Yswiriant car - sut ddylai polisi da edrych?

Mae gan bolisïau yswiriant car lawer o nodweddion – rhai’n bwysig, ac eraill yn llai pwysig. Defnyddiwch y tablau syml hyn i weld pa nodweddion y mae’n ‘rhaid eu cael’ neu ‘dylid eu cael’ neu ‘gellid eu cael’ i sicrhau eich bod yn prynu’r polisi cywir i chi.

Nodweddion mae’n ‘rhaid eu cael’

Nodweddion y bydd polisi da’n rhoi
Nodweddion Bydd polisi da’n rhoi

Sicrwydd ffenestr flaen

Mae’n golygu y caiff eich ffenestr flaen ei hatgyweirio neu ei chyfnewid yn sgil hawliad am golled neu ddifrod.

Hyd at werth ar y farchnad

Cofiwch na fydd ffenestri a thoeon haul yn cael eu cynnwys efallai.

Ac os defnyddiwch atgyweiriwr anghymeradwy gall eich cwmni yswiriant gyfyngu ar y swm y byddant yn ei dalu os digwydd hawliad.

Meddiannau personol

Yn cynnwys colled neu ddifrod i’ch meddiannau personol yn sgil damwain, tân neu ladrad tra’u bod yn eich car. Er enghraifft, bagiau, cryno ddisgiau.

£200 neu fwy

Noder na chynhwysir arian, cardiau credyd neu ddebyd, stampiau a thocynnau fel arfer.

Ni chynhwysir lladrad eitemau a gludir mewn car agored neu gar codi to, oni bai y’i cedwir mewn cist dan glo.

Colled neu ladrad allweddau

Os yw’r allweddau i’ch car, taniad, larwm, llonyddwr, clo llywio neu agorydd drws eich garej yn cael eu colli neu ddwyn bydd yr yswiriwr yn talu tuag at y gost o gyfnewid yr allweddau a’r cloeon cysylltiedig.

£300 neu fwy

Nodwch na fydd sicrwydd gennych os yw’r allweddau, trosglwyddydd y clo neu gerdyn mynediad yn cael eu gadael yn y car neu arno ar adeg y golled, neu’n cael eu cymryd heb eich caniatâd gan aelod o’ch teulu uniongyrchol neu berson sy’n byw yn eich cartref

Disgownt dim hawliad diogeledig

Mae’n diogelu eich disgownt dim hawliad ac yn sicrhau nad ydych yn ei golli yn sgil gwneud hawliad.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi yn caniatáu hyd at ddau hawliad o fewn cyfnod o dair blynedd

Mae terfynau ar y nifer o hawliadau y caniateir i chi eu gwneud mewn cyfnod penodol o amser – mae angen i chi wirio’r hyn a ganiateir gan eich cwmni..

Sicrwydd achub car

Os ydych yn cael damwain sy’n peri na all eich car symud, bydd y cwmni yswiriant yn talu am y gost o symud y cerbyd o leoliad y ddamwain.

Y costau rhesymol am symud y cerbyd o leoliad y ddamwain at yr atgyweiriwr agosaf.

Car cwrteisi

Os ydych yn cael damwain ac mae angen atgyweirio’ch cerbyd, yna darperir car arall i chi i’ch cadw ar y ffordd tra byddwch yn aros am eich car chi.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi

Gall hwn gael ei gyfyngu i nifer benodol o ddiwrnodau er enghraifft 14 i 28 diwrnod.

Yn aml ddim ond pan fydd eich car yn cael ei atgyweirio yn y garej y byddwch yn cael y car cwrteisi.

Atgyweiriadau gwarantedig

Bydd yr yswiriwr yn gwarantu unrhyw waith atgyweirio a wneir gan eu hatgyweiriwyr cymeradwy.

Gwarant am 12 mis

Ni fydd sicrwydd am atgyweiriadau a wneir gan rywun a ddewiswch i wneud y gwaith.

 

Nodweddion y ‘dylid eu cael’

Nodweddion y bydd polisi da’n rhoi
Nodweddion Bydd polisi da’n rhoi

Cyfnewid am gar newydd

Os yw’ch car yn cael ei ddwyn a heb gael ei ailddarganfod neu’n cael ei ddifrodi yn sgil damwain, tân neu ladrad - ac mae cost atgyweirio’n uwch na chanran penodol o bris manwerthu cymeradwy’r gweithgynhyrchwr - gall eich yswiriwr newid eich car am gar newydd sbon o’r un gwneuthuriad a math.

60% o bris y rhestr ac o fewn 12 mis o fod yn newydd

Nodwch na fydd sicrwydd gennych os nad chi yw perchennog cofrestredig cyntaf y cerbyd neu os nad oes car i’w gyfnewid ar gael yn y DU.

Bydd rhaid i’r car fod o dan oedran penodol – fel arfer 12 i 24 mis.

Stereo a llywio â lloeren

Darperir sicrwydd ar gyfer colled neu ddifrod i’ch stereo a/neu gyfarpar llywio â lloeren.

