Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i dudalennau 'Gweld eich pensiwn' y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- darllen y rhan fwyaf o'r wefan ar ddyfeisiau heb sgrin, fel cyfrifiadur braille
- llywio a deall cynnwys pan fydd yn cael ei chwyddo (trwy ddefnyddio meddalwedd fel ZoomText).
Mae yna lawer o opsiynau i chi addasu eich porwr gwe a'ch dyfais a allai eich helpu i lywio'r wefan hon a gwefannau eraill yn haws. Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor defnyddiol ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddioYn agor mewn ffenestr newydd
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MAPS) wedi ymrwymo i wneud gwefan 'Gweld eich pensiwn' yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r tudalennau 'Gweld eich pensiwn'.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AAYn agor mewn ffenestr newydd
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni:
e-bost: [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd
ffôn: 01159 659570Yn agor mewn ffenestr newydd
post: Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein tudalen Cysylltu â Ni.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydym wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, hoffem glywed gennych.
Anfonwch e-bost i ni yn disgrifio’r broblem a dywedwch wrthym ba dudalen roeddech chi’n ei defnyddio pan ddigwyddodd hynny. Anfonwch yr e-bost hwn at [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd.
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)Yn agor mewn ffenestr newydd
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 11 Mehefin 2026. Fe'i diweddarwyd diwethaf ar 9 Gorffennaf 2026.
Profwyd gwefan 'Gweld eich pensiwn' MAPS ym mis Mai 2026, a'i hailbrofi ym mis Mehefin 2026. Cynhaliwyd y profion gan GAIN ac roedd yn cynnwys sampl fawr o'r wefan, wedi'i brofi yn erbyn y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.2Yn agor mewn ffenestr newydd ac ar y cyd â’r cyfuniadau o dechnoleg gynorthwyol, porwyr a meddalwedd a bennwyd gan y GDS.
Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 9 Gorffennaf 2026.