Hawlio eich ad-daliad treth ar ôl colli eich swydd

Os ydych wedi’ch diswyddo neu golli’ch swydd yn ddiweddar, efallai y gallech hawlio ychydig o’r dreth yn ôl a daloch pan oeddech yn gweithio. Gelwir hyn yn cael “ad-daliad treth”.

Sut i hawlio treth yn ôl ar ôl cael eich diswyddo neu golli’ch swydd

Cam 1 – A oes ad-daliad treth yn ddyledus i chi?

Efallai y bydd ad-daliad yn ddyledus i chi os byddwch yn ateb ‘ie’ i bob un o’r cwestiynau isod.

  • A gawsoch eich diswyddo neu golli eich swydd hanner ffordd drwy’r flwyddyn dreth? Mae’r flwyddyn dreth yn dechrau ar y 6 Ebrill ac yn gorffen ar y 5 Ebrill canlynol.
  • Oeddech yn gyflogedig ac yn talu treth trwy TWE (Talu Wrth Ennill)?
  • A ydych dal allan o waith?

Bydd y swm allwch ei gael yn ôl yn dibynnu ar:

  • faint y gwnaethoch ennill ers i’r flwyddyn dreth ddechrau
  • faint o dreth y gwnaethoch ei thalu ar yr enillion hynny ac unrhyw incwm arall.

Cam 2 – Edrychwch ar faint o dreth sy’n ddyledus i chi

Mae yna teclyn gwirio treth syml ar wefan Cyllid a Thollau EM (CThEM).

Ni ddylai ond cymryd ychydig funudau i weld yn fras faint o arian y gallwch ei hawlio.

Cyn defnyddio’r gwiriwr treth byddwch angen dod o hyd i beth gwaith papur, fel slipiau cyflog a datganiadau banc - ond mae hynny i gyd yn cael ei egluro ar eu gwefan.

Cam 3 – Hawlio eich treth yn ôl

Bydd y ffordd o fynd ati i gael eich ad-daliad yn dibynnu ar:

  • pa mor hir rydych wedi bod yn ddi-waith
  • p‘un a ydych wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau trethadwy ers i chi golli eich swydd
  • p'un a ddaethoch o hyd i swydd arall o fewn o leiaf pedair wythnos i'ch diwrnod olaf o gyflogaeth â thâl.

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu fudd-daliadau trethadwy eraill

Os ydych wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau trethadwy ers i chi golli eich swydd, bydd eich Swyddfa Fudd-daliadau yn talu eich ad-daliad.

Mae hyn oherwydd bod y dreth rydych yn ei thalu ar eich budd-daliadau yn effeithio ar faint y swm sydd arnoch.

Mae budd-daliadau trethadwy yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith a Lwfans Gofalwr.

Byddwch angen anfon rhannau 2 a 3 o’ch P45 i’r Swyddfa Fudd-daliadau i hawlio eich ad-daliad treth. Mae’n bwysig i gadw rhan 1A ar gyfer eich cofnodion.

Byddant yn cyfrifo eich ad-daliad ac yn ei dalu un ai ar ôl diwedd y flwyddyn dreth neu ar ôl i chi orffen hawlio budd-daliadau trethadwy, pa bynnag un sy’n dod gyntaf.

Os byddwch yn dechrau swydd newydd yn y cyfamser, bydd eich cyflogwr newydd yn ad-dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus i chi drwy TWE (Talu Wrth Ennill).

Rhowch rannau 2 a 3 o’ch P45 iddynt - gan gadw rhan 1A ar gyfer eich cofnodion. Byddwch yn cael eich ad-daliad gyda’ch cyflog.

Rhowch rannau 2 a 3 o’ch P45 i’ch cyflogwr i hawlio eich ad-daliad treth.

Os ydych wedi bod allan o waith am o leiaf pedair wythnos

  • Gallwch hawlio ad-daliad treth trwy lenwi ffurflen P50. Lawrlwythwch ffurflen P50 o wefan GOV.UK
  • Cysylltwch â CThEM cyn llenwi’r ffurflen a byddant yn dweud wrthych chi pa wybodaeth arall fydd angen i chi ei rhoi iddynt. Gwnewch hyn drwy wefan GOV.UK neu ffoniwch 0300 200 1900.
  • Anfonwch hon at CThEM gyda rhannau 2 a 3 o’ch P45.

Dylech gael eich ad-daliad yn y post o fewn y flwyddyn dreth.

Treth ar eich arian diswyddo

Mae hyd at £30,000 o dâl diswyddo yn ddi-dreth.

Ond os yw eich arian diswyddo yn cynnwys tâl gwyliau neu dâl yn lle rhybudd yna bydd yn rhaid i chi dalu treth arno yn union fel ar eich tâl arferol.

Mae’n bwysig peidio â chymryd yn ganiataol bod eich cyflogwr wedi cael eu cyfrifiadau yn gywir.

Gallai’r dreth a ddidynnwyd fod yn ormod neu’n rhy ychydig - a chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i CThEM. Gallwch wneud hyn ar wefan GOV.UK

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.