Mae gan fy mab obsesiwn â gêm fideo ar-lein ac yn gofyn i mi dalu am uwchraddiadau o hyd?
Wedi'i ddiweddaru diwethaf:
03 Tachwedd 2022
Gwnaethom ofyn i Ricky, o flog arian Skint Dad i ateb y gwestiwn canlynol fel rhan o Wythnos Siarad Arian.
Blog arian: Skint DadYn agor mewn ffenestr newydd
Cwestiwn
Annwyl Skint Dad,
Mae fy mab yn gaeth i'w Xbox, ac i un gêm yn benodol. Pan ofynnodd a allai ei lawrlwytho, dywedais y gallai oherwydd ei fod am ddim, ac roedd ei HOLL ffrindiau yn yr ysgol yn ei chwarae, felly nid oeddwn am iddo gael ei adael allan.
Beth na wnes i sylweddoli, yw bod y gêm yn eich annog i dalu arian go iawn i gael uwchraddiadau ac i brynu eitemau. Mae fy mab yn gofyn am arian am rywbeth am y gêm hwn bob wythnos, bob dydd weithiau. Mae rhieni ei ffrindiau’n rhoi’r arian iddynt, ac os nad yw e’n gwneud yr un peth, nid oes modd iddo chwarae yn yr un ffordd.
Ni allaf ei fforddio bob tro ac rwy’n poeni nad yw e’n deall bod prynu pethau yn y gêm yn costio arian yn y byd go iawn. Mae'n cynhyrfu cymaint pan ddywedaf na all ac mae’n fy mhoeni am y peth yn gyson. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn peidio ag ildio.
Rwy’n poeni bod rhoi’r arian iddo trwy’r amser yn dysgu gwers bywyd gwael iddo. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud wrth rhieni ei ffrindiau beth i wneud, ond mae’n rhoi pwysau arnaf.
Ateb
Annwyl Rhiant Gemwr,
Fel gemwr awchus fy hun, ond hefyd nawr yn tad tlawd, gallaf weld y ddwy ochr i hwn.
Tra bod eich mab eisiau cael hwyl, rydych chi'n ysu i ofalu am arian y cartref. Nid oedd gan y gemau a chwaraeais pan oeddwn yn iau yr opsiwn i lawrlwytho pethau ar unwaith o'r rhyngrwyd ac mae hynny'n cael ei ystyried yn ffordd arferol o wario arian heddiw.
Nawr rwy'n gwybod bod amseroedd yn newid, ond y flaenoriaeth yma yw gwneud yn siŵr nad ydych yn mynd i adael eich hun heb ddimai. Rwy’n siŵr y byddai’n well gan eich mab pe baech yn gallu fforddio talu’r bil trydan i gadw ei Xbox ymlaen, na chael y pryniannau gêm ad hoc hyn.
Cyllidebu
Yn gyntaf oll, mae angen i chi edrych ar eich cyllideb a gweld beth gallwch ei fforddio.
Os nad yw talu arian poced dros ben yn eich gadael â digon o arian parod ar gyfer gweddill y cartref, mae angen i chi addasu’r hyn yr ydych yn ei wneud. Gweithiwch allan beth sy’n dod i mewn (gan gynnwys unrhyw gyflogau a budd-daliadau) ac yna didynnwch yr holl filiau, yn ogystal â gwariant arall y mae angen i chi ei dalu, i weld beth sydd ar ôl.
Unwaith y byddwch wedi cyfrifo’ch cyllideb, byddwch yn gwybod beth gallwch fforddio ei roi i’ch mab trwy gydol y mis. Yna, yn lle rhoi'r arian iddo mewn dribs a drabs, rhowch gronfa untro iddo.
Cadw at lwfans
Bydd yn anodd rhoi arian parod iddo os yw'n bwriadu gwario arian ar-lein, ond gallech geisio cyfnewid arian parod ei arian poced am gerdyn rhodd ar gyfer y consol.
Rhowch wybod iddo eich bod yn rhoi lwfans iddo am y mis cyfan a bod angen iddo reoli sut mae’n cael ei wario. Os daw i ben yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf, yna ni fydd yn gallu prynu unrhyw beth arall.
Mae'n ffordd dda iddo ddysgu pa mor gyflym y gall arian gael ei wario a deall sut i gyfyngu ar ei bryniannau. Os ydych yn bwriadu prynu cardiau rhodd, yna gallwch geisio arbed arian ar unwaith.
Mae nifer o werthwyr marchnad sy'n gwerthu cardiau rhodd rhatach, am bris gostyngol. Bydd prynu cerdyn rhodd rhatach yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael arbediad ar unwaith ar faint rydych yn ei wario.
Ffyrdd i arbed/ennill
Fel ffordd o ennill rhywfaint o gredyd lawrlwytho digidol ychwanegol ar gyfer y consol, mae ychydig o apiau sy'n eich galluogi i ennill arian am gwblhau tasgau. Mae hyn trwy wneud pethau fel lawrlwytho a phrofi apiau eraill. Nawr, nid ydych yn mynd i wneud arian cyflym gyda hyn, ond dros amser gallwch gael rhai cardiau rhodd am ddim, a phob dim yn helpu.
Ar gyfer rhai gemau ar-lein, gallwch hefyd ennill credyd yn y gêm. Mae rhai gemau lle gallwch gyflawni tasgau a chael eich gwobrwyo, yn ogystal â gallu ennill credyd yn y gêm trwy gwblhau tasgau dyddiol ac wythnosol.
Er na fydd eich mab yn gallu gwneud llawer o arian yn ôl, bydd yn rhoi cyfle iddo gynilo ychydig a sylweddoli pa mor anodd yw hi i ennill arian.
Yn dibynnu ar oedran eich mab, gall swydd ran-amser y tu allan i oriau’r ysgol hefyd fod yn opsiwn fel y gall ddechrau ennill ei arian ei hun. Gall rownd bapur, rhai oriau mewn siop leol, neu hyd yn oed gwarchod i gymydog, roi'r gallu i'ch mab gael rhywfaint o'i arian gwario ei hun.
Gwneud ychydig o ymchwil
Rhywbeth arall i roi cynnig arno yw edrych i ddysgu am y gêm eich hun. Mae gan rai gemau ar-lein bryniannau diangen, fel crwyn, nad ydynt yn gwneud dim, felly nid ydynt yn werth gwario'r arian arnynt.
Mae’n werth gwneud ychydig o ymchwil am y gêm i weld pa eitemau sydd â gwerth gwell a beth sydd hebddo. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi gysylltu â'ch mab dros ei hobi a thrafod popeth sy'n ymwneud â chwarae.
Yn y bôn, mae’n rhaid i chi sicrhau y gallwch wir fforddio rhoi arian iddo mor rheolaidd. nid yw’r ffaith ei fod yn dweud wrthych bod PAWB o’i ffrindiau yn chwarae’r gêm yn golygu’n sicr bod POB rhiant arall yn prynu uwchraddiadau’n rheolaidd, er y gallai fod yn wir teimlo fel hyn.
Cymerwch ychydig o amser a siaradwch â'ch mab am sut mae cyllid yn cael ei reoli, fel y gall geisio gweld pethau o'ch ochr chi. Ie, efallai bydd yn codi gwrychyn ychydig na chaiff ei ffordd, ond mae'n wers dda iddo ei dysgu.