Sut i drefnu eich apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn
Croeso i HelpwrArian. Rydym yma i roi arweiniad diduedd am ddim i wneud eich arian a’ch dewisiadau pensiwn yn gliriach.
Rydych wedi cael eich cyfeirio gan eich darparwr pensiwn am apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn am ddim i siarad am drosglwyddo’ch buddion pensiwn.
Cadwch mewn cof bod yr apwyntiad hwn er mwyn eich helpu i ddeall y risg o gael eich twyllo ac osgoi gwneud trosglwyddiad sy'n arwain at golli rhywfaint o’ch cynilion pensiwn neu’r cyfan ohono.
Ewch i’r apwyntiad eich hun. Mae cael rhywun arall i gymryd yr apwyntiad ar eich rhan yn eich rhoi mewn perygl, gan y byddwch yn colli allan ar ganllawiau pwysig.
Os nad ydych yn credu bod angen yr apwyntiad hwn arnoch, cysylltwch â’ch darparwr pensiwn.
Gallwch drefnu drwy ffonio 0800 756 1012 am ddim neu, os ydych chi dramor, drwy ffonio +44 20 7932 5780*
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm amser y DU.
*Efallai y bydd taliadau galwadau rhyngwladol yn berthnasol