Hyd at werth ar y farchnad (ar gyfer cyfarpar y gweithgynhyrchwr)

Nodwch y gall cyfarpar nad yw wedi dod o’r gweithgynhyrchwr (a brynwyd ar wahân i’r car) fod heb sicrwydd neu â sicrwydd am swm gwahanol.

Cludiant damwain

Os ydych yn cael damwain sy’n peri na all eich car symud, bydd y cwmni yswiriant yn trefnu i chi a’ch teithwyr gael cludiant i ffwrdd o leoliad y ddamwain.

Sicrwydd am hyd at saith o deithiwr yn rhan safonol ohono

Mae rhai yswirwyr yn cyfyngu ar y nifer o deithwyr a gaiff gludiant

Treuliau gwesty

Yn sgil damwain pan na allwch barhau ar eich taith neu fynd adref, bydd y cwmni yswiriant yn talu am gost gwesty i chi a’ch teithwyr.

£250 neu fwy

Unrhyw gostau dros y terfyn a osodwyd i bob person

Llinell gymorth 24 awr

Yn darparu llinell gymorth 24 awr y gallwch ei ffonio os digwydd argyfwng.

Darperir llinell gymorth argyfwng fel rhan safonol ohono

Car cwrteisi colled llwyr

Os yw’ch car yn cael ei ddwyn neu ei ddifrodi y tu hwnt i gael ei atgyweirio am bris rhesymol, bydd yr yswiriwr yn darparu car cwrteisi i chi tra bod eich hawliad yn cael ei setlo.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol ohono

Am gyfnod cyfyngedig y caiff y car ei ddarparu - yn amrywio rhwng 2 a 28 diwrnod

Treuliau cyfreithiol

cymorth cyfreithiol i adennill eich ‘colledion di-yswiriant’ yn sgil damwain nad achoswyd gennych chi. Er enghraifft, hawliadau am anafiadau personol, hurio car neu dreuliau y gallech eu tynnu o ganlyniad i’r ddamwain.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi

Ni fydd sicrwydd gennych am gostau cyfreithiol nad yw’ch cwmni yswiriant wedi cytuno arnynt o flaen llaw

Sicrwydd torri i lawr

Yn darparu cymorth os yw’ch car yn torri i lawr a bod angen ei atgyweirio neu fynd ag ef i garej.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi

Gwnewch yn siŵr nad ydych yn dyblu i fyny os oes gennych sicrwydd torri i lawr ar wahân.

Nid oes sicrwydd am gyfrannau newydd.

Nodweddion y ‘gellid eu cael’

Nodweddion y bydd polis da’n rhoi
Nodweddion Bydd polisi da’n rhoi

Gyrru tramor

Yn darparu’r un lefel o sicrwydd a fydd gennych -  cynhwysfawr, trydydd parti tân a lladrad, neu drydydd parti - pan ydych yn gyrru’ch car tramor.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol ohono

Ni fydd sicrwydd mewn gwledydd sydd heb eu rhestrir o fewn y polisi. Efallai y bydd sicrwydd ar gael ar wahân, ond mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch yswiriwr i gael cadarnhad.

Sedd gar plentyn

Yn sgil damwain, tân neu ladrad caiff eich sedd gar plentyn ei chyfnewid

Yn cael ei chyfnewid heb ystyried a oedd wedi’i difrodi yn y ddamwain neu beidio

Dim ond os bydd difrod gweladwy neu hyd at swm ariannol penodol y bydd rhai polisïau’n cyfnewid y sedd gar.

Car cwrteisi gwell

Yn sgil damwain, fel arfer bydd yswirwyr yn darparu car cwrteisi bach. Bydd y sicrwydd hwn yn rhoi’r opsiwn i wella’r math o gar cwrteisi i un mwy neu gerbyd o faint cyfwerth â’ch cerbyd eich hunan.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol ohono

Ar rai polisïau, caiff defnydd o’r car ei gyfyngu i nifer benodol o ddiwrnodau – rhwng 14 a 28 diwrnod.

Pethau i gadw llygad arnynt

Yr hyn y bydd polisi da yn cadw llygad arnynt
Pethau i gadw llygad arnynt Bydd polisi da’n rhoi

Tâl dros ben difrod damweiniol

Swm o arian mae’n rhaid i chi ei dalu os digwydd hawliad am ddifrod damweiniol.

£100 neu lai

Tâl dros ben cyfnewid ffenestr flaen

Swm o arian mae’n rhaid i chi ei dalu os digwydd hawliad am gyfnewid ffenestr flaen.

Yn aml bydd yswirwyr yn gadael i chi ddewis faint i’w dalu tuag at hawliadau, yn gyfnewid am bremiwm is. Os dewiswch dâl dros ben uwch bydd yn rhaid i chi dalu mwy am bob hawliad.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r tablau uchod yn dangos beth y dylech gadw llygad arno, ond os ydych am wybod am y lefel gywir o sicrwydd, neu gael y fargen orau, dilynwch y dolenni isod:

Yswiriant Car – yr hyn sydd angen i chi gwybod

Yswiriant car i yrwyr ifanc – y ffeithiau allweddol

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.