Cais unigolyn am wybodaeth

Eich hawl i Gais Unigolyn am Wybodaeth

Mae gennych hawl i gael gwybod a yw'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn dal unrhyw wybodaeth amdanoch ac os felly, i gael copi o'r wybodaeth honno. Gelwir hyn yn ‘hawl unigolyn am wybodaeth’. Mae'r hawliau hyn yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Sylwch fod gwybodaeth yn ddarostyngedig i bolisi cadw data Gwasanaeth Arian a Phensiynau a dim ond os ydym yn dal i gadw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi ac nad oes eithriadau yn berthnasol y gellir ei darparu.

Mae ceisiadau cais unigolyn am wybdoaeth am ddim; fodd bynnag, rydym yn cadw'r hawl i godi ffi resymol os yw cais yn arbennig o ormodol neu ailadroddus.

I gael mwy o wybodaeth am yr hawl i gael cais unigolyn am wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Gwneud cais unigolyn am wybodaeth i Wasanaeth Arian a Phensiynau

I gael mynedidad at y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data (DPO) (Opens in a new window) (PDF/A, 182KB) yn uniongyrchol trwy e-bost, neu cwblhewch ffurflen Cais Unigolyn am Wybodaeth (SAR) a’i ddychwelyd atom.

E-bostiwch dpo@maps.org.uk neu drwy post i: Data Protection Officer, The Money and Pensions Service, Holborn Centre, 120 Holborn, London, EC1N 2TD.

Os byddwch yn gwneud cais dilys am gais unigolyn am wybodaeth byddwn yn:

  • dweud wrthych a ydym yn cadw unrhyw ddata arnoch; a
  • rhoi copi o'r data hwn i chi.

Byddwn yn anelu i gyflawni eich cais o fewn mis i dderbyn y canlynol:

  • cais dilys unigolyn am wybodaeth;

  • digon o ddogfennaeth i wirio'ch hunaniaeth.

Gwybodaeth sydd gennym

Mae gwybodaeth a allai fod gennym yn debygol o fod yn ddibynnol ar p'un a ydych;

  • wedi cysylltu â Gwasanaeth Arian a Phensiynau trwy ein gwefan a'n gwasanaeth ffôn; a/neu
  • wedi derbyn Cyngor Dyled trwy wasanaeth a ariennir gan Wasanaeth Arian a Phensiynau

Yn ogystal â chopi o'ch data, byddwch hefyd yn derbyn arweiniad gan Wasanaeth Arian a Phensiynau, yn eich cynghori beth i'w wneud os credwch fod unrhyw wybodaeth yn anghywir.

Dilysu eich hunaniaeth

Cyn y gallwn ryddhau unrhyw ran o'ch data, mae rhaid i ni fod yn sicr o'ch hunaniaeth.

Mae rhaid i chi anfon o leiaf dau ddarn gwreiddiol o ddogfennaeth hunaniaeth swyddogol â'ch cais sydd rhyngddynt yn darparu digon o wybodaeth i brofi'ch enw, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad cyfredol a'ch llofnod.

Enghreifftiau o hyn yw:

Dogfen 1

  • trwydded yrru â cherdyn llun ddilys gyfredol *

  • Tystysgrif geni/mabwysiadu

  • pasbort.

* nodwch nad ydym yn gallu derbyn trwyddedau gyrru cymheiriaid papur a gyhoeddwyd ar ôl 1998 yn unol â newidiadau a gyflwynwyd gan y DVLA o 8 Mehefin 2015 gan nad oes ganddynt unrhyw statws cyfreithiol mwyach. Ni allwn hefyd dderbyn trwyddedau gyrru â cherdyn llun sydd wedi dod i ben.

Dogfen 2

  • bil cyfleustodau h.y. bil nwy/trydan/ffôn

  • dogfen swyddogol h.y. gohebiaeth gan fanc/cymdeithas adeiladu.

Ni ddylai'r uchod fod yn fwy na 3 mis oed. Mae rhaid i bob dogfen fod yn wreiddiol. Ni fyddwn yn derbyn llungopïau. Rydym yn cynghori eich bod yn anfon eich dogfennau hunaniaeth trwy ddulliau diogel. Bydd eich dogfennau'n cael eu dal yn ddiogel gan MaPS a'u hanfon yn ôl atoch trwy eu hanfon yn ddiogel cyn gynted ag y byddwn wedi gwirio'ch hunaniaeth 

Manylion cyswllt

Data Protection Officer 
Money and Pensions Service 
Holborn Centre 
120 Holborn 
London 
EC1N 2TD

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cyfeiriwch y rhain i  contact@maps.org.uk

Pryderon ceisiadau unigolyn am wybodaeth

Os ydych yn anfodlon â'r ffordd y mae'ch cais Unigolyn am Wybodaeth wedi'i brosesu a/neu'n dymuno herio'r canlyniadau, gallwch godi pryder â'r Swyddog Diogelu Data MaPs drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn teimlo nad ydym wedi mynd i'r afael â'ch pryderon yn foddhaol, gallwch wedyn eu trosglwyddo i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth trwy eu gwefan www.ico.org.uk neu’n ysgrifenedig i:

Customer Contact 
Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
SK9 5AF

Nodwch - rydym yn cadw gwybodaeth cais unigolyn am wybodaeth am uchafswm o 6 mis rhag ofn y bydd unrhyw bryderon yn cael eu codi. Ar ôl 6 mis mae'r copi o'r wybodaeth cais unigolyn am wybodaeth yn cael ei ddinistrio'n ddiogel.

Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.