'n enwi eich buddiolwr. Mae'n bwysig diweddaru’r ddogfen hon os bydd pethau'n newid.

Hyd yn oed os hoffech gadw'r un buddiolwr, gwnewch yn siŵr bod eu manylion cyswllt yn gywir fel y gall eich darparwr pensiwn ddod o hyd iddynt. Llenwch y ffurflen yn ofalus - gall camsillafu enw person neu ddefnyddio enw heblaw ei enw cyfreithiol achosi problemau.

Gallwch enwebu gwahanol fuddiolwyr ar gyfer gwahanol gronfeydd pensiwn os oes gennych fwy nag un.

Adolygwch eich dewisiadau ar ôl digwyddiadau bywyd mawr, fel priodas, ysgariad, genedigaethau a marwolaethau.

Cadwch hen gronfeydd pensiwn mewn cof

Efallai eich bod wedi cadw golwg ar eich holl hen gronfeydd pensiwn neu beidio, ond mae'n bwysig eich bod yn hawlio'ch holl bensiynau – eich arian chi ydyw, wedi'r cyfan. Os ydych wedi cofrestru mewn gwahanol gynlluniau neu wedi newid swyddi yn aml, mae'n bwysig darganfod pwy yw eich buddiolwr ar gyfer pob cynllun pensiwn.

Efallai na fydd gan gronfeydd pensiwn o flynyddoedd neu ddegawdau yn ôl y buddiolwr cywir wedi'i restru. Efallai mai'r buddiolwr a restrwyd gennych yn wreiddiol oedd aelod hŷn o'r teulu sydd wedi marw ers hynny neu a allai fod yn rhywun nad yw'n rhan fawr o'ch bywyd mwyach. Neu efallai bod sefyllfa iechyd neu ariannol eich anwyliaid wedi newid, a'ch bod wedi penderfynu y byddai rhywun arall yn elwa mwy o'ch pensiwn.

Os ydych wedi symud, efallai na fyddwch yn derbyn eich datganiadau blynyddol ac efallai y bydd angen help arnoch i ddod o hyd i fanylion eich cynllun pensiwn. Gallwch olrhain eich holl hen gronfeydd pensiwn gan ddefnyddio ein canllaw  Dod o hyd i'm pensiwn coll: olrhain a dod o hyd i bensiynau coll.

Os nad ydych yn gwybod pwy sydd ar fin derbyn eich pensiwn, darganfyddwch. Os na, mae perygl o golli'ch arian haeddiannol i rywun nad yw bellach yn eich bywyd.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.