Treth a chyflog ail swydd

Mae llawer o bobl yn cymryd ail swydd i greu arian ychwanegol, neu fel cam ar y ffordd i ddechrau eu busnes eu hunain. Ond efallai na fyddan nhw’n ymwybodol o’u hawliau yn ymwneud â chymryd ail swydd a sut y byddan nhw’n talu treth ac Yswiriant Gwladol. 

A all fy nghyflogwr fy atal rhag cael ail swydd?

Un o’r cwestiynau cyntaf sydd angen i chi ofyn i’ch hunan yw, a yw’ch cytundeb cyflogaeth bresennol yn caniatáu i chi gymryd ail swydd.

Dylech fod wedi derbyn copi o’ch cytundeb pan ddechreuoch weithio i’ch cyflogwr. Os nad oes gennych un, dylai’ch cyflogwr neu adran Adnoddau Dynol allu darparu un i chi.

Mae’n bosibl y gallai eich cyflogwr eich atal rhag cymryd swyddi ychwanegol mewn sefyllfaoedd lle:

  • gallai gwrthdaro buddiannau godi, er enghraifft, gweithio i gwmni sy’n cystadlu
  • gallai’ch ail swydd ddwyn anfri ar eich cyflogwr.

Os nad ydych yn siŵr, gwiriwch eich cytundeb. Os nad oes unrhyw beth am ail swyddi wedi’i nodi ynddo, ni all eich cyflogwr eich atal chi rhag cymryd swydd arall.

Beth yw fy hawliau wrth weithio mewn ail swydd?

Hawliau a chytundebau

Gan ddibynnu ar eich statws cyflogaeth, mae gennych hawliau yn y gwaith, p’un ai dyma’r swydd gyntaf neu ail swydd.

Beth bynnag yw’ch statws cyflogaeth - os ydych yn cael eich cyflogi gan rywun arall, dylech gael cytundeb cyflogaeth.

Dylai hyn amlinellu, ymhlith pethau eraill:

  • eich teitl swydd
  • cyfrifoldebau
  • cyflog
  • oriau gwaith
  • y buddion sydd gennych hawl iddynt.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan bron bob un gweithiwr yn y DU hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol - neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych yn 23 oed neu’n hŷn. O 1 Ebrill 2024, bydd hwn hefyd yn berthnasol i weithwyr dros 21 oed. 

Oriau gwaith

Yn ôl y gyfraith, ni all eich cyflogwr ofyn i chi weithio mwy na chyfartaledd o 48 awr yr wythnos mewn unrhyw un swydd.

Serch hynny, os ydych dros 18 oed gallwch ddewis gweithio mwy o oriau na hyn. Ac mae’n bosibl y bydd angen i chi os ydych yn dymuno cymryd ail swydd.

Treth Incwm ar ail swyddi

Os ydych yn gweithio, mae gennych yr hawl i ennill swm penodol o arian heb dalu Treth Incwm. Gelwir hyn yn Lwfans Personol ac mae’n £12,570 ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24.

Dim ond un Lwfans Personol a gewch - felly mae’n well ei gymhwyso i’r swydd sy’n talu’r mwyaf.

Os ydych yn gweithio dwy swydd ac nad yw’r naill incwm na’r llall yn uwch na £12,570 gallwch rannu’ch Lwfans Personol.

Enghraifft 1: Os oes gennych ddwy swydd

Mae Jane yn gweithio dwy swydd. Mae ei phrif swydd yn talu £14,000 y flwyddyn a’r ail yn talu £6,000.

Mae ei Lwfans Personol cyfan yn cael ei gymhwyso i’w phrif swydd. Os yw’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, mae’n talu treth incwm ar Radd Sylfaenol o 20% ar yr £1,430 o’i chyflog sydd dros y lwfans ar gyfer ei phrif swydd ac ar ei holl incwm ar ei hail swydd.

Enghraifft 2: Dwy swydd o dan y Lwfans Personol

Mae gan Richard ddwy swydd, mae ei brif swydd yn talu £10,000 y flwyddyn a’i ail swydd yn talu £9,000.

Mae’r ddwy o dan y Lwfans Personol, felly gall rannu ei lwfans rhwng y ddwy swydd.

Gall gysylltu â CThEM a gofyn iddynt drosglwyddo £2,570 o lwfans heb ei ddefnyddio o’i brif swydd i’w ail swydd, neu fe all aros hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth a gofyn i CThEM am ad-daliad.

Dim ond os yw’ch incwm o bob swydd yn rhagweladwy ac yn sefydlog y dylech ofyn i’ch Lwfans Personol gael ei rannu. Os nad ydyw a bod un swydd yn talu mwy na’r disgwyl, ni fyddwch wedi talu digon o dreth.

