Os ydych yn hunangyflogedig, neu’n meddwl gwneud hynny, mae’n bwysig ystyried eich opsiynau yswiriant personol. Y rheswm am hyn yw, pan ydych yn hunangyflogedig nid oes gennych gyflogwr i ddibynnu arno ar gyfer rhywun i weithio yn eich lle os ydych yn sâl, neu yswiriant iechyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa yswiriant fydd ei angen arnoch?
Pan ddewch yn hunangyflogedig, bydd angen i chi feddwl beth fydd yn digwydd os na allwch weithio oherwydd salwch neu anaf.
Oherwydd eich bod yn gweithio i chi'ch hun, ni chewch dâl salwch, er y gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau'r wladwriaeth
Yswiriant Personol
Pam cael yswiriant?
Mae nifer o bobl hunangyflogedig yn ystyried yswiriant diogelu incwm a salwch critigol rhag ofn iddynt fynd yn rhy sâl neu gael anaf rhy ddrwg i weithio, neu gael salwch difrifol.
Mae pobl sydd â dibynyddion, fel partner neu blant, yn aml yn dewis cael yswiriant bywyd hefyd.
Mae ystod o gynnyrch yswiriant personol ar gael sy’n werth eu hystyried os ydych yn hunangyflogedig.
Diogelu incwm
Mae yswiriant diogelu incwm tymor hir yn eich diogelu petai eich enillion yn lleihau oherwydd salwch neu anaf. Yn ddibynnol ar y telerau ac amodau, bydd eich taliadau yn parhau nes y byddwch yn gallu dychwelyd i’r gwaith neu i’r polisi ddod i ben.
Weithiau gelwir polisïau tymor byr yn gynhyrchion damweiniau, salwch a diweithdra. Fel arfer mae’r rhain yn para am flwyddyn neu ddwy a gallant gynnwys yswiriant diogelu taliadau ac yswiriant taliadau morgais ac maent wedi eu dylunio i dalu am unrhyw ddyledion sydd gennych heb eu talu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant diogelu incwm?
Sicrwydd salwch critigol
Dyma bolisi yswiriant hirdymor. Fel arfer mae’n talu cyfandaliad di-dreth allan os ydych yn cael diagnosis o un o’r afiechydon difrifol sydd wedi eu cynnwys yn eich polisi.
Mae’r rhain fel arfer yn cynnwys rhai canserau, trawiad ar y galon a strôc.
Cafodd ei ddylunio i dalu dyledion yn llwyr, neu forgais, neu dalu am unrhyw addasiadau sydd eu hangen yn eich cartref – er enghraifft, fel y gallwch ddefnyddio cadair olwyn.
Dim ond rhai cyflyrau neilltuol a ddiogelir gan y polisïau hyn. Nid yw anhwylderau cyffredin sy’n atal pobl rhag mynd i’w gwaith megis problemau cefn a straen yn cael eu diogelu.
Fel arfer ni fydd yswiriant salwch critigol yn talu os byddwch yn marw, felly efallai na fydd yn cynnig diogeliad addas i unrhyw ddibynyddion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant salwch critigol?
Yswiriant bywyd
Bydd yr yswiriant hwn yn talu cyfandaliad i’ch dibynyddion fel arfer, ond gall roi taliadau rheolaidd, os byddwch farw.
Efallai eich bod wedi cael yswiriant bywyd fel rhan o becyn pan oeddech yn gyflogedig – adnabyddir hwn yn aml yn fudd-dal marw mewn gwasanaeth.
Bydd hwn wedi dod i ben pan ddaeth eich cyflogaeth i ben.
Mae’n werth ystyried yswiriant bywyd, os oes gennych blant neu ddibynyddion rydych yn gofalu amdanynt neu sy’n dibynnu arnoch yn ariannol.
Ni allwch ddibynnu ar y llywodraeth i ofalu am eich teulu – mae’r arian y byddent yn ei gael gan y wladwriaeth yn llawer is nag y mae’r rhan fwayf o bobl yn ei ddisgwyl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?
Yswiriant meddygol preifat
Gall yr yswiriant hwn atodi’r hyn sydd ar gael ar y GIG.
Mae rhai pobl hunangyflogedig yn dewis cymryd yswiriant meddygol gan eu bod yn dymuno diogelu eu hunain rhag peidio â bod yn y gwaith a cholli enillion os ydynt yn disgwyl am driniaeth GIG.
Efallai bod eich cyflogwr wedi cynnig yr yswiriant iechyd hwn fel budd cyflogai. Ond unwaith y dewch yn hunangyflogedig nid ydych bellach yn gymwys i’w gael.
Os gallwch fforddio’r premiymau, gallai fod yn werth ei ystyried gan ei fod yn caniatáu i chi ddewis lefel y gofal a gewch a sut a phryd mae’n cael ei ddarparu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant meddygol preifat?
Awgrymiadau chwilio am y cynnig gorau
A oeddech arfer bod yn gyflogedig ac yn elwa o gael yswiriant, er enghraifft, yswiriant bywyd neu yswiriant meddygol preifat? Yna gallech barhau â’r un darparwyr.
Gwiriwch â’r darparwr faint fyddai’r gost o barhau â’r yswiriant.
Mae’n debygol o fod yn fwy costus ar gyfer polisi unigol na phan yr oedd pan oeddech yn gyflogedig.
Mae’n feincnod da hefyd i’ch caniatáu i gymharu prisiau a pholisïau wrth i chi chwilio am y cynnig gorau.
Dysgwch sut i ddod o hyd i'r cynnig gorau yn ein canllaw Sut i brynu yswiriant gan ddefnyddio gwefannau cymharu
Rhedeg busnes o gartref
Os ydych yn rhedeg eich busnes o'ch cartref, mae'n bwysig peidio â chymryd yn ganiataol y bydd eich yswiriant cartref personol yn eich diogelu.
Mae polisïau yswiriant cartref a chynnwys, neu’ch yswiriant busnes, fel arfer yn cynnwys offer busnes yn eich cartref.
Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng cael yswiriant os ydych yn gweithio gartref o bryd i’w gilydd, a rhedeg busnes o’ch cartref.
Os ydych yn gweithio o gartref, gwnewch yn siŵr bod eich yswiriwr yn deall hyn a dylech wirio’r telerau ac amodau i weld a oes angen unrhyw yswiriant ychwanegol arnoch.
Mae hyn oherwydd os ydych yn rhedeg busnes neu’n gweithio o’ch cartref, gallai eich yswiriwr newid y ffordd y mae'n asesu'ch yswiriant.
Os ydych yn sefydlu’ch busnes o adref, y peth gorau i’w wneud gyntaf yw siarad â’ch yswiriwr presennol ac egluro’ch cynlluniau.
Efallai y bydd yn gofyn am bremiwm ychwanegol ar eich yswiriant presennol.
Os nad ydych yn rhoi gwybod i’ch yswiriwr ac angen hawlio, efallai y bydd eich yswiriant yn annilys ac ni chaiff eich hawliad ei dalu.