Weithiau mae cyflogwyr yn cynnig dileu swydd yn wirfoddol i osgoi dileu swydd yn orfodol. Mae manteision i fod yn y sefyllfa hon, ond mae’n bwysig pwyso a mesur yr holl fanteision ac anfanteision cyn derbyn diswyddo gwirfoddol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
A allwch fforddio derbyn diswyddo gwirfoddol?
Gallai diswyddo gwirfoddol edrych fel syniad da gan byddwch yn cael cyfandaliad sydd fel arfer yn fwy na beth mae rhaid i’ch cyflogwr ei roi i chi yn unol â’r contract.
Ond cyn i chi benderfynu, mae’n bwysig gweithio allan faint o arian byddai gennych i fyw arno.
Cadarnhewch eich taliad diswyddo
Pwysig
Sicrhewch eich bod yn cael ffigwr taliad diswyddo yn ysgrifenedig gan eich cyflogwr
Dechreuwch trwy weld faint yn union y byddwch yn ei gael gan eich cyflogwr.
Dylech gael cynnig taliad wedi ei seilio ar:
- eich oedran
- eich cyflog presennol, ac
- yr amser rydych wedi bod yn gwneud eich swydd.
Mae’r ffigwr yn debygol o fod yn uwch na’r hyn y byddech yn ei gael fel tâl diswyddo statudol.
A oes gennych yswiriant os derbyniwch ddiswyddo gwirfoddol?
Gwiriwch y print mân
Mae llawer o bobl yn cael ergyd annisgwyl pan fyddant yn darganfod nad yw eu hyswiriant diogelu tâl yn cychwyn pan fyddant yn gwirfoddoli i ddileu eu swydd. Darllenwch y print mân
Nesaf, edrychwch a oes gennych yswiriant diogelu taliadau ar eich morgais, sy’n talu os ydych yn colli’ch swydd, ar eich:
- benthyciad
- morgais
- cerdyn credyd, neu
- yswiriant diogelu incwm tymor byr.
Darganfyddwch a fyddwch wedi’ch diogelu os derbyniwch diswyddo gwirfoddol.
Os dewiswch diswyddo gwirfoddol yn hytrach na’i gael wedi ei orfodi arnoch, ni fydd cwmnïau yswiriant yn talu fel arfer.
Bydd hyn yn golygu y bydd arnoch angen ymdopi â’ch ad-daliadau bob mis. Mae hynny’n gost mawr os nad oes gennych arian yn dod i mewn.
Pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt os derbyniwch ddiswyddo gwirfoddol?
Cyn gynted â byddwch yn stopio gweithio, mae'n syniad da darganfod a oes hawl gennych i unrhyw gymorth.
Os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol gymwys ac rydych yn chwilio am waith newydd efallai galwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd (JSA dull newydd).
Gallwch wneud cais am JSA dull newydd ni waeth faint yw incwm na chynilion eich cartref ac mae'n cael ei dalu am hyd at chwe mis.
Os yw incwm eich cartref yn isel iawn (neu nad ydych yn gymwys i gael JSA dull newydd), efallai gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu â chostau hanfodol a threuliau eraill, fel eich rhent neu fagu plant.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau prawf modd yn barod, fel credydau treth, neu Fudd-dal Tai, gallai colli'ch swydd olygu bod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.
Bydd beth a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a'ch cynilion – gan gynnwys eich pecyn diswyddo.
- I ddarganfod beth allwch fod â hawl i’w gael defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau. Ar y dudalen canlyniadau bydd dolenni am sut y gallwch wneud cais ar-lein
- Os na allwch wneud cais am y budd-daliadau mae gennych hawl iddynt ar-lein, ffoniwch neu fynd i'ch Canolfan Byd Gwaith leol. Darganfyddwch yr un agosaf ar wefan DWP
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’ch Jobs and Benefits Office leol. Darganfyddwch yr un agosaf atoch ar wefan nidirect
Gwnewch gyllideb
Edrychwch ar yr arian sydd gennych yn mynd allan bob mis a chyfrif faint fydd angen arnoch i dalu eich biliau, dyledion a chostau byw.
Am ba hyd bydd eich arian diswyddo’n para? Gallai diswyddo gwirfoddol newid eich bywyd - ond sicrhewch eich bod yn ei newid er gwell.
Chwiliwch y farchnad swyddi
Os ydych yn awyddus i symud i swydd newydd, newid gyrfa, ail-hyfforddi neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun, gallai derbyn diswyddo gwirfoddol fod yn gam cyntaf da.
Ond mae’n werth darganfod sut olwg sydd ar y farchnad swyddi. A byddwch yn realistig ynghylch faint o amser y gallwch bara heb incwm rheolaidd.