Enghraifft 3: Os yw’ch enillion cyfun dros £50,271

Mae prif swydd Rebecca yn talu £45,000 y flwyddyn iddi, ond mae ganddi swydd ran amser hefyd sy’n talu £12,000 y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod ganddi gyfanswm incwm o £57,000, gyda’i holl Lwfans Personol yn cael ei gymhwyso i’w phrif swydd.

Oni bai bod Rebecca yn dweud wrth CThEM, bydd ei hail swydd yn cael ei threthu yn gyfan gwbl ar y Gyfradd Sylfaenol, pan ddylai rhan ohoni gael ei threthu ar y gyfradd uwch.

Os nad yw’n dweud wrth CThEM am hyn, bydd angen iddi dalu treth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Codau Treth ar gyfer ail swyddi

Mae’n bwysig i wirio eich codau treth. Bydd hyn yn helpu sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth ac nad ydych chi’n cael eich taro â biliau treth annisgwyl, taliadau cosb a llog.

Dylai’ch prif swydd, gan gymryd ei fod yn talu mwy na’r Lwfans Personol, fod yn 1257L ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24.

Dylai’ch ail swydd fod â chod treth BR, D0 neu D1, gan ddibynnu ar a ydych yn cael eich trethu ar y Gyfradd Sylfaenol, Uwch neu Ychwanegol.

Mae eich cod treth i’w weld ar eich slipiau cyflog.

Yna, gallwch roi gwybod i CThEM am ddechrau ar ail swydd gan ddefnyddio’r rhestr wirio dechreuwr newydd gan eich cyflogwr newydd.

Yswiriant Gwladol ar ail swydd

Os ydych yn ennill mwy na £242 yr wythnos yn y flwyddyn dreth 2023/24, bydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Os byddwch yn ennill mwy na hyn yn eich dwy swydd, byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y ddwy swydd.

Sut y bydd cael ail swydd yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Gall cymryd ail swydd effeithio ar eich credydau treth neu fudd-daliadau eraill. Felly rhaid i chi gyfrifo faint yn ychwanegol y byddwch yn ei ennill.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, ac nad ydych yn cael y lwfans gwaith, bydd eich taliad yn gostwng 63c am bob £1 a enillir.

Os ydych dal i hawlio Credyd Treth Gwaith, bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd eich incwm yn newid gan fwy na £2,500. Ond gallai hyn gyfrif fel newid mewn amgylchiadau ac fe allai olygu y gallai fod angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.

Ail swydd a phensiynau

Gallai cymryd ail swydd roi cyfle i chi dalu i gynllun pensiwn gweithle arall. Ond, cofiwch olrhain unrhyw bensiynau bychain rydych wedi talu iddynt.

Os ydych yn talu cyfanswm bychain i mewn i bensiwn yn eich ail swydd, efallai y byddai o fudd ei uno gyda phensiwn mwy pan fyddwch yn gadael.

Os ydych eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, neu fod gennych bensiwn personol neu alwedigaethol, a’ch bod yn gweithio hefyd, mae’n bosibl y bydd goblygiadau treth.

Unwaith eto, mae’n bwysig iawn sicrhau eich bod yn talu’r cyfanswm cywir o dreth a bod gennych y cod treth gywir.

Hunangyflogedig fel ail swydd

Os ydych yn gweithio’ch ail swydd yn hunangyflogedig, yna bydd angen i chi:

  • gofrestru yn hunangyflogedig gyda CThEM
  • ffeilio ffurflen dreth Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn
  • talu eich treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun.

Gan eich bod yn hunangyflogedig, ni fyddwch yn cael slip cyflog. Felly bydd angen i chi fod yn ofalus am eich cod treth ar eich swydd arall.

Fel arfer, dylech ystyried y swydd sy’n talu’r cyflog uchaf fel eich prif swydd.

Serch hynny, os mai hunangyflogedig yw’ch ail swydd efallai na fyddwch yn gwybod faint yn union rydych yn ei ennill. Mae hyn o bosibl yn ei gwneud hi’n anodd sicrhau eich bod yn cymryd eich Lwfans Personol llawn.

Os yw’r ddwy swydd yn talu o dan y Lwfans Personol, mae gennych yr hawl o hyd i rannu’ch lwfans rhyngddynt.

Os yw un o’ch swyddi yn hunangyflogedig, byddwch yn talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol blwyddyn mewn ôl-ddyled.

Er enghraifft, ar gyfer yr arian y byddwch yn ei ennill yn y flwyddyn dreth 2022/23, bydd angen i chi dalu’r treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol dyledus erbyn 31 Ionawr 2024.

Golyga hyn ei bod hi’n bwysig iawn i chi ystyried sut y gallwch dalu’r hyn a allai fod yn fil sylweddol. Y newyddion da yw y dylai fod gennych syniad faint o dreth sy’n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn rhoi naw mis i chi baratoi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.